Logan Mwangi: Mam ddim yn ei adnabod yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Logan Mwangi

Mae llys wedi clywed bod y ddynes sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei bachgen pump oed wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd yn adnabod ei mab gan mor ddifrifol ei anafiadau.

Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi yn Afon Ogwr ger ei gartref yn ardal Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr fis Gorffennaf y llynedd - roedd ganddo 56 o anafiadau mewnol.

Ddydd Iau clywodd Llys y Goron Caerdydd fod llystad y bachgen John Cole, 40, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi cael ei ddeffro gan Angharad Williamson, 31 - roedd hi'n sgrechian bod Logan wedi marw.

Mae mam Logan, Angharad Williamson sy'n 31, ei lystad John Cole, 40, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi yn gwadu llofruddiaeth.

Brynhawn Iau fe gafodd y cyfweliadau rhwng yr heddlu a Ms Williamson eu darllen i'r rheithgor ac fe gafodd hi ei holi am bob un o anafiadau Logan.

Cafodd y cyfweliadau eu cynnal yng Ngorsaf Heddlu Pen-y-bont.

Dywedodd ei fam: "Pan aeth e i'r gwely doedd ganddo yr un o'r anafiadau yna."

Cafodd Logan ei ganfod gyda 56 o anafiadau - roedd cefn ei ben wedi ei gleisio yn ddifrifol ac roedd yna rwygiadau i'w iau a'i goluddyn.

Pan ddywedodd yr heddlu wrthi am y ddau anaf gofynnodd: "Ydi hynna'n golygu ei fod wedi dioddef?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Logan, Angharad Williamson sy'n 31, ei lystad John Cole, 40, a bachgen 14 oed na ellir ei enwi yn gwadu llofruddiaeth

Fe wnaeth yr heddlu ofyn hefyd i Ms Williamson ai hi a achosodd anafiadau Logan.

Atebodd hi: "Na, nid fi, syr."

Dywedodd pan welodd hi Logan yn yr ysbyty na wnaeth hi ei adnabod oherwydd ei anafiadau.

Fe wnaeth hi wadu bod anafiadau ei mab wedi cael eu hachosi wrth iddi hi ei daro a dywedodd wrth swyddogion ei bod wedi anfon Logan i'r gwely heb ei swper y noson cyn i'w gorff gael ei ddarganfod.

Dywedodd: "Fe aethon ni i roi swper iddo ond roedd e'n ddrwg ac fe dynnon ni'r swper oddi arno. Dim ond unwaith rwy' wedi gwneud hynny o'r blaen.

"Dyw colli un pryd ddim yn ddiwedd y byd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod yn Afon Ogwr ar 31 Gorffennaf 2021

Mae'r tri diffynnydd yn gwadu llofruddiaeth.

Maen nhw hefyd wedi eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, gan gynnwys symud corff Logan i'r afon ger Parc Pandy, tynnu ei ddillad, golchi dillad gwely â lliw gwaed, a gwneud adroddiad person coll ffug i'r heddlu. John Cole yw'r unig un o'r tri sydd wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad hwnnw.

Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig