Camau i helpu disgyblion wneud synnwyr o'u teimladau
- Cyhoeddwyd
Mewn ystafell fach mewn ysgol gynradd yng nghanolbarth Cymru, mae'r awyrgylch yn dawel ac yn heddychlon.
Mae'r ystafell synhwyraidd yn Ysgol Cwm Banwy, Llangadfan ym Mhowys yn lle i'r plant fyfyrio, ymlacio ac i drafod eu hemosiynau a'u teimladau.
Ym mis Mawrth 2020, fe gaeodd ysgolion am rai misoedd a bu pryderon ar effaith addysgol hynny ar blant.
Fe benderfynodd y pennaeth felly ymateb i'r heriau oedd yn wynebu rhai o'r disgyblion.
'Llawer o orbryder'
"Yn amlwg, roedd y cyfnod clo yn anodd iawn i'r plant yn gorfod hunan-ynysu, yn gorfod aros adref a ddim yn gweld eu ffrindiau," meddai Betsan Llwyd.
"Wrth i'r plant ddychwelyd mi wnaethon ni weld bod 'na 'lawer o orbryder a fwy o bryder na'r arfer am resymau naturiol. Felly mi wnaethon ni dreialu cynnal ystafell synhwyraidd."
Ffrindiau'r Ysgol wnaeth fuddsoddi mewn adnoddau i greu'r ystafell i helpu'r plant adnabod a deall gwahanol emosiynau.
"Dyna be ry'n ni'n drio ei hyrwyddo wrth gynnal sesiynau trafod," meddai Ms Llwyd, "o hapusrwydd i fod yn flin, i deimlo'n drist ar adegau a sut maen nhw'n ymdopi'r gyda'r teimladau yma."
Am ddiwrnod yr wythnos mae'r plant yn Ysgol Cwm Banwy hefyd yn cael treulio diwrnod cyfan yn yr awyr agored gydag ymarferydd creadigol i greu gardd coffa.
Mae yna gi, Beti, hefyd yn dod mewn i'r ysgol.
"Da ni'n trio gafael yn rhai o'r agweddau yma ry'n ni wedi gweld yn negyddol ar ymddygiad y plant a'u troi nhw'n bositif ac i arbrofi mewn gwahanol systemau i wella lles y plant," ychwanegodd Ms Llwyd.
Mae'r disgyblion ym Mlwyddyn 2 yn dweud eu bod nhw'n elwa drwy fynd i'r ystafell synhwyraidd.
Beth ydy ymateb y disgyblion?
"Mae o'n gallu cael ti i ymlacio ac i greu ti'n hapus," meddai Daniel.
Fe wnaeth y cyfnodau clo wneud i Nansi deimlo'n drist, ond mae'n dweud ei bod yn falch o fod yn ôl yn yr ysgol.
"Dwi'n hoffi'r lliwiau sydd yna," meddai. "Dydi o ddim mor swnllyd â'r dosbarth."
Mae'r tedis yn yr ystafell yn gwneud i Betsan deimlo'n hapus.
"Weithiau pan dwi'n drist mae o'n gwneud fi lot gwell," meddai.
Disgyblion yn dyfeisio ap
Nid Ysgol Cwm Banwy ydy'r unig ysgol sydd wedi bod yn ddyfeisgar wrth ymateb i effeithiau Covid-19 ar blant.
Mae disgyblion ym Merthyr Tudful wedi dyfeisio ap i roi hwb i'w hapusrwydd a'u hiechyd.
Mae'n cynnwys cerddoriaeth i ymlacio, ryseitiau iechyd a map o lefydd yn yr ardal lle y gall teuluoedd fynd i ymarfer corff.
Mae'r ap hefyd yn cynnwys ci'r ysgol, Max, wnaeth ymuno ag Ysgol Gynradd Pantysgallog yn ystod y pandemig.
Fe wnaeth Chloe, 10, weithio ar y cynnwys, ac mae hi'n dweud ei bod eisiau helpu gan fod "iechyd meddwl pawb" wedi cael ei effeithio gan Covid-19.
Fe ddechreuodd y gwaith ar yr ap ym mis Medi 2021 pan benderfynodd y disgyblion eu bod eisiau canolbwyntio ar iechyd a lles wedi'r cyfnodau clo a phan gaeodd ysgolion.
"Nhw wnaeth yr holl benderfyniadau," dywedodd y Dirprwy Bennaeth Hannah Trinder.
Bu'r pandemig yn gyfnod anodd, meddai, "ond mae'r prosiect yma wedi bod yn berffaith i'r disgyblion allu canolbwyntio arno".
Fe wnaeth y disgyblion greu'r holl ddeunydd - o ffilmio fideos, i wneud penderfyniadau am y dylunio a'r ysgrifennu.
Roedden nhw'n gyfrifol am adeiladu'r ap hefyd gyda help cwmni Value Added Education o Gasnewydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2022