Treblu arian cefnogi iechyd meddwl staff ysgolion

  • Cyhoeddwyd
Cefnogaeth lles a iechyd meddwl i staff ysgolionFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae ceisio cefnogi plant sy'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl yn gallu gadael "craith" ar rai athrawon, yn ôl un pennaeth.

Mae Wyn Evans, pennaeth Ysgol Maes y Gwendraeth yng Nghefneithin yn Sir Gaerfyrddin, yn dweud nad oes gan nifer o staff yr arbenigedd i ddelio â'r heriau mwyaf dwys.

Daw ei sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yr arian ar gyfer cymorth iechyd meddwl a llesiant i athrawon yn cael ei dreblu yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd y swm yn codi o £350,000 i £1.25m yn ystod 2022-23.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arian ychwanegol yn rhan o 'ddull ysgol gyfan' o ymdrin â llesiant staff yn dilyn heriau'r ddwy flynedd ddiwethaf

Mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn rhan o gynllun peilot gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda sy'n cynnig cwnsela i'r plant.

Roedd hwnnw ar gael dridiau'r wythnos, ond gan bod cymaint o blant yn cael eu cyfeirio atyn nhw, mae'r gwasanaeth wedi ei ehangu bellach i bum diwrnod.

'Gwneud gwaith gweithiwr cymdeithasol'

Dywedodd Mr Evans fod 'na rôl ehangach i staff ac athrawon ei ysgol erbyn hyn.

"Ry'n ni'n gorfod gwneud tipyn o'r gwaith gweithiwr cymdeithasol traddodiadol o ran delio gyda'r heriau mae'r disgyblion yn cyflwyno ac yn dod atom ni gyda nhw," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Wyn Evans, pennaeth Ysgol Maes y Gwendraeth

"Wrth gwrs mae hwnna yn ei hunan yn creu straen ar yr athrawon achos does dim o'r rheidrwydd yr arbenigedd yn y cefndir a'r hyfforddiant maen nhw wedi cael, ac maen nhw efallai'n clywed pethau dydyn nhw ddim yn gyfarwydd ag e."

Ychwanegodd: "Mae fe'n gadael craith arnyn nhw ei hunain beth maen nhw'n ei glywed. Maen nhw'n mynd adref at eu teuluoedd ei hunain yn meddwl 'mae'r plentyn yma wedi dweud hyn wrtha'i i heddiw... ydyn nhw am fod yn iawn dros nos ac ati yn symud ymlaen?'

"Os chi'n edrych ar yr ochr mwyaf dwys ry'n ni yn sôn am ddisgyblion yn hel meddyliau ac yn trafod cymryd bywydau eu hunain. Y'n ni'n mynd o un pegwn i'r pegwn eithaf yna. Mae fe yn gonsyrn."

Gwahaniaeth mawr

Yn ôl y pennaeth cynorthwyol Rhian Adams, mae Ysgol Maes y Gwendraeth wedi gweld "gwahaniaeth mawr" yn llesiant staff a disgyblion dros gyfnod y pandemig.

"Maen nhw wedi cynyddu a dwysáu yn yr ysgol," meddai.

Dywedodd bod plant yn "ffynnu" gyda threfn a strwythur, ond "pan i chi'n colli hwnna ac yn trio ailgyflwyno hwnna i fywydau disgyblion mae hwnna'n her yn ei hunan".

Disgrifiad o’r llun,

Rosalyn Evans, Swyddog Llythrennedd Emosiynol yr ysgol gyda'r Pennaeth Cynorthwyol, Rhian Adams

Yn ôl Rosalyn Evans, un o swyddogion lles yr ysgol, dyw plant ddim yn gallu cymdeithasu a datblygu perthnasau iach yn yr un ffordd wedi'r pandemig.

Ychwanegodd bod cyfnodau hir adref wedi cael "effaith fawr" ar nifer o blant.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r arian ar gyfer lles disgyblion a staff yn fwy cyffredinol wedi dyblu ers dechrau'r pandemig.

"Mae Covid-19 wedi peri heriau newydd i ysgolion a dysgwyr, wrth i bawb ddod i arfer â'r newidiadau yn ein ffordd o fyw," meddai'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles.

"Mae'r pandemig wedi pwysleisio'r angen inni feithrin gwydnwch drwy gryfhau ac ehangu'r cymorth sydd ar gael i ddysgwyr a staff."

Pynciau cysylltiedig