Cannoedd wedi gadael rêf anghyfreithlon yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
rêf
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y rêf yn dal i fynd erbyn amser cinio ddydd Sul

Mae cannoedd o bobl wnaeth fynychu rêf anghyfreithlon yn Sir Gâr bellach wedi gadael yn heddychlon.

Fe wnaeth swyddogion Heddlu Dyfed-Powys ymateb wedi i rêf cael ei drefnu mewn chwarel coedwig ger Llanymddyfri.

Fe gysylltodd trigolion lleol â'r llu gan fynegi pryder ynghylch yr hyn oedd yn mynd ymlaen yng Nghoedwig Crychan yn ardal Halfway yn yr oriau mân ddydd Sul.

Fe aeth swyddogion yna'n syth a darganfod fod niferoedd mawr o bobl wedi teithio i'r safle, sydd dan ofal Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd y llu nos Sul fod y safle bellach wedi ei glirio, gan ddiolch i bobl leol am eu cefnogaeth.

Daeth gorchymyn i rym dros nos i alluogi'r heddlu i reoli cerbydau o fewn pum milltir i'r safle, ac mae un person wedi cael ei arestio.

Mae'r dyn 22 oed yn y ddalfa ar ôl methu prawf cyffuriau wrth geisio mynd i'r safle.

"Roedd rhai o'r bobl oedd wedi teithio i'r rêf yma wedi dod o lefydd cyn belled â Dyfnaint a Sir Gaerloyw," dywedodd yr Arolygydd Dawn Fencott-Price.

"Cafodd y cyfryngau cymdeithasol eu defnyddio i ddatgelu'r lleoliad ar y funud olaf bosib i atal yr heddlu rhag cymryd mesurau ataliol.

Roedd yr heddlu'n amcangyfrif bod "rhwng 300 a 400 yn y rêf y bore 'ma".

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu ymateb i'r rêf ddydd Sul

"Rydym yn ddiolchgar iawn i drigolion lleol am ein hysbysu am eu pryderon mor gyflym a chaniatáu i swyddogion ddelio â'r sefyllfa yn ymarferol," dywedodd yr heddlu fore Sul.

"Ein blaenoriaeth yw cadw'r ardal yn ddiogel a dod â'r cynulliad anghyfreithlon yma i ben mewn modd amserol a heddychlon.

"Byddwn yn delio'n gadarn ag unrhyw droseddau a ddaw i'r amlwg yn ystod yr ymgyrch yma."

Pynciau cysylltiedig