S4C: 'Y pandemig wedi newid sut mae pobl ishe'u cynnwys'

  • Cyhoeddwyd
Siân Doyle
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Siân Doyle ddechrau ar ei swydd newydd fel prif weithredwr S4C fis Ionawr

Fe fydd S4C yn gwario £7.5m ychwanegol y mae'n ei derbyn ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd ar ddatblygu llwyfannau gwylio'r sianel.

"Mae'r pandemig wedi newid gymaint ar sut mae pobl ishe'u cynnwys," meddai'r prif weithredwr Siân Doyle wrth siarad ar raglen Newyddion S4C.

"Bydd yna lot o waith yn mynd ar ein chwaraewr ni, sef Clic. Lot o waith yn mynd ar greu cynnwys sy'n fwy digidol, fel bod ni'n gwylio pethau ar YouTube."

"Ry'n ni yn barod, o flaen ein setliad ddydd Gwener, wedi dechrau mynd ar Xbox a Fire Sticks fel bod pobl yn gallu gwylio S4C ar ba bynnag blatfform neu ba bynnag lwyfan maen nhw moyn."

Tanlinellodd Ms Doyle yr angen i weithredu "ar frys", ond gwrthododd awgrym fod y broses o ddarparu cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau wedi bod yn araf yn y gorffennol.

'Aros ar flaen y gad'

Dywedodd y prif weithredwr, ddechreuodd ar ei gwaith ym mis Ionawr, bod yna dipyn o waith wedi'i gyflawni eisoes ond mai'r bwriad yw i aros "ar flaen y gad gyda'r farchnad".

"Mae angen tipyn o adnodd i wneud hyn a thipyn o sgiliau," meddai.

"Mae lot o bethau wedi digwydd yn barod ond byddwn ni'n dal i ddatblygu'r llwyfannau - dyw e ddim y math o beth allwch chi aros yn llonydd gyda."

Disgrifiad o’r llun,

Mae S4C wedi penderfynu darlledu rhaglenni mewn manylder uwch ar sianel Freeview 104 yn ystod yr oriau brig

Er mwyn cefnogi datblygiad ei gwasanaethau digidol fe fydd S4C, o fis Ebrill 2022, yn derbyn £7.5m ychwanegol y flwyddyn. Mae'n gynnydd o 9% yng nghyllideb y sianel.

Ond gyda chyllideb gyhoeddus S4C i gael ei darparu'n gyfan gwbl drwy'r ffi drwydded o eleni ymlaen, does 'na ddim sicrwydd ynglŷn â dyfodol y ffi honno ar ôl 2027.

Ym mis Ionawr, dywedodd cadeirydd S4C, Rhodri Williams na fyddai'r sianel yn bodoli "mewn byd masnachol yn unig".

Er hynny, canolbwyntio ar y ddarpariaeth bresennol ydy bwriad y prif weithredwr.

"Ni'n dechrau trafod beth allai ddigwydd a shwt ddylai S4C aros yn gyfoes yn y farchnad newydd hynny, ond i fod yn onest mae gwaith gyda ni i fod yn gyfoes yn yr amser ry'n ni ynddo fe nawr," meddai Ms Doyle.

Cynnwys 'cyffrous iawn'

Fe fu Siân Doyle yn trafod y cynnwys "cyffrous iawn" sydd ar y ffordd i'r sianel yn ystod y tymor nesaf, o'r ddrama Golau gyda'r actorion Joanna Scanlan, Alexandra Roach ac Iwan Rheon, i benodau o Iaith ar Daith.

"Creu cynnwys sydd ishe ni 'neud," Meddai Ms Doyle.

"Bydd rhaid i ni fod yn fwy masnachol a ry'n ni wrth gwrs yn edrych ar hynny drwy edrych ar shwt mae'n cynnwys ffantastig ni'n gallu mynd yn rhyngwladol.

"Ond mae'n rhy gynnar eto i drafod hynny. Mae 'da ni gymaint i wneud i fod yn byw yn gyfoes, a wirioneddol creu cynnwys ffantastig i S4C a'n cynulleidfa ni'n Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys S4C, Yr Egin, yng Nghaerfyrddin

Un datblygiad arwyddocaol yng ngweinyddiaeth y sianel yw'r penderfyniad i ddarlledu rhaglenni yn ystod yr oriau brig mewn manylder uwch ar sianel Freeview 104.

Wrth gael ei holi ynglŷn â'r penderfyniad i gwtogi'r gwelliant mewn ansawdd darlledu i'r oriau brig yn unig, cyfaddefodd Ms Doyle fod cost yn ffactor amlwg.

"Mae'n ffocws ni ar yr oriau brig ac ar ddydd Sadwrn i wneud pethau fel chwaraeon, dramâu a hyn a'r llall," meddai.

"Mae'n rhaid i ni wylio gyda'r gost hefyd o ran beth sy'n mynd i ddigwydd. Ond mae hwnna'n rhywbeth byddwn ni'n edrych arno fe dros y ddwy, dair blynedd nesaf."

'Gwrando ar ein cynulleidfa'

Cyn ei chyfnod gydag S4C, roedd Ms Doyle yn gweithio o fewn y sectorau telegyfathrebu a manwerthu.

Yn gyn-reolwr TalkTalk, fe fu'n arwain tîm o 3,500 o staff fel cyfarwyddwr manwerthu EE. Bydd hon yn her wahanol iawn, ond mae'n un y mae'n ei chroesawu.

"Mae'r ffaith ein bod ni'n gallu creu gwasanaeth mor unigryw i gynulleidfa Cymru yn gyffrous iawn i fi, a dwi wrth fy modd yn gweithio yn y sector, a gweithio gyda'r gynulleidfa," meddai.

"Ry'n ni'n gwrando ar ein cynulleidfa yn fanwl iawn. Mae 'na gymaint i ddod ar S4C, felly edrych 'mlaen."

Pynciau cysylltiedig