Cwpan y Byd Merched FIFA 2023: Cyhoeddi carfan y gemau rhagbrofol
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru, Gemma Grainger, wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Merched FIFA 2023.
Mae 26 o chwaraewyr wedi'u dewis wrth i Gymru baratoi i herio Ffrainc ar 8 Ebrill ar Barc y Scarlets.
Bydd y garfan wedyn yn teithio i Kazakhstan ar 12 Ebrill.
Ar hyn o bryd, mae'r tîm yn yr ail safle yn y rownd rhagbrofol wedi chwe gêm, gyda Chymru yn ennill pedair, un gêm gyfartal a cholli un.
Gyda charfan sydd "bron yn holliach" yn ôl y Gymdeithas Bêl-droed, bydd Josie Green yn dychwelyd ar ôl colli Cwpan Pinatar oherwydd anaf.
Ond, ni fydd Esther Morgan na Hannah Cain yn gallu chwarae oherwydd anafiadau.
Bydd Helen Ward, sydd â 99 cap ar hyn o bryd, a Tash Harding sydd â 98 cap, yn gobeithio dathlu eu canfed yn ystod y gemau nesaf.
Y garfan:
Cymru: Laura O'Sullivan, Olivia Clark, Poppy Soper, Rhiannon Roberts, Josie Green, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rachel Rowe, Lily Woodham, Sophie Ingle, Anna Filbey, Angharad James, Chloe Williams, Charlie Estcourt, Jess Fishlock, Carrie Jones, Ffion Morgan, Megan Wynne, Elise Hughes, Kayleigh Green, Helen Ward, Natasha Harding, Ceri Holland, Chloe Bull, Georgia Walters, Morgan Rogers.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2021