Rhyfel y Falklands: Atgofion milwyr wedi 40 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Rhyfel y Falklands: Atgofion dal yn fyw yn y cof

40 mlynedd ers dechrau Rhyfel y Falklands mae cyn-filwyr wedi bod yn rhannu eu profiadau â BBC Cymru o'r brwydro yn ne'r Iwerydd.

2 Ebrill 1982 oedd hi pan ddaeth y newyddion bod rhai o filwyr Yr Ariannin wedi glanio ar Ynysoedd y Falklands.

Roedd y llywodraeth yn Buenos Aires wedi hawlio ers blynyddoedd mawr mai tiriogaeth Ariannin oedd ynysoedd y Malvinas, ac fe benderfynodd y junta milwrol dan arweiniad y Cadfridog Galtieri mai dyma oedd yr adeg i weithredu.

Roedd yr ymateb o Lundain yn chwyrn - beirniadaeth lem gan y prif weinidog Margaret Thatcher, ac o fewn 24 awr daeth y cyhoeddiad y byddai lluoedd Prydain yn cael eu hanfon 8,000 o filltiroedd i'r de i adennill y tir.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Maldwyn Jones yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig

"Pan ddaeth o ar y newyddion fod Yr Ariannin wedi cymryd drosodd Ynysoedd y Falklands doedd neb ddim callach lle oeddan nhw, d'eud gwir," dywedodd Maldwyn Jones o Fangor oedd yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig.

"Nathon ni byth feddwl basa ni'n mynd ac yna'r peth nesa' oeddan ni'n mynd."

Hefyd o ddiddordeb

Ar ôl cyfnod o hyfforddi ar Fannau Brycheiniog, roedd e a'i gyd-filwyr ar eu ffordd i dde'r Iwerydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Clive Aspden ymhlith y milwyr gafodd eu cludo ar long y QE2

Roedd y daith yn un anarferol i Clive Aspden o Flaenau Ffestiniog. Roedd e ymhlith y milwyr gafodd eu cludo i'r ynysoedd ar long y QE2.

"Oedd pawb yn gwybod oedd hi'n gwch posh - gafodd hi ei newid i gario troops ond oedd hi dal reit posh arni. Da chi ddim yn disgwyl mynd i ryfel mewn cwch fel 'na 'de, oedd o'n od."

Ond ar ôl cyrraedd, daeth i'r amlwg y byddai'r amodau yn rhai anodd. Mae tiroedd yr ynysoedd yn arw, ac roedd gaeaf caled de'r Iwerydd yn prysur agosáu.

"Ar ôl landio ar y tir oedd o fath â bod adra i fi really," meddai Clive.

"Oedd o'n debyg i Mignaint ffordd 'na, oedd o reit od i fod mor bell ond dal edrych fath â adra.

"Oeddach chi'n tyllu tylla. Oedd fath â shell scrapes yna a trenches bach ac oedd rheina yn llenwi 'efo dŵr yn syth - oeddach chi'n twtsio'r mownd ac oedd o'n troi'n ddŵr, so oeddach chi mewn dŵr trwy'r amser, oeddach chi'n wlyb trwy'r amser."

Disgrifiad o’r llun,

Aelod arall o'r Gwrachodlu Cymreig oedd William Howarth

Roedd prinder adnoddau yn broblem hefyd, yn enwedig pan gafodd llong gargo oedd yn cludo offer i luoedd Prydain ei tharo gan awyrennau Yr Ariannin.

"Oedd hi'n dipyn o siop siafins," meddai William Howarth, aelod arall o'r Gwarchodlu Cymreig.

"Doedd 'na ddim digon o awyrennau i symud ni o gwmpas. Roedd ganddo ni gymaint o git ar ein cefnau - o'n ni'n cario 'wbath tebyg i 120lb, tua saith stôn - fel dynes ar fy nghefn - a trio mynd ar draws y tir yna a hwnna'n socian," eglurodd.

"Os oeddach chdi'n ista lawr oedd o'n cymryd dau foi i godi chdi fyny a cario mlaen."

Disgrifiad o’r llun,

Mae profiadau Maldwyn Jones ar gof a chadw ac mae'r medalau ganddo yn ddiogel

Fe barodd yr ymladd am 10 wythnos - ac enwau llefydd fel San Carlos, Mount Kent a Goose Green i'w clywed yn rheolaidd ar fwletinau ac mewn papurau newydd.

Un lleoliad oedd i aros yn y cof i'r Cymry oedd Bluff Cove - yno ar 8 Mehefin roedd aelodau'r Gwarchodlu Cymreig ar long y Sir Galahad yn disgwyl cael eu cludo i'r tir i fod yn rhan o'r ymgyrch i gipio'r brif ddinas Port Stanley.

Cawson nhw eu targedu gan awyrennau Yr Ariannin. Roedd Maldwyn Jones ar y llong y diwrnod hwnnw

"Oni'n gwatcho boi yn gweithio craen, a'r peth nesa' dwi'n cofio gweld ei wyneb o - hollol sioc ar ei wyneb o a na'th o neidio allan o'r craen a wedyn na'th popeth slofi lawr.

"A dwi'n cofio watcho awyren yn fflio drosto ni, a'r peth nesa' roedd y lle'n goleuo fyny yn wyn i gyd llachar, ac mi oedd o'n teimlo fel munuda' ond peth nesa' aeth hi'n dywyll ac a'th petha'n ddistaw," dywedodd.

"Dechrau clywed sŵn wedyn. Y lle'n dechrau llenwi efo mwg, goleuadau'n dod ar, goleuadau'n dod ffwrdd a bob dim amser normal wedyn, a pob dim yn digwydd yn slow-motion."

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Lladdwyd 48 ac anafwyd 97 o filwyr o Gymru yn ystod Rhyfel y Falklands

Cafodd 32 o aelodau'r Gwarchodlu Cymreig eu lladd ar long y Sir Galahad.

O fewn wythnos, roedd lluoedd Prydain wedi cyrraedd Port Stanley, ac fe ildiodd Yr Ariannin.

Roedd y rhyfel ar ben - 74 diwrnod ers i'r Ariannin feddiannu'r ynysoedd.

Bu farw 649 o aelodau byddin Yr Ariannin. Cafodd 255 o Brydain eu lladd.

'Dal yn werth mynd'

"Pryd na'th o ddigwydd - nathon ni ffeindio allan gynta' bo ni'n mynd - da ni'n deud 'pam 'da ni'n mynd mae mor bell i ffwrdd?,'" meddai Clive.

"Ond oedd y bobl oedd yna isio ni yna, a dwi wedi bod nôl wedyn a mae nhw dal yn teimlo'r un peth. Dwi dal yn teimlo oedd o werth mynd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gan William Howarth rai lluniau ohono yn ystod y rhyfel

Wrth edrych yn ôl dros 40 mlynedd, mae 'na deimladau cymysg gan William Howarth.

"Y peth ydi pan ti'n filwr - it's not our reason why it's do or die. Ti ddim yn meddwl pan ti oedran yna," dywedodd.

"Pan ti'n edrych yn ôl rŵan dwi'n meddwl fod rhan fwya' o'r rhyfel yn wast yn enwedig efo pobl ifanc. Hyd yn oed rŵan yn Wcráin mae pobl ifanc yn marw achos bo pobl hŷn, pobl efo mwy o bres eisiau cwffio.

"Gad y plant ar ôl 'de ac ewch chi i gwffio efo nhw.

"Un rheswm dwi'n dallt ers hynna' - oedd Maggie [Margaret Thatcher] isio pedair mlynedd arall so os oedd hi'n curo oedd hi mewn eto.

"A chwarae teg oedd pobl isio bod yn perthyn i Brydain. Fedri ddim deud wrth neb bod o ddim werth o achos mae dy ffrindiau di wedi marw yna."