Penwythnos llawn bwrlwm yng Ngŵyl 6Music yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ciwio i weld y Manic Street Preachers yng Nghlwb Ifor Bach wedi 32 o flynyddoedd o ddisgwyl...Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Ciwio i weld y Manic Street Preachers yng Nghlwb Ifor Bach wedi 32 o flynyddoedd o ddisgwyl...

Roedd y bwrlwm i'w deimlo yng nghanol Caerdydd ddydd Gwener 1 Ebrill wrth i'r ddinas baratoi i groesawu Gŵyl 6Music i rai o'i chanolfannau mwyaf adnabyddus. Dros y penwythnos bu Neuadd Dewi Sant, Y Plas a'r Neuadd Fawr yn Undedb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Tramshed a Chlwb Ifor Bach dan ei sang gyda ffans cerddoriaeth.

Dechreuodd y bwrlwm rai diwrnodau ynghynt gyda gigiau'r ŵyl ymylol answyddogol yn digwydd yn rhai o leoliadau llai y ddinas, fel The Moon Club ar Stryd Womanby, lle roedd bandiau newydd a phrofiadol yn chwarae, fel skylrk., enillydd Brwydr y Bandiau 2021, y pync-rocars o'r Rhondda - CHROMA, y ddeuawd rap a neo-soul Izzy Rabey ac Eädyth a llawer mwy.

Disgrifiad,

Sgwrs gyda Adwaith ar ôl chwarae gig agoriadol Gŵyl 6Music

Ond daeth brig cyntaf rollercoaster yr ŵyl nos Fercher ar ffurf noson wedi'i threfnu ar y cyd rhwng Gorwelion a BBC Introducing. Mewn lein-yp gyfangwbl fenywaidd prin fe agorodd Hemes, Malan Fôn, Adwaith, a Panic Shack bethau'n swyddogol mewn steil ac i dorf helaeth. Gwnaeth Adwaith, a fyddai'r noson ganlynol yn chwarae ar lwyfan mwyaf Caerdydd yn arena'r Mororpoint, argraff fawr ar y gynulleidfa gan chwarae rhai o'r hits oddi ar 'Melyn', eu halbwm cyntaf ac enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019, a rhoi rhagflas i'w ffans o ganeuon eu hail albwm hirddisgwyiedig, 'Bato Mato'.

O un uchafbwynt i un arall, nos Iau, y gig oedd ar wefusau pawb… Manic Street Preachers yng Nghlwb Ifor Bach. Dyma'r tro cyntaf i'r Manics berfformio yn y lleoliad eiconig, er iddo bron iawn â digwydd 32 o flynyddoedd yn ôl! Roedd y band ar lein-yp i gig gyda Hanner Pei, Beganifs a Tynal Tywyll ym 1990 ond bu'n rhaid canslo ar y funud olaf oherwydd un mater bach, sef arwyddo eu cytundeb recordio yn Llundain. I lawer, roedd y gig yn teimlo fel breuddwyd yn dod yn wir ac i'r Manics, fel dywedodd Nicky Wire, roedd yn teimlo fel chwarae ar "dir cysygredig".

Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges instagram gan bbc6music

Caniatáu cynnwys Instagram?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges instagram gan bbc6music

Un o'r pethau gwych am yr ŵyl yw ei bod hi'n dod gyda hi rai o artistiaid mwyaf poblogaidd y funud ac artistiaid newydd, lleol, at ei gilydd a'u rhoi ar lwyfan rhyngwladol. Un o'r artistiaid newydd hynny oedd yn rhannu llwyfan gyda Little Simz, enillydd gwobr BRITs am Artist Newydd Gorau, oedd y rapwraig o Gaerdydd, Deyah.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Deyah Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2021 am ei halbwm 'Care City'

Dywedodd wrth Cymru Fyw… "Roeddwn i'n dod i Neuadd Dewi Sant o leiaf dwy waith y flwyddyn gyda fy mam, a dywedwn wrthi bob tro y byddwn i'n perfformio yma. A doedd hi ddim wir yn fy ngredu i ond dyna natur mamau! Felly mae'r ffaith fy mod i'n perfformio yma yn hurt! Mae'r lleoliad gorau i mi, o ran perfformio yng Nghaerdydd."

"Pan o'n i'n tyfu fyny roedd Caerdydd dal yn adeiladu ei diwydiant cerddoriaeth, felly mae cael yr ŵyl yma a gweld maint y peth, fe fyddai wedi bod yn arbennig pan o'n i'n iau yn enwedig o ran y genres sy'n cael eu chwarae hefyd, fel hip-hop."

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cerys yn llais cyfarwydd ar BBC Radio 6Music ac roedd hi wrth ei bodd gweld yr ŵyl yn digwydd yng Nghymru

Un arall a oedd yn edrych ymlaen am yr ŵyl oedd un o gyflwynwyr yr orsaf, Cerys Matthews. "About bloody time…" meddai am gael gŵyl fel hon yn y brifddinas Gymreig. Mae cymaint o gerddoriaeth wych yn dod o Gymru meddai, roedd yn gyfle arbennig i roi platfform i'r holl dalent. "Mae mor exciting ar hyn o bryd. Fi'n lwcus i gael job fel DJ, so mae cerddoriaeth newydd yn dod i'r sioe bob dydd o bob man yn y byd. Ond mae'r stwff sy'n dod mas o Gymru ar hyn o bryd, o bob rhan o Gymru, mae'n amazing. Mae'n scramble i ddal lan gyda be' sy'n dod mas. Mae e'n so cool."

Fore Sadwrn, yn agor y diwrnod yn Tramshed roedd Carwyn Ellis a Rio '18 i 'stafell lawn dop. Pan sgwrsiodd Cymru Fyw gyda Carwyn cyn ei gig roedd yn amlwg yn awchu i gael bod yn ôl ar y llwyfan gyda'i fand. "Tro diwetha i ni chwarae fel band llawn oedd Gŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi, dw i'n meddwl, yn 2019. Felly mae wedi bod yn sbel go hir."

Ddydd Sadwrn, roedd bandiau yn chwarae drwy'r dydd yng Nghlwb Ifor Bach a hynny am ddim. Roedd y clwb yn llawn dop gyda chiw i fynd i mewn mor gynnar â 3 y prynhawn. Yn cau'r noson roedd Mellt a Los Blancos a hynny i dorf drydanol - yn wir roedd crowd-surfing a phopeth!

Denodd Khruangbin, Bloc Party a Craig Charles gannoedd i'w setiau arbennig nhw nos Sadwrn gyda cherddoriaeth yn bloeddio tan oriau mân y bore.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Georgia Ruth yn dechrau'r diwrnod yn Tramshed fore Sul

Fore Sul yn y Tramshed, dim ond ychydig oriau ar ôl i'r setiau DJ ddod i ben, Georgia Ruth ddaeth i'r llwyfan i suo'r gynulleidfa. Dywedodd Georgia ei bod wedi cychwyn o Aberystwyth am "stupid o'clock" ond er hynny fe berfformiodd, gyda'i band Iwan a Rhodri, set hanner awr oedd yn cynnwys y perfformiad byw cyntaf o'i sengl newydd '25 Minutes'. Dechrau perffaith i ddiwrnod go hamddenol yn y Tramshed, lle roedd sgyrsiau di-ri yn digwydd yn ogystâl â pherfformiadau gan Cerys Hafana, Gruff Rhys a H Hawkline.

Ond nid dim ond yn y Tramshed 'roedd Gruff yn perfformio ddydd Sul. Roedd hefyd yn un o'r artistiaid fyddai'n chwarae cyn Father John Misty yn Neuadd Dewi Sant. Ond yn hytrach na sôn amdano'i hun, am yr artistiaid eraill 'roedd o wedi llwyddo eu gweld yr oedd yn cyffroi drostynt "O'n i yma [yn Neuadd Dewis Sant] neithiwr ac oedd 'na awyrgylch eitha' anhygoel yma. Nes i weld Khrunagbin, oeddan nhw'n dda iawn. Nes i fwynhau nhw. Nes i ddigwydd gweld Cerys Hafana bore 'ma, achos o'n i'n chwarae ar ei hôl hi. Hi ydy'r unig artist arall dw i wedi'i weld ac oedd hi'n wych. Oedd hi'n mynd lawr yn grêt."

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru Fyw
Disgrifiad o’r llun,

Perfformiodd Gruff Rhys ddau set yn ystod yr ŵyl

Yn rhannu'r lein-yp efo Gruff nos Sul oedd y grŵp Audiobooks, sef y cynhyrchydd Dave Wrench a'r gantores Evangeline Ling. Dywedodd Dave, sydd wedi cynhyrchu cerddoriaeth i bobl fel Frank Ocean, Ellie Goulding a'r Manics "Nesh i ddod i Neuadd Dewi Sant pan o'n i'n blentyn i weld y gerddorfa Gymraeg a meddwl falle un dydd y 'na i chwarae fa'ma, so dyma'r tro cynta i ni chwarae yma, felly mae'n bach o freuddwyd." Yn frodor o Lundain, mae Evangeline hefyd yn awyddus i weld y neuadd, "Dywedodd David wrtha' i ei bod hi fel Royal Albert Hall Caerdydd. Dw i'n gwybod sut le yw'r Albert Hall felly mae'n big deal!"

Ffynhonnell y llun, Jamie Simonds
Disgrifiad o’r llun,

Wet Leg a Self Esteem cyn chwarae Neuadd Fawr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd nos Sul

Un big deal arall i sawl un yn yr ŵyl oedd perfformiad Self Esteem yn Neuadd Fawr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Perfformiodd set 40 munud i dorf oedd ar ben eu digon.

Cafodd yr ŵyl ei chloi gan y canwr Americanaidd, Father John Misty, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ymddangos gydag ef. Roedd y gynulleidfa ar eu traed yn cymeradwyo ar ddiwedd y noson - teimlad oedd yn gydnaws ag ysbryd cyffredinol yr wythnos flaenorol yng Nghaerdydd.

Gallwch weld holl uchafbwyntiau'r ŵyl ar BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig