Wylfa: Gobaith am 'gam yn nes' gydag ymweliad UDA

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stopiodd cyn-orsaf Magnox ar safle Wylfa, ger Cemaes, gynhyrchu trydan yn y flwyddyn 2015

Bydd Ysgrifennydd Cymru yn teithio i'r Unol Daleithiau er mwyn hybu'r syniad o orsaf ynni niwclear newydd yn y gogledd.

Yr wythnos hon bydd Simon Hart yn ymweld â gorsaf Vogtle yn nhalaith Georgia, sy'n cael ei hadeiladu gan ddau gwmni sydd mewn trafodaethau dros gynlluniau ar gyfer safle Wylfa ar Ynys Môn.

Gobaith Mr Hart yw bydd yr ymweliad "yn ein symud gam yn nes" at wireddu gorsaf niwclear newydd ar yr ynys.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei fod "o ddifrif dros niwclear ar raddfa fawr".

Ond cadarnhaodd Mr Hart nad yw strategaeth ynni'r DU, sydd i'w chyhoeddi ddydd Iau, yn debygol o grybwyll Wylfa yn benodol.

Mae gorsaf Vogtle yn cael ei hadeiladu gan y cwmni peirianneg Bechtel ac yn cynnwys dau adweithydd Westinghouse.

Y llynedd datgelodd swyddogion Llywodraeth y DU fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda'r ddau gwmni ynglŷn â safle Wylfa.

Ond mae'r cynllun Americanaidd yn rhedeg yn hwyr, gydag adroddiadau o oedi pellach dros y misoedd diwethaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith o adeiladu gorsaf niwclear Vogtle, yn nhalaith Georgia, yn rhedeg yn hwyr yn ôl adroddiadau

Yn siarad gyda BBC Cymru dywedodd Mr Hart bydd y datganiad ddydd Iau yn amlinellu "beth yw uchelgeisiau'r DU ar gyfer niwclear yng nghyd-destun diogelwch ynni a dibynadwyedd".

Ychwanegodd: "Yr hyn mae Bechtel a Westinghouse eisiau ei glywed gennym ni, a byddan nhw'n ei glywed gen i... ydy ein bod o ddifrif ynglŷn â niwclear ar raddfa fawr yn y DU, ac yn arbennig ar y safle gwych hwn [ym Môn].

"Rhan o'r cynllun yw rhyddhau arian, maes o law, o gronfa niwclear y dyfodol, a fydd yn eu galluogi nhw i ddatblygu achos busnes, ac i ni allu gobeithio bydd yr Unol Daleithiau'r a'r DU yn dod i gytundeb ar un o'r datblygiadau niwclear mwyaf o fewn y cyfnod diweddar.

"Os yw ymweliad wythnos yma yn ein symud gam yn nes at y sefyllfa honno, yna fe fydd yn werth chweil."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Simon Hart ei fod eisiau cynnig "rhywfaint o optimistiaeth i bobl"

Ychwanegodd byddai'r daith yn ceisio sefydlu'r rhesymau am oedi gorsaf Vogtle, ond hefyd bod yna "arwyddion calonogol iawn" yn dod o Stad y Goron am yr hyn sy'n bosib gyda'r Môr Celtaidd, oddi ar arfordir y gorllewin, yn sgil ynni'r môr.

Aeth ymlaen i ddweud: "Os gawn ni arwyddion calonogol gan Lywodraeth y DU, gan fy nghydweithwyr ddydd Iau, ynglŷn â ble mae niwclear yn ffitio o fewn ein cynlluniau, yna dwi'n meddwl y bydd yn ffynhonnell rhywfaint o optimistiaeth i bobl sydd wedi cael eu harwain yn ôl a 'mlaen gan Wylfa yn y gorffennol.

"Yn amlwg rydym am geisio osgoi gwneud hynny eto. Rydym am i hyn ddigwydd yn gynt yn hytrach na hwyrach."

Cyhoeddi'r strategaeth

Mae disgwyl i'r Strategaeth Ynni ddangos sut bydd y DU yn sefydlu ffynonellau ynni mwy sicr dros y blynyddoedd i ddod, ynghyd â chyrraedd targedau i leihau allyriadau carbon yn raddol.

Mae gofynion diogelwch wedi cynyddu ers i Rwsia ymosod ar Wcráin gan godi'r bygythiad moesol a real i gyflenwadau nwy ac olew.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bechtel eisoes wedi disgrifio safle Wylfa, ger Cemaes, fel "y gorau yn y DU" am orsaf niwclear

Dros y penwythnos, dywedodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain, Kwasi Kwarteng, y gallai chwech neu saith o adweithyddion niwclear newydd gael eu hadeiladu erbyn 2050.

Adroddwyd hefyd bod gweinidogion wedi cytuno i sefydlu corff datblygu newydd o'r enw Great British Nuclear, i nodi safleoedd, torri drwy fiwrocratiaeth i gyflymu'r broses gynllunio, a chasglu cwmnïau preifat ynghyd i redeg pob safle.