'Byddai atomfa newydd yn Wylfa'n drawsffurfiol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe fyddai atomfa newydd ar safle Wylfa ar Ynys Môn yn "trawsffurfio" economi Cymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol, Simon Hart.

Roedd yn ymateb i adroddiadau bod Llywodraeth y DU yn bwriadu buddsoddi 20% - sef hyd at £2bn -mewn gorsaf niwclear newydd ar safle Sizewell yn Suffolk.

Mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch safle Sizewell yn y dyddiau nesaf ond does dim disgwyl penderfyniad eto ynghylch dyfodol Wylfa.

Ond fe ddywedodd Mr Hart wrth BBC Cymru bod Llywodraeth y DU "heb golli golwg" ar Wylfa, gan ei ddisgrifio fel "un o'r safleoedd gorau drwy'r byd".

Mae'r BBC yn deall y bydd Llywodraeth y DU a'r cwmni Ffrengig EDF ill dau yn buddsoddi 20% mewn datblygu atomfa Sizewell.

Gobaith gweinidogion yw y bydd buddsoddiadau dau gyfrannwr mor allweddol yn annog buddsoddwyr mewn seilwaith a chronfeydd pensiwn i gyfrannu'r 60% sy'n weddill.

Ffynhonnell y llun, EDF
Disgrifiad o’r llun,

Model yn dangos Sizewell C (y llwyd mwyaf golau ar y dde) ar bwys atomfa Sizewell B

Byddai Sizewell C, y mae disgwyl iddo gael ei gadarnhau'r wythnos hon, yn rhan allweddol o strategaeth ynni newydd y DU.

Er bod hi'n ymddangos nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto am ddyfodol Wylfa mae swyddogion Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai adnoddau newydd ym Môn - fel Sizewell - fod ymhlith "y betiau mawr ar niwclear".

Nid yw'n glir eto a fyddai'r nodau ychwanegol yn cynnwys atomfeydd ar raddfa fawr, adweithyddion llai ar sail technoleg niwclear danforol, ynteu'r ddau.

'Hanfodol i ffyniant economaidd pobl Cymru gyfan'

Dywedodd Simon Hart wrth raglen Politics Wales: "Rwy'n meddwl ein bod wedi symud cryn bellach ymlaen nag erioed - cyn belled ag y cofiaf p'run bynnag - o ran cydnabod yr angen am ddatblygiadau niwclear mawr ac ar raddfa lai."

Fe allai datblygiad newydd yn Wylfa, meddai, gyfrannu at "wireddu ein huchelgeisiau sero net a chael swyddi gyda chyflogau da yng Nghymru".

Ychwanegodd AS Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro: "Fe fyddai hwn yn un o'r pethau mwyaf trawsffurfiol o ran economi gogledd Cymru y byddai unrhyw un ohonom ni wedi ei brofi.

"Ac mewn gwirionedd, yr hyn y mae hyn wedi ei ddynodi yw bod y llywodraeth heb golli golwg ar hynny.

"Mae'r math yma o gynlluniau yn parhau'n gwbl hanfodol i ffyniant economaidd pobl ar draws Cymru gyfan, heb sôn am Wylfa.

"Rydym wedi ymroddi i niwclear, rydym wedi datgan hynny, a pha bynnag gwmni ry'ch chi'n siarad â nhw, mae Wylfa'n dal yn un o'r safleoedd gorau drwy'r byd."

Disgrifiad o’r llun,

Ben Lake yn annerch cynhadledd wanwyn y blaid dros y penwythnos

Dywedodd yr AS Plaid Cymru Ben Lake wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales bod ei blaid yn dal yn gwrthwynebu unrhyw safleoedd niwclear newydd yng Nghymru ond bydde yna ddim gwrthwynebiad i ddatblygu safleoedd sydd eisoes yn bodoli.

"Mae gan y blaid orffennol ddiddorol o ran niwclear," meddai. "Mae'r polisi'n dal yr un fath - dim safleoedd niwclear newydd.

"Ond mae hynny wrth gwrs yn golygu bod yn achos Wylfa a Thrawsfynydd mae yna gyfleoedd i ddatblygu niwclear yno."

Ychwanegodd ei fod "yn ddiddorol" bod y llywodraeth yn fodlon wneud y fath fuddsoddiad mewn niwclear ond yn "siomedig nad ydyn nhw'n dilyn yr un trywydd yn achos ffynonellau ynni potensial eraill".

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.