Mam yn teimlo'n rhy 'fregus' i helpu Logan Mwangi
- Cyhoeddwyd
Mae menyw sydd wedi ei chyhuddo o ladd ei mab oed wedi dweud iddi beidio â galw am gymorth wedi i'w phartner a bachgen 14 oed ymosod ar y plentyn am ei bod hi'n teimlo'n "fregus".
Cafwyd hyd i gorff Logan Mwangi, 5, yn Afon Ogwr ddiwedd Gorffennaf y llynedd, gyda 56 o anafiadau allanol a niwed difrifol i'r abdomen.
Mae Angharad Williamson, ei chymar John Cole a bachgen 14 oed nad oes modd ei enwi wedi eu cyhuddo o'i lofruddiaeth.
Mae'r tri yn gwadu'r cyhuddiad.
Mr Cole wedi 'dyrnu Logan ddwywaith'
Mae Ms Williamson, 31, wedi bod yn rhoi tystiolaeth yn ei hamddiffyniad yn Llys y Goron Caerdydd.
Dywedodd wrth y llys fod Mr Cole a'r bachgen 14 oed wedi gwthio a tharo Logan ddeuddydd cyn i'w gorff gael ei ddarganfod.
Fe wnaeth pethau "waethygu'n gyflym" yn dilyn dadl rhyngddi hi a Mr Cole am rywbeth yn tywallt dros ei stereo, medd Ms Williamson.
Dywedodd hi fod Mr Cole wedi cyhuddo Logan o wenu, gan ddweud wrtho: "Rwyt ti'n caru gweld dy fam a fi'n dadlau."
Yn ôl Ms Williamson, fe wnaeth Mr Cole, 40, dynnu Logan o'i ystafell wely a cheisio siarad ag ef, ond fe gafodd Logan drafferth i ymateb gan fod ganddo atal dweud.
"Yna, fe wnaeth Jay ei ddyrnu ddwywaith yn ei stumog, ac fe wnaeth e [Logan] lanio ar ei ben ôl a tharo'i benelinoedd ar y llawr."
Ychwanegodd hi fod Mr Cole wedi dweud wrth y bachgen 14 oed i gadw llygad ar Logan a'i faglu petai'n "gwingo eto".
Fe wnaeth y llanc faglu Logan a gwthio'i ben i'r llawr, meddai Ms Williamson.
Logan 'yn gwingo'
Dywedodd Ms Williamson wrth y llys iddi ddymuno trio cael cymorth gan ffrind neu ei mam, ond bod Mr Cole wedi ei rhwystro rhag gadael y fflat.
"Roedd e mor fygythiol - ro'n i'n teimlo mor fregus, a'r cwbl ro'n i eisiau gwneud oedd cael help ar gyfer Logan, ac fe wnaeth e wrthod symud o'r ffordd."
Ychwanegodd iddi ddweud wrth Mr Cole yn ddiweddarach ei bod hi am ei adael "am byth," ac fe atebodd ef: "Os ydyn ni'n gwahanu oherwydd Logan, mi wna i ei ladd."
Dywedodd hi hefyd wrth y llys fod Mr Cole wedi bod yn fwy llym gyda Logan ers mis Ebrill 2021, gan wneud iddo wynebu'r wal am hyd at hanner awr ar y tro.
Byddai Logan yn "nerfus" ac "weithiau'n cilio'n ôl" pan fyddai Mr Cole yn ei wneud i wynebu'r wal, medd Ms Williamson - ond fe awgrymodd ei bod ond wedi deall beth oedd hynny'n ei olygu wrth edrych yn ôl.
"Roeddwn i'n meddwl bod Jay yn trio helpu'r teulu i fagu strwythur... 'Nes i ddim sylweddoli pa mor llym oedd e, a pha mor ofnus oedd Logan."
Gwadu dweud celwydd wrth yr heddlu
Fe wnaeth Ms Williamson hefyd wadu iddi esgus bod Logan ar goll wrth siarad â'r heddlu, gan na fyddai'n bosib i "ffugio" ei theimladau.
Dywedodd iddi fethu a dod o hyd i Logan ar ôl dihuno ar 31 Gorffennaf 2021, ac yna galw'r heddlu i ddweud ei fod ar goll a'i fod yn bosib fod rhywun wedi ei gymryd.
Roedd hi'n "orffwyll", meddai, gan ychwanegu ei fod yn amhosib i "ffugio teimladau fel 'na".
Dywedodd iddi beidio â mynd i'r marwdy gyda Logan gan fod staff yn poeni y byddai'n ei gwneud hi'n ofidus, ond ei bod hi wedi bwriadu gweld ei mab ar ôl yr awtopsi.
Mae John Cole, Angharad Williamson a llanc 14 oed yn gwadu llofruddiaeth.
Mae Mr Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, cyhuddiad y mae Ms Williamson a'r bachgen 14 oed yn ei wadu.
Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi'u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022