Llystad yn gwadu pwnio Logan Mwangi yn ei stumog
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sy'n cael ei gyhuddo o lofruddio bachgen pum mlwydd oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi dweud wrth reithgor nad yw'n falch o'r ffordd y gwnaeth ei drin.
Ond wrth barhau i roi tystiolaeth i'r achos yn Llys Y Goron Caerdydd fe wadodd John Cole ei fod wedi pwnio Logan Mwangi yn y stumog y diwrnod cyn iddo farw.
Pan gafwyd hyd i gorff Logan yn Afon Ogwr y llynedd, roedd ganddo 56 o anafiadau allanol a niwed difrifol i'r abdomen.
Mae'r diffynnydd 40 oed, ei gymar Angharad Williamson, 31 - sef mam Logan - a bachgen 14 oed nad oes modd ei enwi, yn gwadu llofruddiaeth.
Clywodd y llys bod Logan wedi bod yn hunan-ynysu dan reolau Covid yn ei ystafell wely yn y dyddiau cyn iddo farw gyda giât babi yn y drws.
Dywedodd Mr Cole eu bod yn gwneud i'r bachgen wynebu'r wal os oedd angen i unrhyw un arall fynd i'r ystafell, a bod Logan wedi ceisio cael ffyrdd o ddianc o'r ystafell.
Roedd Logan, meddai, yn "edrych yn flin ar y ddau ohonon ni", mewn ymateb i gwestiynau bargyfreithiwr Ms Williamson, Peter Rouch QC.
Dywedodd Mr Cole ei fod yn chwe troedfedd a phedwar modfedd o daldra, yn pwyso hyd at 15 stôn, ac yn siarad "gyda grym" ar brydiau.
Cyfeiriodd Mr Rouch at ddadl rhyngddo ac Angharad Williamson, gan ddweud iddo wylltio am fod Logan yn gwingo bob tro roedd yn dod yn agos.
"Awgrymodd Angharad eich bod wastad yn pigo ar Logan," meddai. "Na," atebodd y diffynnydd.
Dywedodd Mr Rouch wedyn bod Mr Cole wedi taro Logan ddwywaith yn y stumog. "Gwnes i ddim taro Logan yn y stumog," meddai Mr Cole.
Awgrymodd y bargyfreithiwr wedyn ei fod wedi annog y llanc 14 oed i sgubo coesau Logan os roedd yn gwingo eto. Gwadodd Mr Cole hynny hefyd: "Ni wnaeth yr un ohonon ni ei daro."
Awgrymodd Mr Rouch bod Ms Williamson wedi bygwth dod â'r berthynas i ben a rhedeg o'r tŷ, am ei bod wedi cael digon ar y ffraeo rhyngddynt, a bod Mr Cole wedi ateb: "Os wnei di, fe ladda'i e."
Gwadodd Mr Cole hynny, a dweud mai ei gymar wnaeth achosi'r ffrae trwy godi Logan ger ei freichiau a'i ysgwyd.
Roedd Mr Cole eisoes wedi dweud wrth y rheithgor ei fod wedi "rhoi clec i ben y bachgen" a tharo ei law yn ysgafn i'w ddisgyblu.
Dywedodd ddydd Llun: "Dydw i ddim yn falch o be' wnes i ond rwy' wedi cyfaddef i'r hyn wnes i."
Fe welodd y rheithgor fag Nike du y mae John Cole yn dweud y gwnaeth o ac Angharad Williamson roi corff Logan ynddo.
Gofynnodd Mr Rouch sut y llwyddodd i roi'r bachgen, oedd yn dair troedfedd pum modfedd o daldra, mewn bag ychydig dros ddau droedfedd o hyd.
"Dydw i ddim yn cofio," atebodd Mr Cole. "Doeddwn i ddim yn meddwl yn glir."
Gwaeddodd Angharad Williamson o'r doc: "Celwyddgi."
Dywedodd Mr Cole nad oedd yn cofio rhoi'r corff yn Afon Ogwr, ger eu cartref yn ardal Sarn, a'i fod wedi ei osod "ar bwys" yr afon.
Mae John Cole, Angharad Williamson a llanc 14 oed yn gwadu llofruddiaeth.
Mae Mr Cole wedi cyfaddef cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, cyhuddiad y mae Ms Williamson a'r bachgen 14 oed yn ei wadu.
Mae'r ddau oedolyn hefyd wedi'u cyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn, ac mae'r ddau yn gwadu hynny.
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2022