Glan-llyn: 'Creu cymdeithas Gymraeg hollol'

  • Cyhoeddwyd
John Eric WilliamsFfynhonnell y llun, Dr Iolo ap Gwynn
Disgrifiad o’r llun,

John Eric Williams yn rhedeg y sioe

"Dwi'n dweud wrth blant yn aml iawn pan maen nhw'n cyrraedd yma, mwy na thebyg bod eu rhieni nhw wedi bod yma yna y '70au a'r '80au - ac mae'n bosib bod eu neiniau a'u teidiau wedi bod yma hefyd.

"Mae hwnna'n rhyw gwlwm sydd rhwng pawb," medd Huw Antur Edwards, pennaeth presennol gwersyll yr Urdd Glan-llyn, "ac mae'n gwlwm ofnadwy o bwysig."

Bydd nifer o wynebau cyfarwydd yn dychwelyd i wersyll Glan-llyn ddydd Sadwrn ar gyfer yr aduniad cyntaf o'i gyn-benaethiaid a dirprwyon ers iddo agor ym 1950.

Yn eu plith fydd sawl enw adnabyddus, gan gynnwys cyn-gyfarwyddwr yr Urdd John Eric Williams a'r awdur Bethan Gwanas.

Cyn yr aduniad, bu rhai o'r arweinwyr ar hyd y degawdau'n hel atgofion am eu cyfnod wrth y llyw.

"O'dd 'na lampau paraffin yn cael eu defnyddio i oleuo," medd pennaeth cyntaf Glan-llyn, John Eric Williams, wrth BBC Cymru Fyw.

"Oedd 'na berson yn cael ei benodi yn yr haf dim ond i ofalu am y lampau! Bysa chi'n meddwl am hynny heddiw, mae rhywun yn echrydu."

Cyflwyno'r iaith yn 'anturus'

Fel pennaeth Glan-llyn rhwng 1967-1982, fe welodd Mr Williams ddyfodiad trydan i'r gwersyll.

"O'dd y cyfleusterau sydd yno heddiw yn sicr ddim ar gael - ond o'dd 'na rywbeth anturus yn hynny, ac o'dd y plant a'r bobl ifanc yn mwynhau hynny.

"O'dd gynnon ni gychod ar y llyn, cychod hwylio, canŵs, o'dd 'na gerdded a mynydda'n digwydd. O'dd gynnon ni gampfa, gyda dawnsio gwerin ac ati yn y fan honno."

Ffynhonnell y llun, Dr Iolo ap Gwynn
Disgrifiad o’r llun,

Canu yng Nglan-llyn yn y chwedegau

Ynghyd â datblygu cyfleusterau'r gwersyll, uchelgais Mr Williams yn y dyddiau cynnar oedd creu cyfle i bobl ifanc Cymru gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Y syniad oedd gen i pan ddechreuais i oedd ein bod ni'n trosglwyddo'r iaith Gymraeg mewn sefyllfa anturus ac o ddiddordeb.

"O'dd 'na ffrindiau'n cael eu gwneud, ac oeddan ni'n creu cymdeithas Gymraeg hollol yng Nglan-llyn."

'Creu byd o Gymreictod'

Yn ddirprwy i Mr Williams o 1972, dywed Dei Tomos fod Glan-llyn yn edrych yn "hollol wahanol" erbyn heddiw.

"Y tro dwytha o'n i yno bues i'n gegrwth o ran faint o ddatblygiadau sydd wedi bod yno!"

Ffynhonnell y llun, Dr Iolo ap Gwynn
Disgrifiad o’r llun,

Dei Tomos (dde) ar antur pan yn iau

Er iddo gofio amser "digon anodd" o ran sicrhau cyllid, cyfnod "cynhyrfus" o dyfu'r gwersyll oedd y '70au, meddai.

"Oeddan ni'n llwyddo i ddenu mwy a mwy o bobl i ddod i Lan-llyn... a phobl yn dod yn ôl, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn."

"Be' odd y ganolfan yn ei 'neud o'dd yn werth chweil o'dd creu byd o Gymreictod i lawer iawn o bobl o'dd yn byw mewn byd digon Saesnig, a ddim yn clywed y Gymraeg yn aml iawn.

"Wrth edrych yn ôl mae'n rhaid mi ddweud mod i 'di mwynhau 'nghyfnod yno yn fawr iawn, ac yn holi weithiau - pam yr es i o yno o gwbl?"

'Perl i Gymru'

"Yn y bôn, yng Nglan-llyn nes i sylweddoli mod i isho bod yn falch o fod yn Gymraes," medd Bethan Gwanas, fuodd yn ddirprwy ganol y '90au.

"O'dd 'na rywun yn chwarae record Tecwyn Ifan ar y chwaraewr recordiau," dywed am y tro cyntaf iddi ymweld â'r gwersyll yn ei harddegau. "O'dd o fatha rhyw epiphany."

"O hynny 'mlaen nesh i werthfawrogi'r ffaith mod i'n Gymraes a mod i'n byw yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Bethan Gwanas
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Gwanas yn mwynhau ei hun yn y gwersyll

Roedd dychwelyd i'r gwersyll fel dirprwy, felly, yn "no brainer".

Roedd y '90au yn gyfnod o broffesiynoli'r gwersyll, meddai: "O'n ni 'di bod yn defnyddio'r hen offer, ac o'dd isho gwario i gael pob dim i scratch.

"Nesh i fwynhau'n ofnadwy de... mae gwersyll Glan-llyn yn berl i Gymru."

'Aros yn llonydd ddim yn opsiwn'

"Glan-llyn a gwersylloedd yr Urdd i gyd, maen nhw'n gorfod newid a datblygu - dydy aros yn llonydd ddim yn opsiwn," dywed y pennaeth presennol Huw Antur Edwards.

"Mae'n linell eitha' anodd weithiau," ychwanegodd Mr Edwards, sydd wedi bod yn ei swydd ers 2007, am geisio cydbwyso traddodiad a datblygiad.

Cafodd rhai o brif adeiladau'r gwersyll eu hadnewyddu rhyw ddegawd yn ôl gan gynnwys y fynedfa a'r dderbynfa, a dywed y pennaeth i'r tîm boeni a oedden nhw'n "colli naws Glan-llyn".

"Ond dwi'm yn meddwl ein bod ni.

"Mi ddoth 'na wraig yma 'chydig o flynyddoedd yn ôl yn dweud bod hi heb fod yng Nglan-llyn ers dros 40 blynedd, ond pan ddaeth yma, er nad oedd hi ddim yn cofio llawer am y lle, roedd hi'n cofio'r teimlad - ac mi oedd y teimlad wedi dod yn ôl yr eiliad honno iddi. Pan ddeudodd hi hynny, o'n i'n hapus."

Fe fydd yn braf cael yr arweinwyr ar hyd y degawdau ynghyd am y tro cyntaf, meddai.

"Dwi'n edrych ymlaen yn arw a dweud y gwir, achos mae Glan-llyn rŵan 'run peth ag o'dd e yn y '60au mewn ffordd - yr un un profiadau."