Yr Urdd yn dathlu agor canolfan newydd wedi prosiect £800,000
- Cyhoeddwyd

Mae mudiad yr Urdd yn dathlu agor llety hunangynhaliol newydd Glan-llyn Isa' yn dilyn prosiect adnewyddu gwerth £800,000.
Daw hyn wrth i westai hunangynhaliol ddisgwyl cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y byddan nhw'n cael ailagor yng Nghymru o ddydd Sadwrn.
Mae'r llety newydd rhwng Y Bala a Llanuwchllyn ger llaw prif safle Gwersyll Glan-llyn, canolfan awyr agored sydd wedi bod yn denu ymwelwyr ers dros 70 mlynedd.
Yn dilyn gwaith addasu mae'r adeilad 150 oed yn gallu cysgu hyd at 40 person.
Dywed y mudiad fod y safle yn ateb galw o blith aelodau am lety sy'n annibynnol o brif safle'r gwersyll.

Huw Antur: Pobl yn awyddus i gael profiad mwy annibynnol o brif safle'r ganolfan
Fe wnaeth y cynllun dderbyn cefnogaeth ariannol gan Raglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Yn ôl Cyfarwyddwr Gwersyll Glan-llyn, Huw Antur Edwards, fe ddaeth syniad am lety o'r fath "gan bobl ifanc sy'n ymweld â ni'n rheolaidd".
"Mi fydd Glan-llyn Isa' yn darparu'r ddihangfa berffaith i grwpiau sy'n ysu am brofiad mwy annibynnol o brif safle'r ganolfan, megis grwpiau o ysgolion, colegau a phrifysgolion, teuluoedd a ffrindiau fel ei gilydd," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021