Rhyfel y Falklands: Atgofion Archentwyr
- Cyhoeddwyd
40 mlynedd ers dechrau Rhyfel y Falklands mae rhai Archentwyr, oedd yn blant ar y pryd, wedi bod yn rhannu eu hatgofion o'r cyfnod gyda BBC Cymru.
"Dwi'n cofio'n iawn adeg y Malvinas yn arbennig gan bod yn rhaid 'neud gwahanol bethau er mwyn sicrhau diogelwch," meddai Juan Davies o'r Gaiman, oedd yn 11 oed ar y pryd.
Mae'n cofio teimlad cyffredinol o bryder o fewn y gymdeithas hefyd.
"Oedd yr athrawon yn ein rhybuddio i guddio os yn clywed sŵn awyrennau.
"Yn ystod y nos doeddan ni ddim fod i gynnau gola'.
"Dwi'n cofio Mam yn dweud mae'n rhaid i ni gael bwyd cynnar - swper - er mwyn peidio cynnau gola'," meddai.
"Roedd 'na berson ymhob ardal o'r dre yn mynd o gwmpas bob tŷ i 'neud yn siŵr fod 'na ddim golau o gwbl…a bod pawb yn ufuddhau."
'Roedd 'na sôn am y rhyfel yn yr ysgol'
Roedd disgyblion fel Geraldine Lublin yn y brifddinas, Buenos Aires, hefyd yn clywed tipyn am y brwydro.
"Dwi'n cofio bod baneri Ariannin ymhob man," meddai.
"Roedd 'na sôn am y rhyfel yn yr ysgol ac roeddan ni'n cael ein hannog i ddod â rhoddion ar gyfer y milwyr."
Ychwanegodd fod plant yn ysgrifennu llythyron at y milwyr a'u bod yn "canu anthem y Malvinas bob dydd felly oedd o'n holl bresennol yn y cyfnod".
Mae'n deg dweud nad oedd rhan fwyaf o bobl yn gwybod am yr ynysoedd cyn hynny ond yn ôl Geraldine roedd 'na lawer iawn mwy o sôn yn ystod y rhyfel - gyda un cylchgrawn yn aros yn y cof.
"Roedd 'na un cylchgrawn ar gyfer plant oedd wedi rhyddhau albwm sticeri am yr ynysoedd - roedd yn rhoi pob math o wybodaeth am leoliad yr ynysoedd, yr anifeiliaid oedd yn byw yno, sut fath o dirlun oedd yno a digwyddiadau hanesyddol pam oedd yr Ariannin yn hawlio'r ynysoedd."
'Tiriogaeth yr Ariannin'
Mae Llywodraeth yr Ariannin yn dal i hawlio mai ei thiriogaeth hi yw'r ynysoedd ac mae 'na gefnogaeth i hynny ymhlith y trigolion.
Ond dydi Juan Davies ddim yn cytuno â'r penderfyniad i anfon byddin yn hytrach na thrafod er mwyn ceisio hawlio'r ynysoedd yn ôl.
"Ar ôl i mi ddarllen storïau, a chlywed hanes yn arbennig fod Cymry ifanc wedi marw yn ystod y rhyfel… dwi'n teimlo bo'r Ariannin wedi ymladd yn erbyn brodyr bron iawn achos mae 'na gymaint o gysylltiadau rhwng y Wladfa a Chymru," meddai. "Mae'n drist iawn."
Ac wrth edrych nôl ddeugain mlynedd mae'r atgofion i Geraldine yn eitha' sur.
"Llywodraeth filwrol oedd wedi mynd i ryfel dros yr ynysoedd ac roedd hynny'n gyfleus iddyn nhw ar y pryd yn wleidyddol," meddai.
Ychwanegodd fod pobl erbyn hyn "yn teimlo bo ni wedi cael ein twyllo gyda'r holl bethau o gwmpas y rhyfel.
"Er bod pobl yn yr Ariannin dal i deimlo mai'r Ariannin sydd biau'r ynysoedd mae'r atgofion ynglŷn â'r cyfnod hwnnw yn chwerw iawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022