Y Falklands: Cyn-filwr yn cofio'r ergydion cyntaf
- Cyhoeddwyd
"Gyda rhyw filltir i fynd fe ddywedodd y peilot, 'llong danfor yw hi,' a dwi'n meddwl fy mod wedi cael y ffrwydron yn barod ar gyfer eu tanio mewn tua 10 eiliad."
Ddeugain mlynedd ers dechrau Rhyfel y Falklands, mae Chris Parry yn cofio'n fyw am ei ran yn y frwydr.
"O ran y brif frwydr, dyma oedd yr ergyd agoriadol," meddai.
Yn ddiweddarach fe ganfuon o a'r criw mai nhw oedd yr hofrennydd cyntaf erioed i ymosod ar long danfor.
Roedd y niwed i'r llong yn ddigon i'w hanablu - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers yr Ail Ryfel Byd.
Bu Chris, wnaeth ymddeol yn 2007 yn cynorthwyo ar hofrennydd Wessex 3 yn ystod y gwrthdaro yn Ynysoedd y Falklands.
Fel is-gapten ym 1982, roedd yn arsylwr ac yn gyfrifol am gyfarwyddo, cyfathrebu ac arfau.
Yn ystod y dyddiau agoriadol ym mis Ebrill 1982, roedd ei long, HMS Antrim yn defnyddio radar i gadw golwg ar long danfor o'r Ariannin yn agos at Ynysoedd De Georgia.
Fe wnaethon nhw berswadio eu capten i ganiatáu iddyn nhw lansio'r hofrennydd a mynd i chwilio am y long danfor.
"Doedden ni ddim yn gweld llong danfor nac unrhyw beth. Wnes i awgrymu i'r Comander y dyle ni gael un golwg arall ar y radar," meddai.
"Felly ar un ysgubiad o'r radar - oedd yn pylu'n gyflym iawn, mi welais arwydd bach. Roedd tua chwe milltir i ffwrdd, ac felly fe wnaethom hedfan i gael golwg arno."
Ar ôl dod o hyd i'r llong danfor fe ymosodon nhw ar unwaith.
"Fe aethom i mewn, gollwng y ffrwydron. Fe wnaeth un ohonyn nhw adlamu oddi ar yr ochr a disgynnodd un arall ochr yn ochr ag ef, a ffrwydrodd y ddau a chodi pen-ôl cyfan y llong danfor allan."
Rhain oedd ergydion agoriadol y prif wrthdaro yn y Falklands - rhyfel a wnaeth bara dros ddeg wythnos yn 1982 ac a hawliodd fywydau dros 900 o bobl.
Nid hwn oedd ymweliad cyntaf Chris â De'r Iwerydd.
Roedd ei hofrennydd Wessex 3 wedi bod yn rhan o ymdrechion i lanio milwyr yr SAS yn Ne Georgia yn ystod dyddiau cynnar y rhyfel.
Roedd un yn cynnwys mynd â thîm o filwyr i fyny i rewlif ar yr ynys.
"Fe gymerodd tua wyth ymgais i ni godi ar ben y rhewlif hwn oherwydd yr amodau," meddai.
Chwythodd corwynt drwodd o'r Antarctig y noson honno ac roedd angen achub y tîm SAS.
'Storm eira'
"Roedd yn eithaf anodd i ni. Ar un adeg, fe gollon ni reolaeth rotor ... ac yn ffodus fe wnaethon ni adennill rheolaeth ychydig cyn i ni daro'r rhewlif.
"Dro arall daethom allan o storm eira yn syth i wal o fynyddoedd.
"Ar un adeg roedden ni'n hedfan ar gyflymder o 100 knot yr awr a doedden ni ddim yn mynd i unman!"
Yn y diwedd fe lwyddon nhw i gyrraedd tîm yr SAS. Ond fe blymiodd dau o'r tri hofrennydd oedd yn rhan o'r ymgyrch achub i'r mynydd.
Yn ffodus, fe lwyddon nhw yn y pen draw i achub pawb.
Dechreuodd milwyr Prydain lanio ar Ynysoedd y Falklands ar 21 Mai 1982.
Yn ystod y cyfnod hwnnw bu Chris Parry yn llywio Wessex 3 gan hedfan grŵp o ddynion y Gwasanaeth Cychod Arbennig i'r ynysoedd, yr uned gyntaf i'r lan o'r prif luoedd.
Aeth ei long, HMS Antrim ymlaen i chwarae rhan flaenllaw yn yr ymosodiad ar San Carlos.
Ar ôl un ymosodiad gan awyrennau jet yr Ariannin fe wnaeth criw y llong ddarganfod bom nad oedd wedi ffrwydro, yn "hisian" ar y llong.
"Roedd yn rhaid i ni ei osod rhwng matresi a phob math o bethau eraill i'w atal rhag rholio o gwmpas," meddai Chris.
"Fe wnaethon ni dynnu'r bom allan trwy ddau ddec a'i roi dros yr ochr yn dawel iawn.
"A 15 munud yn ddiweddarach fe gawson ni neges gan bennaeth y brif fflyd yn dweud i 'beidio â symud y bom'.
"Ond fe wnaethon ni ac fe gawsom ni wared arno."
Ac yntau yn siaradwr Sbaeneg, bu'n ymdrin â charcharorion rhyfel yr Ariannin ar ddiwedd y rhyfel.
"Roedd llawer o'r consgriptiaid yn meddwl neu wedi cael gwybod eu bod mewn gwirionedd ar dir mawr yr Ariannin. Roedd eraill yn ofnus o'u swyddogion."
Wrth gludo dau filwr o'r Ariannin, dywedodd eu bod yn ofni y byddent yn cael eu taflu o'r hofrennydd.
"Oherwydd dyna oedd y llywodraeth yn yr Ariannin wedi bod yn ei wneud i'w charcharorion gwleidyddol.
"Y cyfan allwn i ei ddweud yn Sbaeneg oedd dweud wrthyn nhw, dydyn ni ddim yn mynd i wneud unrhyw beth, peidiwch â phoeni, mae'n iawn."
Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd ganddynt, mae Chris Parry yn teimlo'n falch o weithredoedd y fyddin Brydeinig yn y Falklands.
"Roedden ni 8,000 o filltiroedd i ffwrdd o gartref. A dydw i ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli pa mor bell yw hynny. Popeth y buom yn ymladd ag ef, fe aethon ni gyda ni.
"A wnaethom ni fynd i'r rhyfel yn y Falklands gyda'r holl offer yr oedd ei angen arnom? Na," ychwanegodd.
"Mae'n rhaid i chi dderbyn hynny. Mae'n rhaid i chi addasu, rhaid i chi addasu."
Fel Cymro, mae'n ymfalchïo'n fawr yng nghyfraniad y Cymry yn y rhyfel.
"Roedd yn dipyn o gamp gan bawb.
"Ond dwi wastad yn meddwl pan dwi yng Nghymru a dwi'n gweld coffâd o naill ai'r Falklands neu yn wir o'n traddodiad brwydro, dwi'n falch o fod yn rhan o'r hil Gymreig, a hefyd, y traddodiad hwnnw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012