Rhyfel y Falklands: Aduniad yr awyrfilwr a'r nyrs

  • Cyhoeddwyd
Nicci Pugh a Denzil Connick
Disgrifiad o’r llun,

Nicci Pugh a Denzil Connick yn cwrdd unwaith eto, 40 mlynedd wedi rhyfel y Falklands

"Mae hwn yn aduniad rhyfeddol ac arbennig iawn mewn rhywle sydd mor agos i'n calonnau."

Yng Nghapel Coffa Rhyfel y Falklands, mae Nicci Pugh a Denzil Connick yn myfyrio ar y digwyddiadau a ddaeth â nhw ynghyd 40 mlynedd yn ôl.

Cafodd y awyrfilwr (paratrooper) Denzil ei glwyfo bron yn ddifrifol ar ddiwrnod olaf ond un y gwrthdaro yn y Falklands.

Fe'i achubwyd gan dîm o feddygon ar fwrdd y llong ysbyty, Uganda.

Ymhlith y nyrsys a oedd yn ei drin, roedd Nicci.

"Rwy'n cofio'r llygaid glas clir yna, yn disgleirio. Roedd yn gymaint o gysur oherwydd roeddech chi'n gwybod bod y llygaid yna'n llygaid annwyl," meddai Denzil.

Wedi weld Nicci eto ac i'r llygaid yna oedd yn gymaint o gysur iddo yn ystod ei driniaeth ddwys, dywedodd: "Roedd yr hyn a wnaeth ein meddygon yn rhyfeddol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Denzil (dde) yn ystod ei gyfnod yn y fyddin

Stori Denzil

Roedd Denzil Connick, o'r Coed Duon ger Caerffili yn Is-gorporal yn y 3ydd Bataliwn yn ystod y rhyfel ym 1982, yn gweithio mewn gweithrediadau radio.

Yn 26 oed ar y pryd, mae'n cofio pan suddwyd llong ryfel yr Ariannin, y Belgrano ddechrau mis Mai y flwyddyn honno fel "moment anferth".

"Roedden ni'n gwybod wedyn o'r eiliad honno; dyma fe, rydyn ni'n mynd i mewn a does dim dod yn ôl," meddai.

"Yr unig ffordd 'dyn ni'n mynd i ddod yn ôl yw os ydyn ni'n ennill neu mewn bocs."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Denzil Connick (chwith) pan roedd yn 26 oed

Roedd y rhyfel 10 wythnos, a fyddai'n hawlio bywydau dros 900 o bersonél milwrol a sifiliaid, yn dod i'w derfyn pan oedd Denzil yn cymryd rhan yn y brwydro mwyaf ffyrnig ar fynydd Longdon.

"Dywedwyd wrthym, mewn termau sicr, fydde rhai ohonom ni ddim yn dod yn ôl," meddai.

"Roedd hynny'n beth eithaf anodd i feddwl amdano," ychwanegodd.

Disgrifiodd peth o'r ymladd ar fynydd Longdon fel ymladd "canoloesol" gyda'r defnydd o bidogau [bayonets] wyneb i wyneb.

Ar ôl dros 12 awr o ymladd, disgrifiodd yr olygfa ofnadwy y bore canlynol.

"Roedd yn arswydus iawn. Fe allech chi arogli'r meirw... fe allech chi eu harogli. Ac roedd yna ryw niwl yn gorwedd dros y ddaear hefyd, a'r llonyddwch a'r tawelwch ar ôl sŵn a gwallgofrwydd y frwydr.

"Mae cyrff eich gelyn, cyrff eich ffrindiau yn gorwedd yno yn stiff, doedd o ddim i weld yn real. Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un ohonom ni wedi gweld y fath beth.

"Fydd yr olygfa honno o arswyd byth yn gadael fy meddwl. Roedd o'n ofnadwy."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mynydd Longdon ger Stanley ar Ynysoedd y Falklands

Ddiwrnod ar ôl y frwydr waedlyd, ar fynydd Longdon, fe wnaeth Denzil ddioddef anafiadau a fyddai'n newid ei fywyd.

Wrth fynd i ddosbarthu neges, cafodd ef a dau arall eu taro gan fortar.

"Bu farw'r ddau ohonyn nhw o'u clwyfau yn y man cymorth drws nesaf i mi. Cefais fy rhoi o'r neilltu mewn gwirionedd fel 'no-hoper'," meddai.

Cafodd ei hedfan i ysbyty maes fel yr unig oroeswr ac mae'n cofio am yr hyn oedd ar ei feddwl yn ystod siwrne ar yr awyren.

"Meddyliais, 'Na, dydw i ddim yn mynd i adael i angau gymryd rheolaeth o hyn.' Ac fe wnes i hongian, hongian, hongian ymlaen."

Ar ôl cyrraedd yr ysbyty maes, bu farw am gyfnod, ond cafodd ei adfywio a'r diwrnod wedyn cafodd ei anfon i long ysbyty yr Uganda.

"Roedd fy nghlwyfau yn drychinebus. Roedd yna doriad trawmatig i fy nghoes chwith, a'r goes sy'n weddill, mi oedd wedi'i rhwygo'n ddarnau."

Stori Nicci

Erbyn hyn, roedd Nicci Pugh wedi bod yn trin milwyr ar yr SS Uganda - llong fordaith addysgol P&O oedd wedi'i thrawsnewid, ers bron i 10 wythnos.

Roedd wedi'i thrawsnewid yn ysbyty lawn tra ar y daith o Gibraltar i Dde'r Iwerydd.

Disgrifiad o’r llun,

Yr SS Uganda, ble roedd Nicci Pugh wedi bod yn trin milwyr

Yn Uwch Swyddog Nyrsio yng Ngwasanaeth Nyrsio Llynges Frenhinol y Frenhines Alexandra, roedd Nicci o Ddyfnaint, yn un o ddim ond 40 o fenywod yn ardal y frwydr yn Rhyfel y Falklands.

Bu'n ymwneud â thriniaeth arloesol i ddioddefwyr llosgiadau. Roedd hyn yn cynnwys dwsinau o Warchodwyr Cymreig a losgwyd yn ddrwg yn dilyn yr ymosodiad ar long y Sir Galahad ychydig ddyddiau ynghynt.

"Roedden ni'n ceisio sefydlu ysbyty milwrol effeithlon wrth ymyl y lan, 8,000 o filltiroedd o adra," meddai.

"Chi ond yn meddwl am y dasg dan sylw ac yn gwybod bod rheiny sydd wedi eu hanafu wir angen ein gofal."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nicci yn un o ddim ond 40 o fenywod yn ardal y frwydr yn Rhyfel y Falklands

Er gwaethaf trin personél di-ri yn yr ysbyty, mae Nicci yn cofio dyddiau olaf y rhyfel pan y buodd hi'n trin Denzil.

"Roedden ni wedi trin cymaint o gannoedd o gleifion ar fwrdd y llong, felly byddai'n anarferol cofio unigolyn. Ond gallaf godi fy llaw a dweud fy mod i'n cofio Denzil oherwydd, yn glinigol, roedd wedi ei anafu'n ddifrifol iawn."

Mae'n cofio dychwelyd i'r theatr am lawdriniaethau "mwy na hanner dwsin o weithiau."

Arbedodd triniaeth Denzil ei fywyd ac un o'i goesau. Mae hefyd yn canmol Nicci a'r nyrsys eraill am ei helpu i ddelio â'r trawma.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Nicci (canol) ar fwrdd yr SS Uganda

"Un funud 'dych chi'n ffit, yn ddyn ifanc iach, y funud nesaf, rydych chi'n anabl," meddai Denzil.

"Roedd y staff nyrsio ar y rheng flaen ar yr amser anoddaf - pan chi'n clywed y newyddion, neu pan chi'n sylweddoli fod eich bywyd nawr yn mynd i gael ei newid am byth. Roedd pobl fel Nicci yn sicrhau ein bod ni'n goroesi'r cam hwnnw. "

Yr Aduniad

40 mlynedd yn ddiweddarach, yng Nghapel Coffa Rhyfel y Falklands yng ngholeg Pangbourne ger Reading, mae Denzil a Nicci yn cofleidio fel hen ffrindiau.

Maen nhw'n siarad am "y berthynas agos" rhwng y rhai sydd wedi bod yn gysylltiedig â rhyfeloedd.

Disgrifiad o’r llun,

Nicci Pugh: "Ar ddiwedd y dydd, mae pob rhyfel yr un peth"

"Mae hi fel mam i ni gyn-filwyr ac mae hi'n hoffi gweld sut mae ein lles ni a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gofalu amdanon ni ein hunain," meddai Denzil.

Mae'r ddau yn falch o'u cyfraniad yn Ne'r Iwerydd ac yn gysylltiedig â chymdeithasau cyn-filwyr.

Gyda llygad ar y gwrthdaro parhaus yn Wcráin, mae Nicci'n myfyrio'n deimladwy ar effeithiau rhyfel.

"Mae llawer o bobl yn dweud bod pob rhyfel yn wahanol. Ac wrth gwrs, maen nhw - o ran lleoliad, tir, bwriad, maen nhw i gyd yn wahanol. Ond yn y bôn maen nhw i gyd yr un peth.

Disgrifiad o’r llun,

Denzil yng Nghapel Coffa Rhyfel y Falklands yng ngholeg Pangbourne ger Reading

"A dyna pam mae Denzil a minnau wedi gwneud yr ymdrech yma i deithio i'r gofeb unigryw ac arbennig iawn yma, i fyfyrio. Oherwydd, ar ddiwedd y dydd, mae pob rhyfel yr un peth.

"Ac etifeddiaeth pob rhyfel yw dinistr di-synnwyr a dibwrpas o ddinasoedd, adeiladau, trefi a bywydau."