Ateb y Galw: Huw Foulkes
- Cyhoeddwyd
Y newyddiadurwr a'r arweinydd côr, Huw Foulkes, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.
Yn wreiddiol o Fethel, mae Huw yn byw yng Nghaerdydd ble mae'n gweithio i'r BBC. Fe enillodd Côrdydd, dan ei arweinyddiaeth, gystadleuaeth Côr Cymru yn ddiweddar.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Teithio mewn car wrth fynd ar wyliau ac enwi model bob car arall wrth iddyn nhw fynd heibio. Mae'n rhaid fod dad wedi dysgu enwau'r holl geir i ni. 'Sgen i'm syniad be ydi model fy nghar fy hun erbyn heddiw!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Y noson sy'n cael ei hadnabod ymysg ein criw fel "Chwil yn Lille" ar ôl buddugoliaeth Cymru yn erbyn Gwlad Belg yn rowndiau terfynol Euro 2016.
Dwi ddim yn meddwl i ni dreulio mwy na 24 awr yno ar ôl oedi mawr ar yr Eurotunnel, cyrraedd y gêm jesd mewn pryd ac yna'r dathlu! Fy atgof ola' o'r noson ydi chwarae Hen Wlad Fy Nhadau ar biano mewn bwyty Tsieinïaidd a llwyth o Gymry ar ben byrddau a chadeiriau'n morio canu!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Breichiau melin wynt.
O archif Ateb y Galw:
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl yn ôl?
Ma' gormod ohonyn nhw. Dwi'n chwerthin lot. Weithia' mewn sefyllfaoedd anffodus. Ond ma' bod yng nghwmni ffrindia' a theulu yn chwerthin yn wirion yn brofiad sy'n digwydd yn aml iawn, iawn. Dwi'n ffodus ohonyn nhw i gyd.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Eisteddfod Sir pan o'n i'n y chweched dosbarth. Unawd Piano - mynd amdani a mynnu perfformio heb gopi. Y meddwl yn pallu ar ganol darn heriol, gorfod stopio a gofyn i mam ddod â'r copi at y piano!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Roedd agor y llenni yn fy hen ystafell wely ym Methel yn brofiad braf bob bore a gweld Yr Wyddfa yn aml yn gwisgo'i gap. Dim ond wrth dyfu'n hŷn y ma' rhywun wedi gwerthfawrogi hynny.
Ma' mynd am run ar hyd strydoedd Caerdydd hefyd yn fy ngwneud i'n hapus er mwyn clirio'r pen.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dagrau o lawenydd ar ôl sylweddoli llwyddiant Côrdydd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n dueddol o fod yn hwyr i bob man ond yn flin os ydi pobol eraill yn hwyr!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
'No Way But This' yn trafod hanes Paul Robeson. Mi wnes i ddod ar draws y llyfr yma tra'n ymchwilio i sioe "Hwn yw fy Mrawd" ar gyfer Prifwyl Caerdydd ac ma' un dyfyniad wedi aros efo fi - "all men are brothers because of their music."
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Hapus fel ydw i, diolch.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Nain a Taid ochr dad. Mi fu farw nain ryw dair blynedd cyn i fi gael fy ngeni ac mi roedd hi'n gerddorol iawn. Mi faswn i wrth fy modd clywed be fasa'i hymateb a chael Taid Jac yno hefyd i ddoethinebu.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n CARU broccoli!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Byw i'r funud a gobeithio am y gora'.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun ohona'i, Sioned a Heledd mewn parti priodas. Llun llawen, hapus a direidus sy'n gofnod o gyfeillgarwch. Ma' colli ffrind agos yn brofiad anodd ond ma'r atgofion a'r hyn ddysgais i ganddi yn gwbl amhrisiadwy.