Cyhuddiad o geisio llofruddio wedi cythrwfl yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i ddyn fynd o flaen ynadon yn Llanelli ddydd Llun wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio dyn arall mewn pentref yn Sir Gâr.
Galwyd Heddlu Dyfed-Powys i adroddiadau o gythrwfl yn Heol yr Orsaf, Brynaman Uchaf yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn, 9 Ebrill.
Cafodd dyn 26 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond does dim lle ei gredu eu bod yn peryglu ei fywyd.
Mae Andrew Howell, 46, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.
Cafodd dau ddyn arall eu harestio ar amheuaeth o affräe a'u rhyddhau'n amodol ar fechnïaeth wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Mae'r llu'n apelio am wybodaeth all fod o fudd i'r ymchwiliad.