Dirwyon: Drakeford 'methu gweld' sut all Johnson barhau
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau wedi galw eto am ymddiswyddiad y Prif Weinidog a'r Canghellor wedi i'r ddau gael eu dirwyo am dorri rheolau Covid.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, nad yw'n gweld sut fedr Boris Johnson barhau yn ei rôl yn dilyn y cyhoeddiad.
Ac mewn cyfweliad ar raglen foreol BBC Radio Cymru, Dros Frecwast, fore Mercher, dywedodd AS Llafur Llanelli, Nia Griffith, ei bod hi'n "warthus" bod ASau Ceidwadol yn dal i gefnogi'r Prif Weinidog a'r Canghellor.
"Dyle'r ddau ohonyn nhw ymddiswyddo," meddai.
Creu a thorri'r rheolau
"Maen nhw wedi torri'r rheolau maen nhw wedi eu creu - 'na'r pwynt," meddai Nia Griffith.
"Mae lan iddyn nhw (y Blaid Geidwadol) a mae'n warthus nad ydyn nhw'n fodlon neud dim byd - maen nhw i gyd yn euog wedyn o dal i gefnogi'r Prif Weinidog a'r Canghellor sydd wedi torri'r gyfraith.
"Byth yn ein hanes 'dyn ni wedi gweld Prif Weinidog yn torri'r gyfraith."
Dywed Mr Johnson ei fod am barhau yn ei swydd a'i fod wedi talu'r ddirwy.
Mewn datganiad dywedodd ei fod yn "deall y dicter y bydd nifer yn ei deimlo fy mod i wedi methu â dilyn y rheolau gafodd eu gosod gan y llywodraeth rwy'n ei harwain er mwy diogelu'r cyhoedd".
Pan ofynnwyd a fyddai'n ymddiswyddo dywedodd ei fod yn teimlo dyletswydd i "wireddu blaenoriaethau pobl Prydain" gan ychwanegu fod y rhain yn cynnwys sicrhau fod "Putin yn methu yn Wcráin ac ysgafnhau'r baich ar deuluoedd o ganlyniad i brisiau ynni uwch".
"Rwy'n derbyn yn ddiffuant fod gan bobl yr hawl i ddisgwyl pethau gwell."
Yn ddiweddarach nos Fawrth fe wnaeth y Canghellor Rishi Sunak hefyd gyhoeddi "ymddiheuriad diamod" am fynychu achlysur yn Downing Street ar 19 Mehefin.
'Maen nhw wedi torri'r gyfraith'
Hyd yn hyn mae dros 50 o ddirwyon wedi eu rhoi gan Heddlu'r Met yn dilyn ymchwiliad i'r partïon yn Downing Street.
Ddydd Mawrth, dywedodd Mr Drakeford: "Rwyf wedi dweud drwy gydol yr holl fusnes Partygate yma na fedrwch chi fod yn ddeddfwr ac yn un sy'n torri'r deddfau.
"Ac os ydy prif weinidog wedi cael ei ddirwyo, mae gen i ofn bod yr holl bethau y mae o wedi bod yn eu dweud dro ar ôl tro ar lawr Tŷ'r Cyffredin, hynny yw nad oes dim byd o'i le wedi digwydd yn Downing Street - rhywbeth yr oedd o'n gyfrifol amdano. Mae'r cyfan yn anghynaladwy bellach.
"Dwi ddim yn gweld sut mae o'n meddwl y gall gario mlaen."
Galwodd Jo Stevens, llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan, ar y ddau i ymddiswyddo.
"Maen nhw wedi torri'r gyfraith ac mae eu sefyllfa yn anghynaladwy," meddai.
Tebyg oedd ymateb Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin.
"Mae'r diffyg crebwyll yn fy mrawychu, ac ni ellir ond ei briodoli i rhyw synnwyr ffroenuchel eu bod yn bobl eithriadol, sydd â chred yn eu hawl [i rhywbeth].
"Os oes ganddynt unrhyw anrhydedd yn perthyn iddyn nhw fe fyddant yn ymddiswyddo."
Dywedodd un arall o aelodau seneddol Plaid Cymru wrth BBC Radio Cymru ei fod yn "amlwg" y dylai Mr Johnson a Mr Sunak ymddiswyddo.
"Mae 'na fater o egwyddor yn hyn," meddai Hywel Williams, yr Aelod Seneddol dros Arfon, "ac yn sicr mae'r cannoedd o filoedd o bobl sydd wedi cadw'r rheolau ar gost personol mawr... yn dweud yn eglur iawn eu bod nhw yn ffyrnig yn erbyn y Canghellor a'r Prif Weinidog".
"Dw i dros nos wedi cael dwsin o ebyst just dros nos yn dweud yr union beth yna," meddai wrth raglen Dros Frecwast fore Mercher.
Fe wnaeth Mr Williams wadu'r syniad nad yw'n amser addas i gael gwared ar brif weinidog yn sgil y sefyllfa rhyngwladol.
"'Naeth Lloyd George ddod yn brif weinidog yng nghanol y Rhyfel Byd Cyntaf - 'naethon nhw gael gwared o Asquith... dydy'r ddadl yna ddim yn dal dŵr.
"Hygrededd ydy o yn y pen draw: ydy'r bobl yma'n ffit i fod mewn grym?"
'Annoeth' cael gwared
Ond yn ôl un AS Ceidwadol o Gymru, byddai'n "annoeth" cael gwared ar y prif weinidog ar hyn o bryd, yn enwedig o ystyried y "gefnogaeth ryfeddol i Wcráin" gan y llywodraeth.
Dywedodd AS arall, oedd hefyd am aros yn ddienw, y byddai'n rhaid "meddwl yn ofalus" am ddyfodol Mr Johnson.
"Mae gweinidog arall yn rhan o hyn nawr [Sunak], sy'n gadael Liz Truss fel y dewis amgen.
"Mae'n rhaid bod y person gorau yn rheoli'r wlad, ac os yw'n mynd, beth mae hynny'n ei olygu?"
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "O fod wedi cael trafferth gweld teulu yn yr ysbyty wrth i'r feirws ledu, rwy'n gwybod pa mor anodd mae'r cyfnod yma wedi bod.
"Wedi dweud hynny, mae'r tor-rheolau wedi eu delio â nhw nawr a byddaf yn parhau i roi fy nghefnogaeth lawn i'r Prif Weinidog a'r Canghellor ddelio gyda'r heriau rhyfeddol sy'n ein hwynebu."
Mewn ymateb ar ei gyfrif trydar dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae rhoi dirwy yn rhywbeth i'r Prif Weinidog a'r Canghellor i ymateb iddo.
"Yn ddealladwy mae pobl am wybod beth sydd ganddynt i ddweud am y datblygiadau.
"Gyda'r trais a'r dinistr rydym yn ei weld yn Wcráin ar hyn o bryd, mae Wcráin angen cyfaill cryf o ran y DU yn cefnogi eu brwydr ddewr yn erbyn Putin.
"Mae hi felly yn bwysig fod y Prif Weinidog yn ymateb i ddigwyddiadau heddiw ond yn parhau â'i arweinyddiaeth gref yn cefnogi Wcráin yn eu cyfnod o argyfwng."
Y farn o Fangor
Mae'n "eithaf teg", meddai Adrian Williams, bod y Prif Weinidog a'r Canghellor yn cael dirwyon.
"Y celwyddau a'r ffaith bod nhw'n meddwl bod nhw'n entitled… bod ganddo nhw hawl i wneud pethau s'neb arall yn cael 'neud. Ma hwnna'n gas i rywun fel fi."
Dywedodd Sion Owens, sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, bod "pawb yn human".
"Mae pawb yn mynd i wneud camgymeriadau yn eu bywydau nhw. Ond nadi, dydi o ddim yn iawn bod rhywun o'i statws o yn gwneud rhywbeth fel 'na," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021