Caerdydd i groesawu'r WWE yn ôl i'r DU wedi 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd digwyddiad cyntaf y WWE yn y Deyrnas Unedig ers dros 30 mlynedd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality.
Cyhoeddodd y cwmni reslo ddydd Mawrth mai'r stadiwm yng Nghaerdydd oedd y "lleoliad perffaith" ar gyfer y digwyddiad ym mis Medi.
Cafodd digwyddiad diwethaf y WWE yn y DU ei gynnal yn Stadiwm Wembley ym 1992.
Fe wnaeth Gweinidog Economi Cymru groesawu'r cyfle i "arddangos Cymru i gynulleidfa o filiynau yn fyd-eang".

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 3 Medi 2022
"Dyma ddigwyddiad perffaith o fewn blwyddyn enfawr o chwaraeon, adloniant a diwylliant yng Nghymru a fydd yn denu pobl o bedwar ban byd i brofi'r hyn sydd gan ein gwlad i'w gynnig," medd Vaughan Gething.
Yn ôl Rheolwr Stadiwm Principality, mae'r newyddion yn "tystio i enw da'r stadiwm fel lleoliad o safon fyd-eang".
Bydd y digwyddiad yn "dod â budd ehangach i ddinas Caerdydd," ychwanegodd Mark Williams.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2021