Stadiwm Principality yn croesawu stadiwm llawn cefnogwyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CefnogwyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm ddydd Sadwrn oedd y digwyddiad mwyaf o bell ffordd i ddefnyddio pasys Covid yng Nghymru hyd yma

Cynhaliodd Caerdydd gêm rygbi rhyngwladol mewn stadiwm llawn am y tro cyntaf ers dechrau 2020 wrth i Gymru herio Seland Newydd ddydd Sadwrn.

Roedd Stadiwm Principality yn llawn am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig, gyda phob tocyn wedi'i werthu.

Daw hynny er bod cyfradd achosion Cymru wedi bod ar ei lefel uchaf erioed yn ddiweddar.

Bu'n rhaid i'r 74,000 o gefnogwyr gyflwyno pàs Covid dilys er mwyn cael mynediad i'r gêm.

Cafodd pawb oedd â thocyn amser penodol i gyrraedd eu mynedfa er mwyn sicrhau bod modd i bawb fod yn eu seddi cyn yr anthemau.

Ar y cae, sgoriodd Seland Newydd saith cais i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r Crysau Duon o 56-14.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yn rhaid i gefnogwyr ddangos pàs Covid cyn cael mynediad i'r stadiwm

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y stadiwm yn llawn am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ddydd Gwener fod y broses o ddangos pasys wedi cael ei rheoli'n dda mewn gemau pêl-droed mawr yng Nghymru.

Cafodd teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus rybudd yn gynharach yn yr wythnos y bydd y gyfraith ar wisgo mygydau yn cael ei blismona o amgylch y brifddinas.

Roedd cyfradd achosion Cymru gyfan dros y saith diwrnod diweddaraf yn 653.1 ar gyfer pob 100,000 o bobl - ymysg yr uchaf y mae wedi bod erioed.

Dyma oedd gêm gyntaf Cymru yn Stadiwm Principality heb unrhyw gyfyngiadau ar faint y dorf ers Chwefror 2020 - ychydig dros fis cyn y cyfnod clo cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Dan Mullan
Disgrifiad o’r llun,

Johnny Williams sgoriodd yr unig gais i Gymru ddydd Sadwrn

Seland Newydd oedd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref eleni, cyn i'r crysau cochion herio De Affrica ar 6 Tachwedd, Ffiji ar 14 Tachwedd ac Awstralia ar yr 20fed.

Nid y gêm ddydd Sadwrn oedd y digwyddiad cyntaf i ddefnyddio pasys Covid yng Nghymru, ond hyn oedd y mwyaf o bell ffordd hyd yma.

Mae'r pasys - sy'n dangos fod person wedi cael dau frechlyn neu ganlyniad negatif i brawf llif unffordd yn y 48 awr ddiwethaf - mewn grym ar gyfer clybiau nos ac unrhyw ddigwyddiad sydd â chapasiti o dros 10,000 o bobl.

Mae'n bosib y byddan nhw'n cael eu hymestyn i theatrau, sinemâu a neuaddau cyngerdd o 15 Tachwedd.

Roedd yn rhaid gwisgo mygydau yn y stadiwm hefyd oni bai eich bod yn eich sedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Mark Williams annog cefnogwyr i barchu staff yn y stadiwm

Yn siarad cyn y gêm, dywedodd rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams ei bod yn annhebygol y byddai pob un cefnogwr yn gorfod dangos pàs.

"Dy'n ni'n mynd i dreial ein gorau ond bydd rhaid ni weld sut bydd y dorf yn adeiladu," meddai.

"Yr hyn dy'n ni ddim eisiau gwneud yw creu problem tra'n ceisio atal problem - fe fydd yn gymesur i'r dorf ar y pryd ac fe wnawn ni ein gorau i wneud cymaint â phosib."

Ychwanegodd ei fod yn galw ar bawb sy'n mynychu i sicrhau eu bod wedi lawrlwytho tocyn digidol.

Gemau'r dynion ddim yn fyw ar S4C

Ni fydd gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn fyw ar S4C eleni yn dilyn cytundeb gyda chwmni Amazon Prime.

Yn 2020 roedd gemau Cymru yn fyw ar Prime ac S4C, ond eleni uchafbwyntiau yn unig fydd gan S4C, a hynny rhyw awr wedi'r chwiban olaf.

Bydd y gemau ar gael gyda sylwebaeth iaith Gymraeg ar Prime.

Cyhoeddodd y BBC ac S4C ddydd Gwener y bydd gemau tîm merched Cymru yr hydref hwn - yn erbyn Japan, De Affrica a Chanada - yn cael eu darlledu'n fyw, gyda'r gyntaf ar S4C a'r ddwy arall ar y BBC.