Iwan Rheon: actio yn y Gymraeg unwaith eto
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf ers 14 mlynedd mae Iwan Rheon yn actio yn y Gymraeg ac mae'n dweud mai'r sialens fwyaf iddo oedd ffilmio fersiwn Saesneg ar yr un pryd.
Ar ôl dechrau ei yrfa ar Pobol y Cwm pan oedd o'n 17 oed, mae wedi datblygu i fod yn actor llwyddiannus iawn gan serennu yn y gyfres boblogaidd Game of Thrones.
Nawr bydd i'w weld mewn cyfres seicolegol newydd Y Golau, sy'n gyd-cynhyrchiad rhwng S4C, Channel 4, Triongl a Duchess Street Productions.
Actio yn y Gymraeg
"Do'n i heb neud dim byd yn Gymraeg ers 2008 pan nes i neud cwpwl o benodau o Caerdydd," meddai wrth Cymru Fyw.
"Fi wedi bod yn chwilio am rywbeth ers ages, mae o'n rhywbeth dwi rili wedi bod eisiau neud ond nath hwn dod fyny a ro'n i'n teimlo bod o'n berffaith i fi... felly fi'n rili balch bod fi wedi gallu dod i neud actio yn Gymraeg eto - lle nes i ddechre."
Yn Y Golau, mae'n chwarae rhan y cymeriad Joe Thomas sy'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl treulio cyfnod dan glo am lofruddio merch 15 oed, ac yn mynd yn ôl i'w gynefin yng ngorllewin Cymru.
Ffilmio mewn dwy iaith
Bydd fersiwn Saesneg yn cael ei darlledu yn y Deyrnas Unedig, Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd felly roedd pob golygfa yn cael ei ffilmio yn y Gymraeg a'r Saesneg, un yn syth ar ôl y llall.
"Roedd e'n sialens achos yn amlwg mae ffilmio mewn dwy iaith yn anodd... mae rhaid i chi newid y gears yn eich pen chi yn gyflym a ma' hynny'n eitha' anodd," meddai. "Yn enwedig erbyn diwedd y diwrnod, a chi'n dechra blino ma'n eitha' tricky.
"Lwcus i fi mae fy nghymeriad i Joe yn ddyn eitha' tawel... dydi e'm yn siarad llawer, ddim tan bellach ymlaen yn y gyfres, felly roedd e'n haws i fi gynhesu i fyny. Roedd e'n lot anoddach i'r actorion eraill."
Un o'r actorion hynny ydi Joanna Scanlan, sydd wedi actio yn The Thick of It, No Offence, Bridget Jones' Baby a Notes on a Scandal.
Fe gafodd hi ei magu yng ngogledd Cymru a dechreuodd ddysgu Cymraeg yn ddiweddar. Mae hithau hefyd wedi actio yn y fersiwn Cymraeg a Saesneg o'r gyfres Y Golau.
"Dwn i'm sut wnaeth hi fe," meddai Iwan. "Mae ddigon anodd i ni sy'n siarad y ddwy iaith yn rhugl, gorfod switchio i Saesneg... ac mae hi wedi gorfod neud e yn Gymraeg. Dwi'n siŵr wnaeth hi ddim cysgu lot - ac mae ei chymeriad hi'n siarad drwy'r amser, lot mwy na fi.
"Nes i neud rhywbeth tebyg cwpwl o flynydde nôl efo Pwyleg ac roedd e mor anodd. So chwarae teg iddi am neud hynny ac mae'n wych bod actores sydd 'di neud gymaint a sydd mor brofiadol yn dod i neud rhywbeth Cymraeg."
Er y byddai'n well ganddo petai wedi gallu ffilmio fersiwn Cymraeg yn unig, mae'n dweud mai'r fantais fawr o gael cyd-gynhyrchiad fel hyn ydi mwy o arian i'r prosiect, ddylai arwain at safon uwch i'r cynhyrchiad. Ond gyda'r byd darlledu yn newid mor sydyn mae'n anodd rhagweld yr effaith ar gynyrchiadau Cymraeg.
Preifateiddio Channel 4
Gyda llywodraeth y DU yn gobeithio preifateiddio Channel 4, mae rhai wedi codi pryderon am effaith negyddol hyn ar gynyrchiadau mwy arbrofol lle mae elfen o risg a llai o siawns i wneud elw mawr - yn cynnwys drama.
Ydi Iwan yn poeni am effaith unrhyw breifateiddio ar allu S4C i gyd-weithio gyda Channel 4 yn y dyfodol?
"Gobeithio ddim ond mae'n berygl dwi'n meddwl - dwi ddim yn meddwl bod e'n wych i S4C os mae e'n digwydd yn anffodus, ond gobeithio bydd pethe'n gweithio allan," meddai.
"Ond os mae mwy o raglenni fel hyn fel Y Golau yn dod allan, a bod lot mwy o sylw yn dod ato fe, falle bod ffordd arall mewn fel Netflix, ac er enghraifft bod e'n gallu cael ei gynhyrchu i gyd yn Gymraeg a bod pobl yn barod i wylio fe gydag isdeitlau i gyd yn Gymraeg."
Bydd Y Golau i'w weld ar S4C ar 15 Mai