Mike Bubbins: 'Byth rhy hen i ddysgu Cymraeg'

  • Cyhoeddwyd
Mike Bubbins

"Dydy' chi byth yn rhy hen i gychwyn dysgu Cymraeg - mae pobl fy oedran i yn y rhan yma o Gymru wedi cael yn union yr un profiad â fi, gyda'r Gymraeg yn rhywbeth oedd rhaid i chi wneud yn yr ysgol nes bod chi'n 14. Ac yna oeddech chi'n gallu stopio gwneud e. 'Doedd e ddim yn rhan o'ch bywyd, roedd e jest yn wers weird 'oedd rhaid i chi wneud."

Mae'r digrifwr Mike Bubbins ar fin troi'n 50 oed ac wedi rhoi cynnig ar ddysgu siarad Cymraeg fel rhan o gyfres Iaith ar Daith ar S4C.

Mae ei agwedd at yr iaith wedi newid yn fawr ers ei ddyddiau ysgol yn Y Bari, yn ôl Mike: "Mae fy mhlant mewn ysgolion Cymraeg ac wedi bod yn mwynhau addysg Gymraeg ers blynyddoedd.

"Dwi'n coachio rygbi ar ddydd Sul, yn cyfarfod pobl ar y school run a siarad gyda rhieni - dwi wedi dod i ddeall peth o'r iaith.

"Dywedais wrth un o'r tadau ar y school run mod i'n deall mwy o Gymraeg na dwi'n gallu siarad - dywedodd e, 'mae hynny'n union fel ci fi'."

Iaith capel

Tyfodd Mike i fyny yn Y Bari a'i brif brofiad o'r iaith Gymraeg oedd mewn gwersi ysgol nes ei fod yn 14: "Pan o'n i yn yr ysgol yn Bari yn yr 80au gwnes i dim Cymraeg ar ôl troi'n 14 - a dim llawer cyn hynny i fod yn onest.

"Roedd y Gymraeg oedd yn cael ei ddysgu fel iaith capel. D'on i ddim hyd yn oed wedi dysgu sut i gyfri i 10 yn Gymraeg.

"Efallai byddwn yn adrodd Gweddi'r Arglwydd bob dydd Mawrth a chanu Calon Lân ond dyna'r cyfan.

"Doedd dim iaith sgwrsio'n cael ei ddysgu. Ti angen dysgu sut i siarad â phobl ac yna dysgu'r gweddill wrth fynd ymlaen."

Newid agwedd

Ond roedd anfon y plant i ysgolion Cymraeg yn drobwynt i Mike: "Doeddwn i ddim yn mynd i anfon y plant i ysgolion Cymraeg ond mae fy ngwraig yn athrawes Saesneg mewn ysgol gyfun Saesneg ac roedd hi eisiau anfon nhw i ysgol Gymraeg felly dywedais i, rhown ni flwyddyn iddi i weld sut maen nhw'n dod mlaen.

"A dyna'r peth gorau dwi wedi gwneud.

"Gwnaeth e exposeio fi i'r iaith - tyfu i fyny yn Bari a gweithio a chwarae rygbi yng Nghaerdydd d'on i ddim yn clywed yr iaith o gwbl. Nawr mae ym mhob man, sy'n hyfryd.

"Yn y pum neu chwe mlynedd diwethaf mae fy agwedd wedi newid a dyna pam dywedais i 'Ie' i wneud y rhaglen Iaith ar Daith. Pan o'n i'n ifanc o'n i'n teimlo bach out of it, yn enwedig yn y rygbi.

"Ond ar ôl neud cymaint gyda ysgol fy mhlant a'r clwb rygbi mae pethau wedi newid."

Mae Mike yn helpu hyfforddi tîm plant Clwb Rygbi Cymry Caerdydd ac mae'r chwaraewyr ifanc i gyd yn siarad Cymraeg: "Ar ddydd Sul nawr dwi'n dweud wrthynt i siarad â fi'n Gymraeg ac nid Saesneg."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mike Bubbins ac Elis James

Mentor

Fel rhan o'r rhaglen mae Mike yn mynd ar daith gyda mentor adnabyddus, sef ei gyd-ddigrifwr Elis James, sy'n hen ffrind iddo.

Meddai: "Roedd yn rhyfedd i Elis weld fi'n dysgu iaith. Cwpl o weithiau ar y podcast (mae Mike ac Elis yn cyflwyno podcast o'r enw The Socially Distant Sports Bar) dwi wedi siarad Cymraeg a doedd e methu credu fe.

"Ar Iaith ar Daith roedd e'n eyeopener iddo weld ei ffrind yn neud rhywbeth mor wahanol. Y golwg ar ei wyneb bach!

"Roedd e'n brilliant - cawsom ni lot o hwyl. Wrth yrru i lefydd, roedd e'n dweud 'dwi'n mynd i siarad dim ond Cymraeg gyda ti.'

"Hyd yn oed os o'n i'n cael e'n anghywir, roedd e'n cywiro fi yn Gymraeg ac o'n i'n trio eto. Gwnaethon ni un drive a dywedodd e 'ti wedi bod yn siarad Cymraeg heb stop am awr.'

"Mae e'n gret ac yn amyneddgar.

"Dwi ddim yn ofni gwneud mistecs - sy'n rhan mawr ohono. Roedd hi'n bwysig i fi wybod bod hi'n iawn i neud mistecs.

"Dwi'n 50 cyn hir ac mae'r profiad wedi dangos i fi bod ti byth yn rhy hen i neud pethau. Roedd hwnna'n revelation. Dwi wedi bod yn siarad am ddysgu Cymraeg am 10 mlynedd ond heb wneud e. O fewn mis neu ddau o drio siarad yn iawn a dwi wedi llwyddo i gael chat gyda pobl yn Gymraeg."

Ffynhonnell y llun, S4C

Llwyddiant y podcast

Cychwynnodd Mike ac Elis gyflwyno podcast The Socially Distant Sports Bar gyda eu ffrind Steffan Garrero yn y cyfnod clo cyntaf. Erbyn hyn mae'r tri wedi recordio dros 100 o raglenni.

Mae llwyddiant y fenter wedi bod yn sioc i Mike: "Dechreuodd yr holl beth yn y locdown cyntaf pan oedd popeth yn scary a'n horrible. Roedd y tri ohonom yn cyfarfod unwaith yr wythnos am chat dros Zoom.

"Roedd pobl yn ei fwynhau ac mae wedi tyfu a thyfu. Dechreuodd fel sgwrs am awr am chwaraeon - ond erbyn hyn mae tua tair awr o hyd a tua 10% ohono sy' am chwaraeon.

"Mae wedi bod yn mad - aethon ni ar tour o Brydain llynedd a ni'n edrych ar sioe yn yr arena yng Nghaerdydd. Mae'n crazy.

"Mae wedi bod y peth gorau felly gobeithio neith barhau.

Cyfrinach y llwyddiant

"Mae pobl yn hoffi e achos doedden ni ddim yn faking it - 'natho ni ddim gwneud e i neud arian a gwnaethon ni ddim arian o gwbl yn y misoedd cynta'. Roedd e jest yn tri dyn oedd yn ffrindiau yn cael chat unwaith yr wythnos am bethau ni'n gweld yn ddiddorol.

"Daeth e'n fwy na hynny wedyn a dechreuon ni siarad am bethau sy' ddim yn cael eu siarad am cymaint gan dri dyn. Dechreuon ni siarad am chwaraeon menywod, chwaraeon bobl anabl.

"Dechreuodd y podcast wneud yn dda a dechreuon ni wneud arian ohono a dechrau noddi timoedd gwahanol. Ni mewn sefyllfa nawr le ni'n gallu helpu pobl a gwneud y pethau ni'n siarad am wneud felly mae wedi bod yn grêt."

Gwyliwch Mike Bubbins ar Iaith Ar Daith ar nos Sul, 24 Ebrill am 8.00 ar S4C neu ar iplayer.

Pynciau cysylltiedig