'Dal ein gwynt am flwyddyn normal i'r busnes'
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog busnes lletygarwch wedi disgrifio'r gobaith am flwyddyn "mwy normal eleni" wrth i fwy o gyfyngiadau Covid gael eu dileu, er bod sawl her ar y gorwel ar yr un pryd.
Dywedodd Annest Rowlands, sy'n rhedeg bwyty, siop anrhegion a gwasanaeth gwely a brecwast yn Ynys Môn gyda'i mam, Gwenan, eu bod "yn eitha' positif am 'leni".
Ond mae trafferthion recriwtio ac achosion Covid ymhlith staff yn dal yn destun pryder, ac mae disgwyl i'r argyfwng costau byw wasgu ar y busnes ac ar gwsmeriaid.
"'Dach chi'n poeni bod pobol ddim yn mynd i ddod yn ôl trwy'r drws achos y pwysa'," meddai wrth raglen Dros Frecwast.
"Ma' pobol yn poeni am tanwydd, ma' pobol yn poeni am filia' 'lectric a ballu ar y funud... mae'n boen meddwl i bawb."
Roedd y busnes - Blas Mwy Black Lion yn Llanfaethlu - ond yn flwydd oed a'r ddwy'n dal yn y broses "o ffeindio'n traed" ar ddechrau'r pandemig, cyn gorfod dygymod â chau'r drysau o cheisio dal ati o fewn y cyfyngiadau Covid.
"'Dan ni'n teimlo'n eitha' positif am 'leni achos 'dan ni'n gobeithio bod yna bach o normalrwydd," meddai Ms Rowlands.
Mae'r ffaith bod modd cael "gymaint â lician ni o bobol i fewn" o ran cwsmeriaid a staff, heb orfod cadw pellter cymdeithasol, yn help mawr.
Ond mae'n dweud eu bod "yn dal ein gwynt dipyn bach" wrth i sawl gwestiwn mynd trwy'u meddyliau.
"Ydi o'n mynd i fod yn flwyddyn normal? Ydi hi ddim? Dwi'm yn gw'bod.
"Ma' cwsmeriaid yn wahanol - ma'r empathi wedi mynd, mewn ffordd... mae'n effeithio pawb.
Fe ddisgrifiodd y cur pen bythefnos yn ôl wrth i hi a'i mam greu bwydlen newydd ar gyfer yr haf a phennu'r prisiau.
"Rhaid i ni bwyso a mesur faint ma' petha' yn costio i ni... a 'dach chi'n cringe-io braidd achos 'dach chi'n meddwl 'allwn ni ddim gofyn pris fel'a - 'di pobol ddim yn mynd i dalu gymaint â hynna am bysgodyn a sglodion'.
"Ond mae'n rhaid i ni. 'Dan ni'n gorfod pasio'r pris 'na ymlaen at y cwsmer, yn anffodus."
Mae'r sector wedi dioddef problemau staffio mawr yn y misoedd diwethaf, yn rhannol am bod gweithwyr yn sâl gyda Covid ac yn rhannol oherwydd trafferthion recriwtio cyffredinol.
"Ma' cogyddion fatha aur ar hyn o bryd," medd Annest Rowlands. "'Dan ni wedi siarad a cyfweld ambell un a ma' nhw'n medru enwi eu prisia' eu hunain... maen nhw'n cyfweld ni i weld os ydan ni'n plesio nhw.
"Fel busnes newydd, fedrwn ni ddim talu prisia' gwirion... Mam sy'n edrych ar ôl y gegin a fi ar y ffrynt a bob peth arall felly mae Mam druan dal yn y gegin."
'Llacio, nid dileu, asesiadau risg'
Mae absenoldebau staff o fewn yr ychydig wythnosau diwethaf yn arwydd, meddai, bod Covid yn "rhywbeth parhaol" ac mae'r busnes yn parhau i ddilyn rhai mesurau diogelwch, er lles y gweithwyr a'r cwsmeriaid.
"Ma' ginnon ni ambell i gyfyngiad dal mewn lle, er bod dim gofyn i ni 'neud... 'di rhai pobol heb fod allan o'r tŷ am ddwy flynedd felly mae'n rhywbeth pwysig i ni bod nhw'n teimlo'n saff."
Am y rheswm hwnnw, dywed Ms Rowlands na fydd yn stopio cynnal asesiadau risg yn gyfan gwbl o ddydd Llun ymlaen ond yn hytrach eu "llacio fymryn ella".
"Rhaid i ni feddwl am yr ardal leol... ginnoch chi ymwelwyr yn dod i'r ynys, ac maen nhw'n tyrru i'r ynys ar hyn o bryd. 'Dan ni'n trio gweithio rownd pawb, mewn ffordd, ond pobol leol sydd yn bwysig ginnon ni, iddyn nhw deimlo'n saff."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022