'Rhowch wersi gwleidyddiaeth nawr ein bod â phleidlais'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Laura leading session
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion lleol wedi cael dysgu am ddemocratiaeth yn y DU mewn sesiwn ar gampws Coleg Gwent

Mae pobl ifanc 16 a 17 oed wedi dweud nad ydyn nhw'n "gwybod beth maen nhw'n ei wneud" o ran bwrw pleidlais am eu bod heb gael gwersi am y broses yn yr ysgolion.

Mae rhai wedi galw am well addysg am wleidyddiaeth ar gyfer pleidleiswyr ifanc, gyda chefnogaeth arbenigwyr.

Am y tro cyntaf bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn cael pleidleisio yn yr etholiadau lleol ar 5 Mai.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnal "ymgyrch benodol" i'w hannog i gofrestru i bleidleisio.

Dywedodd Olivia Winter, 17, o Gaerdydd na wyddai ystyr y gair 'democratiaeth' tan flwyddyn yn ôl.

Erbyn hyn mae hi'n dysgu cyfoedion am y drefn yng Nghymru.

Mae hi ymhlith grŵp o bobl ifanc sy'n cynnal digwyddiad ar gampws Coleg Gwent yng Nglynebwy.

Olivia Winter
Disgrifiad o’r llun,

Mae Olivia Winter yn helpu dysgu cyfoedion beth mae democratiaeth yn ei olygu

Mae rhyw 300 o ddisgyblion 16-18 oed o dair ysgol ym Mlaenau Gwent wedi cael dysgu sut mae democratiaeth yn gweithio yn y DU mewn cyfres o weithgareddau grŵp.

Mewn ymgais i gael mwy i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd, mae corff anwleidyddol, Democracy Box yn recriwtio pobl ifanc 16-26 oed i greu cynnwys priodol ar gyfer eu cyfoedion.

Mae yna ddigwyddiadau gwib hefyd yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd cyn yr etholiad, a gwybodaeth ar-lein wedi'i anelu at ddarpar bleidleiswyr ifanc.

Mae'n help, medd Olivia mai rhywun o'r un oedran, yn hytrach nag arbenigwr, sy'n trosglwyddo'r neges.

"Roedd y bobl ifanc yma'n danbaid ynghylch pethau, yn wirioneddol malio am bethau, ond yn llythrennol doedd dim syniad gyda nhw sut i newid pethau."

"Dyna sy'n digwydd yma, ac rwy'n meddwl bod e'n gweithio."

Sesiwn ddemocratiaeth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd myfyrwyr o dalgylchoedd Abertyleri, Tredegar a Brynmawr yn rhan o'r gweithdai yng Nglynebwy

Ond ychwanegodd bod angen i ysgolion a llywodraethau ddarparu mwy o addysg ar gyfer pobl fel hi.

"Ni yw'r dyfodol, mae gyda ni syniadau beth y'n ni mo'yn, felly mae cael y tools a'r ffyrdd hyn o leisio barn yn wirioneddol bwysig."

Cafodd pleidleiswyr 16 ac 17 fwrw pleidlais am y tro cyntaf yng Nghymru yn etholiadau'r Senedd ym Mai 2021.

Dangosodd ffigyrau bod 50% wedi cofrestru i bleidleisio, ac yn ôl amcangyfrifon swyddogol fe wnaeth 60% o'r rheiny fwrw pleidlais yn y pen draw.

Mae adroddiad blaenorol wedi galw am ennyn diddordeb pobl ifanc yn y broses wleidyddol yn gynt, gan awgrymu bod canran y bleidlais ymhlith y rhai 16 a 17 oed hyd at 10% yn llai na'r cyfartaledd gwladol.

Awydd i ddysgu mwy

Dywedodd Aimee Flay a Sophie Thomas - y ddwy'n 16 oed ac yn fyfyrwyr Cymuned Addysgu Abertyleri - eu bod "yn ddi-glem" ynghylch gwleidyddiaeth a newydd ddod yn ymwybodol bod yna etholiad fis nesaf.

Roedd y ddwy'n fwy hyderus ar ddiwedd y gweithdai. Roedd arweinwyr ifanc y sesiynau "yn gwybod sut i egluro pethau i ni", ym marn Aimee.

Aimee a Sophie
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Aimee a Sophie, y ddwy'n 16, eu bod wedi elwa o gymryd rhan yn y gweithdai

Dywedodd Sophie: "Mae'n braf cael pobl iau i siarad gyda chi achos wedyn mae gyda chi'r ddealltwriaeth sylfaenol a'r un math o sgyrsiau â nhw."

Ar ddiwedd y sesiynau cafodd y disgyblion gôd QR er mwyn defnyddio'u ffonau clyfar i gysylltu â thudalen a chofrestru ar-lein i bleidleisio.

Ni wnaeth Aimee na Sophie bleidleisio yn etholiadau'r Senedd y llynedd ond maen nhw'n edrych ymlaen at fwrw pleidlais am y tro cyntaf.

"Rwy' am gofrestru i bleidleisio pan af adref," medd Aimee. "Rwy'n wirioneddol gyffrous i ddysgu mwy achos dyw e ddim mor gymhleth â ry'ch chi'n meddwl."

pleidlaisFfynhonnell y llun, Getty Images

42% oedd canran y bobl a bleidleisiodd yn etholiadau lleol diwethaf yng Nghymru, yn 2017. Roedd hynny'n uwch na'r cyfartaledd ar draws y DU (35%) ond yn llawer is na'r ganran mewn etholiadau cyffredinol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn arbrofi gyda ffyrdd newydd o annog mwy o bobl i bleidleisio.

Bydd modd i fwrw pleidlais wythnos yn gynnar mewn gorsafoedd ar gampws Coleg Gwent yng Nglynebwy, mewn ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn swyddfeydd cyngor yng Nghaerffili a Thorfaen.

Mae gweithdai Democracy Box yn helpu esbonio pa bwerau sydd gan gynghorau lleol, medd Katherine Watkins-Hughes o adran etholiadau Cyngor Blaenau Gwent.

"Mewn ysgolion, mae gwleidyddiaeth rwy'n meddwl, i raddau'n cael ei roi o'r neilltu," meddai.

Ychwanegodd bod diffyg addysg ymhlith rheini a gwarchodwyr yn gwaethygu'r sefyllfa.

"Ry'n i eisiau gwneud iddyn nhw'n ymwybodol bod hyn y digwydd," meddai, gan "obeithio y bydd athrawon yn ei hybu hefyd".

'Cydnabod cyfraniadau gwerthfawr pobl ifanc'

Dywed Jess Blair o ERS (Electoral Reform Society) Cymru bod gwaith wedi dechrau i ymwneud â phobl ifanc ond bod addysg yn "wirioneddol fratiog".

"Yr hyn sydd ei angen yw fframwaith dda, o fewn y cwricwlwm newydd, o ran addysg wleidyddol ond hefyd ymgais i gyrraedd athrawon a chydweithio gyda nhw iddyn nhw deimlo'n fwy hyderus."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai nod y cwricwlwm newydd yw "cefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a'r byd".

Yn hynny o beth, meddai, bydd "darparu addysg dinasyddiaeth o gwleidyddiaeth ansawdd uchel yn hanfodol".

Ychwanegodd: "Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i annog pobl ar draws Cymru i gofrestru i bleidleisio.

"Roedd gostwng yr oedran bleidleisio i 16 yn gam flaengar sy'n cydnabod cyfraniadau gwerthfawr y gallai pobl ifanc eu gwneud ac eleni fe welwyd ymgyrch benodol yn annog pobl 16 a 17 oed i gofrestru i bleidleisio ym mis Mai."

Mae'r dyddiad cau i gofrestru wedi mynd heibio ond mae dal yn bosib i wneud cais am bleidlais bosib erbyn 19 Ebrill neu bleidlais trwy ddirprwy erbyn 26 Ebrill.