Nifer siopwyr wedi gostwng 20% ers cyn y pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe wnaeth nifer yr ymwelwyr i siopau Cymru ostwng dros 20% ym mis Rhagfyr eleni o'i gymharu â lefelau cyn y pandemig.

Yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru (CMC), gostyngodd nifer y siopwyr yng Nghaerdydd 15.9% o'i gymharu â Rhagfyr 2019.

Dywedodd CMC bod hyn wedi arwain at "ddechrau anodd i'r flwyddyn newydd", a galwodd am fwy o gefnogaeth i siopau gan y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod eisoes wedi cyhoeddi pecyn o gefnogaeth ariannol brys i helpu busnesau sydd wedi eu heffeithio dros fisoedd y gaeaf a'i bod yn parhau i adolygu'r sefyllfa'n wythnosol

Dangosodd ffigyrau y CMC fod nifer yr ymwelwyr â siopau yng Nghymru wedi gostwng 20.1% ym mis Rhagfyr o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019.

Roedd hyn yn waeth na'r dirywiad ar gyfartaledd ledled y DU o 18.6%.

Gostyngodd ymweliadau â siopau yng Nghaerdydd 15.9%, tra gostyngodd ymweliadau â chanolfannau siopa ledled Cymru 38.5% ar gyfartaledd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r niferoedd sy'n siopa yng Nghaerdydd wedi gostwng o dros 15% rhwng Rhagfyr 2019 a 2021

Dywedodd Sara Jones, pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, fod nifer yr ymwelwyr wedi disgyn yn sylweddol ac mae wedi galw am ragor o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y sector.

Dywedodd: "Disgynnodd nifer yr ymwelwyr i siopau yng Nghymru ymhellach y mis diwethaf, yn ystod yr hyn a fyddai wedi bod, yn draddodiadol, yr amser prysuraf o'r flwyddyn wrth i gyngor y llywodraeth i weithio gartref a chymdeithasu llai, ynghyd ag ailgyflwyno pellter cymdeithasol mewn siopau.

"Roedd ymweliadau â siopau ym mis Rhagfyr wedi gostwng gan un rhan o bump o'i gymharu â'r cyfnod tebyg cyn y pandemig, gan ddisgyn am ail fis yn olynol.

"Ym mis Rhagfyr gwelwyd y ffigurau misol gwannaf ar gyfer ymweliadau â siopau ers mis Gorffennaf, a gwelwyd y dirywiad ar draws yr holl leoliadau manwerthu.

"Daeth i ben â 'chwarter euraidd' pryderus iawn i berchnogwyr siopau Cymru, y mae llawer ohonynt yn draddodiadol angen gwerthiant cryf cyn y Nadolig er mwyn eu cadw i fynd dros fisoedd gaeafol sy'n dilyn."

Ychwanegodd Ms Jones fod hyn yn "nodi dechrau anodd i'r flwyddyn newydd i lawer o fanwerthwyr".

Dywedodd: "Rhaid i Weinidogion Cymru bod yn barod i gefnogi'r diwydiant manwerthu ymhellach os yw'r amodau hyn yn mynd i barhau, er enghraifft trwy gael gwared ar y cap ar y rhyddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd yng Nghyllideb Cymru, neu trwy gynllun ysgogi stryd fawr fel y mae Gogledd Iwerddon wedi'i weithredu."

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £120 miliwn ar gael i fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau a gyflwynwyd ar ôl y Nadolig, tra bydd y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn rhyddhad cyfraddau busnes o 50% yn 2022-23.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kerry Massey, perchennog siop ym Mangor, nad yw'r Nadolig "fel oedd yn arfer bod"

Ym Mangor, sylwodd busnesau ar ostyngiad yn nifer y siopwyr yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae Kerry Massey yn rhedeg busnes yng Nghanolfan Siopa Deiniol ym Mangor, ac mae wedi gweld gostyngiad yn nifer y siopwyr sy'n ymweld â'r ddinas.

"Mae busnes yn bendant ar i lawr. Doedd y Nadolig ddim fel oedd hi arfer fod, mae gwerthiant i lawr. Mae angen mwy yn y dref hon - mae gennym ni siopau gwag, does dim byd i ddod â phobl yma."

Mae Ms Massey'n credu bod y gostyngiad yn nifer y siopwyr ym Mangor o ganlyniad i siopau'n cau hytrach na'r pandemig.

Ychwanegodd: "Mae Bangor wedi bod mor wag ers tro. Os edrychwch ar y siopau, mae'r holl siopau mawr wedi mynd."

Disgrifiad o’r llun,

Stryd Fawr y Bont Faen, Bro Morgannwg

Mae gan y Bont Faen ym Mro Morgannwg amrywiaeth o siopau annibynnol ar ei stryd fawr.

Er i'r mwyafrif oroesi'r gwaethaf o'r pandemig, maen nhw hefyd wedi gorfod addasu i'r amodau anodd.

Dywedodd Richard Ballantyne, sy'n berchen ar y siop win Noble Grape, fod ochr ar-lein ei fusnes wedi "elwa o'r cyfnodau clo" ac erbyn hyn yn cyfrif am draean o'r gwerthiannau ers agor y siop bum mlynedd yn ôl.

Dywedodd: "Dwi yn gobeithio y byddwn yn parhau i dyfu. Digwyddodd y cynnydd mawr i'm fusnes rhwng Ebrill a Gorffennaf 2020 ac roedd hynny yn amlwg yn cyd-fynd â'r cyfnod clo cyntaf, dyna pryd dechreuodd fy musnes i ffynnu.

"Felly mae'r cloi wedi bod yn dda i ni, ond mae hefyd wedi ein cynnal ni fel siop."

'Mesurau yn effeithio ar fusnesau'

Mewn ymateb i alwadau'r CMC, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi "dilyn tystiolaeth wyddonol" wrth ymateb trwy gydol y pandemig.

Dywedodd: "O ganlyniad i'r amrywiolyn Omicron sy'n lledaenu'n gyflym, mae Cymru ar hyn o bryd ar lefel rhybudd dau. Mae hyn yn golygu bod mwyafrif y busnesau ar agor ac yn gallu masnachu, ond ry'n ni'n gwerthfawrogi bod y mesurau sydd yn eu lle i warchod y cyhoedd a staff yn effeithio ar fusnesau.

"Mae ein pecyn o gefnogaeth ariannol brys yn helpu busnesau sydd wedi eu heffeithio rhwng y cyfnod o 13 Rhagfyr 2021 i 14 Chwefror 2022."

Ychwanegodd y llefarydd bod systemau'n cael eu sefydlu "cyn gynted â phosib" i alluogi busnesau sy'n gymwys am daliadau, a bod angen gwneud cais am y rhain drwy awdurdodau lleol o 13 Ionawr ac y bydd yr arian yn cyrraedd busnesau "o fewn diwrnodau".

Ychwanegodd y bydd siopau, tafarndai, bwytai a busnesau hamdden yn cael cwtogiad o 50% mewn trethi busnes o fis Ebrill, fel y cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Yn ôl y llefarydd, mae cabinet Llywodraeth Cymru yn adolygu'r sefyllfa yn wythnosol a bydd yn parhau i "ystyried a oes angen cefnogaeth ariannol brys pellach ar fusnesau".