Dyn yn yr ysbyty ar ôl adroddiad o drywanu
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn yr ysbyty yn dilyn adroddiad o drywanu yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Cafodd heddlu arfog eu hanfon i Heol Madoc yn ardal Sblot yn dilyn galwad toc cyn 20:45.
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud y bydd eu presenoldeb yn yr ardal yn cynyddu yn sgil y digwyddiad.
Mae'r llu wedi apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.
"Mae nifer y troseddau â chyllell yn y DU wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid ydy de Cymru'n wahanol i un man arall," meddai'r heddlu.