Ceidwadwyr yn galw am ddiwedd ar olrhain cysylltiadau
- Cyhoeddwyd
Dylai gweinidogion roi'r gorau i wario arian ar olrhain cysylltiadau Covid, medd y Ceidwadwyr Cymreig.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario £36m arall ar y system "profi, olrhain, diogelu" yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023.
Mae'r Ceidwadwyr yn dweud nad yw'n "ddefnydd da o arian" ac y dylid ei wario ar liniaru costau byw ac ar y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru "nad yw Covid wedi mynd i ffwrdd".
Ychwanegodd Plaid Cymru fod olrhain cysylltiadau "wedi achub bywydau" a'i fod yn bwysig cadw'r fframweithiau hyn yn eu lle.
£92m yn 2021/22
Y gyllideb ar gyfer olrhain cysylltiadau yn 2021/22 oedd £92m, yn cynnwys 2,500 o staff.
Daeth olrhain cysylltiadau rheolaidd i ben yn Lloegr ar 24 Chwefror, tra bod strategaeth Covid-19 Llywodraeth Cymru "o bandemig i endemig" yn cynnwys cyfnod pontio hyd at ddiwedd mis Mehefin pan ddaw'r trefniadau olrhain cysylltiadau rheolaidd i ben.
Wrth esbonio penderfyniad y gweinidog iechyd Eluned Morgan i ddarparu'r £36m ychwanegol ar gyfer y gweithlu olrhain cysylltiadau, dywedodd llefarydd: "Rydym yn dal i brofi pobl gyda symptomau, y rhai sydd ar y rhestr driniaeth a staff iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn amddiffyn y rhai mwyaf bregus.
"Mae'r cyllid yn cefnogi'r cyfnod pontio hyd at ddiwedd mis Mehefin a bydd hefyd yn ein galluogi i ehangu i ymateb i unrhyw ymchwydd mewn achosion, ymateb i achosion lleol ac amrywiolion posibl yn y dyfodol.
"Bydd y timau olrhain cysylltiadau hefyd yn darparu gwydnwch pellach i'n systemau diogelu iechyd ehangach gan gynnwys olrhain clefydau eraill."
'Dychwelyd i normalrwydd'
Fodd bynnag, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George: "O ystyried bod cymdeithas bron wedi dychwelyd i normalrwydd, nid yw hyn yn ymddangos fel defnydd da o arian, yn enwedig ar adeg pan fo costau byw ar i fyny ac y gallai'r arian gael ei ddefnyddio i liniaru y materion hynny neu leihau rhestrau aros y GIG sydd wedi bod yn hirach nag erioed.
"Gyda dim ond un cyfyngiad bychan yn dal i fod mewn grym yng Nghymru, dylid canolbwyntio nawr ar roi atebion i'r cyhoedd ynghylch y modd yr ymdriniwyd â'r pandemig trwy ymchwiliad Covid penodol i Gymru, sydd wedi'i rwystro ar hyn o bryd gan y llywodraeth Lafur."
Ymatebodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru i'r pwynt olaf drwy ddweud "mae'r prif weinidog wedi ymrwymo'n gryf i ymchwiliad annibynnol ac mae'n credu mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw trwy ymchwiliad DU gyfan, dan arweiniad barnwyr a fydd â'r gallu a'r grym i oruchwylio natur gydgysylltiedig y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud ar draws y pedair gwlad."
'Dydi'r pandemig ddim drosodd'
Mae gan Blaid Cymru gytundeb cydweithio gyda Llafur Cymru yn y Senedd. Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd a gofal: "Mae diolch mawr i Lywodraeth Leol yng Nghymru am ddatblygu systemau olrhain cysylltiadau effeithiol yn nyddiau cynnar y pandemig.
"Does dim dwywaith bod rhain wedi achub bywydau.
"Dydi'r pandemig ddim drosodd, felly mae'n bwysig cadw'r fframweithiau hyn yn eu lle, ac mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth i gynghorau i alluogi iddyn nhw gynnal y gwasanaeth a bod yn barod i dyfu eu timau'n gyflym eto os bydd angen."
Yn ôl strategaeth Llywodraeth Cymru, ar ddiwedd mis Mehefin:
Ni fydd profion llif unffordd ar gael mwyach ar gyfer profi symptomatig;
Bydd y canllawiau i hunan-ynysu yn cael eu diwygio gyda'r cyngor yn newid i unigolion gymryd camau rhagofalus ychwanegol pan fyddant yn sâl, fel aros gartref pan fo'n bosibl;
Bydd y trefniadau olrhain cysylltiadau rheolaidd yn dod i ben;
Bydd y Taliadau Cymorth Hunan-ynysu yn dod i ben.
Lansiwyd y system olrhain cysylltiadau yng Nghymru ar 1 Mehefin 2020.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2022