Staff canolfannau profi Covid wedi 'eu taflu o'r neilltu'
- Cyhoeddwyd
Mae staff canolfannau profi Covid-19 Cymru yn dweud eu bod wedi "eu taflu o'r neilltu" wedi i rai gael dyddiau'n unig o rybudd bod eu swyddi'n diflannu.
Bydd pob canolfan brofi PCR yng Nghymru'n cau ddydd Iau fel rhan o gynlluniau llywodraethau Cymru a'r DU i symud ymlaen o'r pandemig.
Yn ôl y staff, fydd yn colli eu swyddi heb dâl diswyddo, mae diffyg cefnogaeth wedi bod wrth iddyn nhw chwilio am waith newydd hefyd.
Yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, bu'n rhaid cau'r canolfannau "am fod y cyllid wedi ei dorri gan Lywodraeth y DU".
Hyd at fis yn ôl roedd naw o ganolfannau profi torfol yng Nghymru, 20 o ganolfannau profi lleol, 19 o safleoedd profi symudol a nifer o unedau profi cymunedol dan ofal y byrddau iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd "pob canolfan brofi PCR yng Nghymru yn cau" ddydd Iau.
Ond fe fydd pedair uned symudol dan ofal y gwasanaeth ambiwlans yn aros ar agor, yn ogystal ag unedau cymunedol dan ofal y byrddau iechyd. Bydd pobl sy'n gymwys am driniaeth Covid-19 hefyd yn gallu archebu profion PCR i'w gwneud yn y cartref.
'Dim diolch, dim ystyriaeth'
Dywedodd un gweithiwr ar safle brofi yn y gogledd wrth BBC Cymru bod staff wedi cael cynnig cytundeb tan fis Awst yn y lle cyntaf.
Ond ddiwedd mis Chwefror, fe gawson nhw bedwar diwrnod o rybudd bod y safle'n cau. Daeth hynny ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi y byddai profion Covid am ddim yn dod i ben ar 1 Ebrill.
"Roedd pobl mewn sioc, yn meddwl, 'waw, pedwar diwrnod' - yn sydyn, mewn pedwar diwrnod, ry'n ni'n cael ein taflu o'r neilltu."
Yn ôl y gweithiwr fe gafodd y staff "gyngor ar ysgrifennu CV, ond roedd o i gyd yn teimlo ychydig yn rhy hwyr i fod o fantais. Dwi'n meddwl bod y staff wir yn meddwl mai dim ond ticio bocsys maen nhw".
Yn ôl gweithiwr arall sydd hefyd am aros yn ddienw, mae staff wedi "gweithio'n ddiflino i'r llywodraeth, a dydyn ni ddim wedi cael diolch hyd yn oed".
Dywedodd bod gweithwyr y canolfannau profi wedi bod yn cynnal "3,000 o brofion y dydd" dros gyfnod y Nadolig, a hynny er gwaetha'r diffyg staff oherwydd salwch Covid.
"Roedd pobl yn gwneud shifft 12 awr gyda dim ond 20 munud o saib am na allen nhw stopio, doedd dim amser am saib. Ac wedyn, ddeufis yn ddiweddarach ry'n ni gyd yn cael ein taflu o'r neilltu.
"Does dim diolch, does dim ystyriaeth o bobol a'u teuluoedd."
'Ar y rheng flaen'
Yn ôl gweithiwr arall, Andrew, mae'r staff wedi cael eu trin yn "greulon".
"Gyda'r argyfwng costau byw, dyma'r amser gwaetha' posib.
"Ry'n ni wedi bod ar y rheng flaen. Mae'r mwyafrif ohonom ni wedi cael Covid o leiaf unwaith. Mae'n rhaid cydnabod ein cyfraniad ni."
'Anfaddeuol'
Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros ogledd Cymru, Llyr Gruffydd, mae'r sefyllfa yn "anfaddeuol".
"Rhain yw'r bobl oedd yn y rheng flaen, rhain yw'r bobl oedd yn cadw ni'n ddiogel dros y ddwy flynedd ddiwetha' yn wyneb heriau difrifol iechyd y cyhoedd.
"Nhw oedd y rheng flaen - pobl y'n ni wedi bod yn eu canmol ac yn diolch iddyn nhw - a dyma'r diolch ma' nhw'n cael nawr, maen nhw'n cael eu taflu i'r naill ochr fel rhywbeth dianghenraid rhagor.
"Mae hynny'n annerbyniol. Mae'n rhaid i ni helpu'r bobl yma nawr.
"Dyw e ddim yn ddigonol i Lywodraeth Cymru ddweud wel 'dyna ni mae Llywodraeth San Steffan wedi gwneud eu penderfyniad, mae'r holl isadeiledd yma'n cael ei ddatgymalu nawr'.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan wneud llawer mwy nid yn unig i amddiffyn y gweithwyr a bod yn deg gyda'r rhai sydd wedi aberthu gymaint er mwyn ein gwarchod ni - ond hefyd mae angen sicrhau bod modd ail-greu'r isadeiledd yma, nid os, ond pan fydd yna amrywiolyn arall."
'Chwarae rhan hanfodol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "gweithwyr canolfannau ac unedau profi wedi chwarae rhan hanfodol wrth gadw Cymru'n ddiogel".
"Maen nhw wedi sicrhau bod profi ar gael 365 diwrnod o'r flwyddyn ac wedi ymateb i alw digynsail. Rydyn ni wedi gweithio gyda chyflogwyr y safleoedd profi fel eu bod yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i helpu staff i ddod o hyd i waith arall a mynediad i wasanaethau eraill."
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod "wedi diweddaru cyd-weithwyr profi yn rheolaidd am ddyfodol profion PCR yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi strategaeth Byw Gyda Covid y llywodraeth, gyda chymaint o rybudd a phosib".
"Rydyn ni'n hynod o ddiolchgar am ymdrech yr holl staff ac wedi gweithio gyda'u cyflogwyr i wneud yn siŵr eu bod yn cael cefnogaeth ac yn cael diolch am eu holl waith drwy'r cyfnod hwn o newid."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2022