Etholiadau 2022: 'Cymru lanach, gwyrddach a mwy diogel'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Jane Dodds
Disgrifiad o’r llun,

Jane Dodds yw unig Aelod o'r Senedd y blaid

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud bod pobl "wedi cael digon" o'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur.

Wrth gynnal digwyddiad ym Mhowys ddydd Sadwrn, dywedodd Jane Dodds fod ei phlaid mewn lle "llawer gwell" wrth iddi ymgyrchu ar gyfer etholiadau cyngor 2022.

Mae gan y blaid 284 o ymgeiswyr yn yr etholiadau, yr uchaf ers 2012 meddai.

Ond dywedodd Ms Dodds "nad oedd yn mynd i esgus" nad yw'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn "siomedig" i'w phlaid.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jane Dodds yn arwain digwyddiad yn y Gelli Gandryll wrth i'w phlaid baratoi ar gyfer yr etholiadau lleol

Dywedodd Jane Dodds fod y blaid am weld cynghorau ar draws Cymru "yn lanach, yn wyrddach ac yn fwy diogel".

Bydd pleidleiswyr yn ethol mwy na 1,200 o seddi ar draws 22 cyngor Cymru ar 5 Mai.

Mae'r blaid yn sefyll mewn 20 o 22 awdurdod lleol Cymru, ac eithrio Merthyr Tudful a Blaenau Gwent.

'Cefnogi busnesau lleol'

Dywedodd Ms Dodds, unig Aelod o'r Senedd y blaid, wrth gynnal ymgyrch gydag arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y DU, Ed Davey, y bydd y blaid yng Nghymru yn "cefnogi busnesau lleol i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw a chefnogaeth gan y cymunedau a'r cynghorau lleol.

"Rydym hefyd yn edrych ar lygredd afonydd a sut y gallwn fynd i'r afael â hynny.

"Rydym am i'n cynghorau ledled Cymru fod yn wyrddach, yn lanach ac yn fwy diogel."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn bedwerydd o ran nifer y seddi ar lefel cyngor. Bydd y blaid yn ceisio gwella ar ei chanlyniadau etholiad cyngor yn 2017, pan gollodd gynghorwyr gan ennill ychydig dros 60 o seddi.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Ychwanegodd Ms Dodds: "Ni fyddaf yn esgus nad yw'r blynyddoedd diwethaf i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi bod yn siomedig.

"Rydym yn sicr wedi cael llawer o heriau.

"Ond nawr rydyn ni mewn lle llawer gwell.

"Mae gennym ni bobl yn gweithio'n galed yn curo ar y drysau, a'r hyn rydyn ni'n ei glywed yw bod pobl sy'n ateb y drysau hynny yn awyddus iawn i siarad â ni".

Etholiadau Lleol 2022

Wrth fyfyrio ar fuddugoliaethau is-etholiadau yng ngogledd Sir Amwythig a Chesham ac Amersham, dywedodd: "Mae pobl wedi cael llond bol ar wleidyddion Ceidwadol a Llafur.

"Mae pobl eisiau rhywbeth gwahanol," meddai, gan ychwanegu bod y blaid "yn canolbwyntio ar y gymuned".

Disgrifiad o’r llun,

Bu gwyddonwyr yn dangos sut i fesur llygredd yn Afon Gwy i Jane Dodds ac Ed Davey

Fe wnaeth Ms Dodds a Mr Davey gyfarfod â gwyddonwyr sydd wedi bod yn monitro llygredd yn Afon Gwy ddydd Sadwrn.

Yn ystod yr ymgyrch, fe ddywedodd Mr Davey bod "pleidleiswyr gydol oed y Ceidwadwyr yn grac gyda Boris Johnson.

"Y prif faterion y mae pobl yn wirioneddol bryderus yn eu cylch yw eu biliau gwresogi, y dreth gyngor yn cael ei chodi gan nifer o gynghorau ceidwadol, ac, wrth gwrs, y trethi annheg gan lywodraeth Geidwadol," dywedodd.

Ychwanegodd bod y blaid yn "ofalus optimistaidd" y gallan nhw droi'r rhwystredigaeth gyda'r llywodraeth Geidwadol yn lwyddiant gwleidyddol i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau lleol mis Mai.

Pynciau cysylltiedig