Gweithio hyblyg i annog cynghorwyr benywaidd y dyfodol?
- Cyhoeddwyd

"Mae'n hollol angenrheidiol bod llais merched yna," meddai'r Cynghorydd Nia Jeffreys
Wrth i etholiadau lleol fis Mai agosáu, mae galw am ddysgu gwersi o'r pandemig er mwyn sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Yn ôl un academydd, gallai'r symudiad at gyfarfodydd rhithiol a gweithio o adref arwain at fwy o fenywod yn gweithio o fewn llywodraeth leol.
Mae Leah Hibbs o Brifysgol Caerdydd yn "dawel hyderus" am y cynnydd hyd yma, ond mae hi'n rhybuddio yn erbyn dychwelyd at hen agweddau wrth i bobl fynd yn ôl i'r gweithle wedi Covid.
Dim ond un ym mhob pedwar o gynghorwyr Cymru sy'n fenywaidd ar hyn o bryd.

Mae Leah Hibbs yn rhybuddio yn erbyn dychwelyd i hen batrymau wedi'r pandemig
Mae gweithio o adref yn sicr wedi dod yn rhywbeth cyfarwydd i nifer dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
I rai fel y Cynghorydd Nia Jeffreys, sy'n cynrychioli Porthmadog ar Gyngor Gwynedd, mae wedi agor drysau.
"Y manteision mwya' am wn i ydy amser," meddai.
"Arbed amser teithio, felly medru bod yma yn hirach yn y bore i wneud brecwast efo'r plant yn hytrach na gorfod gadael am 07:45.

Dywed Nia Jeffreys fod gweithio o adref wedi rhoi mwy o amser iddi dreulio gyda'i theulu
"'Run peth gyda'r nos rili, cyfarfodydd gyda'r nos - mwy o amser i wneud te.
"Mae'n hollol angenrheidiol bod llais merched yna.
"Mae technoleg 'di dod â ni 'mlaen gymaint dwi'n meddwl - cyfarfodydd rhithiol, medru ateb dros e-bost gyda'r nos pan mae'r plantos yn eu gwelyau.
"Felly mae'n bwysig bod ni'n cymryd llawn fantais o'r dechnoleg."
'Gosod uchelgais i ferched ifanc'

Gall ffyrdd hyblyg o weithio annog mwy o ferched i fod yn gynghorwyr, medd Llinos Medi
Mae Cyngor Ynys Môn yn arwain y ffordd o ran cynrychiolaeth fenywaidd - un yn arweinydd ac un arall newydd ymddeol fel prif weithredwr.
Dywedodd yr arweinydd, y Cynghorydd Llinos Medi: "Mae cael bod wedi bod yn arweinydd, a chael y prif weithredwr cynta'n ddynes, wedi bod yn arwyddocaol i'r newid ella, a hefyd gosod yr uchelgais 'na i ferched ifanc i weld bod nhw'n gallu cyflawni'r swyddi yma.
"Honna ydy'r her fwya' s'gynnon ni fel merched - 'da ni'n famau dydyn, ac mae'r disgwyliadau bod yn famau arna' ni, disgwyliadau teuluoedd a gofalu, yn rhoi barriers o'n ffordd ni.
"Mae technoleg rŵan yn helpu. Mae gynnon ni ferch ifanc yn sefyll efo fi yn fy ward i eleni, mae'n fam sengl ifanc. Dwi'n gwybod bod yr hyblygrwydd yma'n golygu bod hi'n gallu sefyll."

Mae cael mwy o ferched ar gynghorau yn "bwysig iawn," medd Annwen Morgan
Yn ôl Annwen Morgan, cyn-brif weithredwr Cyngor Môn, mae'n hollbwysig cael cydbwysedd rhwng talent ac amrywiaeth.
"Dwi wastad yn meddwl mai'r person gorau i wneud y swydd sy'n bwysig. Ond yn sicr o gael mwy o ferched, a hefyd pobl o wahanol gefndiroedd mewn llywodraeth leol - mae hynny'n bwysig iawn.
"Yn y Ddeddf Llywodraeth Leol ddiweddar mae hi'n ofyniad bod ni yn gweithio yn hybrid.
"Dwi'n mawr obeithio bydd hynny'n agor drysau i ferched sydd efo plant ifanc adra. Fedran nhw barhau i ymuno efo'r cyngor mewn cyfarfodydd tra bod gynnyn nhw gyfrifoldebau eraill."
Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod sawl platfform fel Zoom a Teams wedi gwneud cyfarfodydd yn fwy "hyblyg" ac wedi cwtogi ar deithio.
"Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyfarfodydd hyblyg gafwyd yn ystod y pandemig bellach yn gyfraith yng Nghymru, yn wahanol i Loegr ble mae cynghorau'n dal i orfod cynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb," meddai llefarydd.
"Mae newidiadau ehangach gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi'u gwthio gennym ni, yn golygu bod gan gynghorwyr Cymru hawl i fod yn absennol o'r gwaith fel gweithwyr cyhoeddus eraill, a chael taliadau am gostau gofal, tra bod rhannu swyddi yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i bobl ymgymryd â swyddi uwch."
'Angen normal newydd'

Rhaid sicrhau nad ydy dynion yn dychwelyd i'r gweithle tra bod menywod yn aros adref, medd Bethan Airey
Ar hyn o bryd, 28% o gynghorwyr lleol Cymru sy'n fenywod. 43% ydy'r ffigwr ar gyfer Aelodau'r Senedd ym Mae Caerdydd, lle mae galw wedi bod am barhau â chyfarfodydd rhithiol ar ôl Covid i roi cyfle i fwy fod yn rhan o'r broses ddemocrataidd.
Yn ôl Bethan Airey o elusen cydraddoldeb Chwarae Teg, mae cyfartaledd yn "fwy o broblem ar lefel llywodraeth leol nag yn y Senedd".
"Efallai bod o'n system ychydig bach yn fwy traddodiadol, mai dyna ydy'r broblem," meddai.
Mae hi'n rhybuddio yn erbyn disgyn yn ôl i hen ffordd o feddwl wedi'r pandemig.

Etholiadau Lleol 2022

"'Da ni angen normal newydd oherwydd yn sicr mae 'na bryderon, er enghraifft, y bydd dynion yn fwy awyddus ac yn ffeindio hi'n haws i ddychwelyd i'r man gwaith oherwydd dydyn nhw'm yn tueddu i ysgwyddo baich cyfrifoldebau gofalu," meddai.
"Felly mae'n rhaid sicrhau nad oes 'na anghyfartaledd yn cychwyn lle mae menywod yn gweithio adre' ac yn ysgwyddo pob dim, a dynion yn mynd 'nôl i'r swyddfa neu'r gweithle.
"Fasa hynny'n dilyn iddyn nhw fod yn fwy gweladwy yn y lle gwaith ac yn cael eu cynnwys mewn mwy o benderfyniadau ac yn cael cyfleoedd i symud ymlaen.
"Mae'n rhaid i ni gymryd y rhwystrau i lawr er mwyn denu mwy o fenywod a mwy o bobl o gefndiroedd gwahanol i fewn i gynghorau lleol, i sicrhau eu bod nhw'n adlewyrchu'r cymunedau yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020