Pontypridd i gymryd lle'r Barri yn y Cymru Premier

  • Cyhoeddwyd
PontypriddFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i Bontypridd ymddangos yn haen uchaf pêl-droed yng Nghymru

Mae Clwb Pêl-droed Pontypridd wedi cael dyrchafiad i'r Cymru Premier wedi iddyn nhw lwyddo yn eu hapêl am drwydded i'r haen uchaf.

Llanilltud Fawr sydd wedi ennill cynghrair y Cymru South, ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus yn eu hapêl nhw, sy'n golygu mai Pontypridd - orffennodd yn ail - fydd yn cael dyrchafiad.

Mae llwyddiant Pontypridd yn golygu y bydd un o glybiau mwyaf llwyddiannus y gynghrair, Y Barri yn disgyn o'r Cymru Premier i'r Cymru South ar ôl gorffen yn y ddau safle isaf.

Derwyddon Cefn yw'r tîm arall sy'n disgyn o'r gynghrair ar ôl gorffen ar droed y tabl, gydag Airbus yn cymryd eu lle nhw ar ôl ennill y Cymru North.