Dau yn y llys mewn cysylltiad â marwolaeth merch 2 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dau o bobl wedi ymddangos yn y llys mewn cysylltiad â marwolaeth merch ddwy oed yn Hwlffordd yn haf 2020.
Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf ddwy flynedd yn ôl, ychydig ddyddiau wedi i'r heddlu gael eu galw i "ddigwyddiad" mewn cyfeiriad yn y dref.
Mae Kyle Bevan, 30 o Aberystwyth, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, tra bod Sinead James, 29 o Neyland, wedi'i chyhuddo o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.
Ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Llanelli, gan siarad ond i gadarnhau eu manylion personol.
Cafodd y ddau eu cadw yn y ddalfa cyn eu hymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe.
Wedi ei marwolaeth dywedodd ei thad, Dan Thomas, y bydd yn colli ei "llygaid disglair a'i gwên hardd hyd ddiwedd amser".
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bryd hynny fod dau berson wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac esgeulustod, a bod eu hymchwiliad yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2020