Beirniadu gofal dilynol clinig ar-lein i blant traws

  • Cyhoeddwyd
Dr Helen Webberley
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Dr Helen Webberley yn gwadu honiadau'r Cyngor Meddygol Cyffredinol

Roedd meddyg teulu o Sir Fynwy oedd yn rhedeg clinig ar-lein ar gyfer plant trawsryweddol yn gymwys i ddarparu triniaeth, ym marn tribiwnlys.

Cafodd sylfaenydd y wefan GenderGP, Dr Helen Webberley, ei chyhuddo o fethu â rhoi gofal clinigol da yn 2016 i dri chlaf, oedd yn 11, 12 a 17 oed ac yn newid rhywedd o fenyw i wryw.

Ond dywedodd panel MPTS (Medical Practitioners Tribunal Service) ei bod wedi methu â rhoi rhywfaint o ofal dilynol.

Cafodd 36 o'r honiadau, a gafodd eu dwyn gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, eu profi, ond nid 83 o honiadau pellach.

Dyfarnodd y tribiwnlys bod Dr Webberley, o'r Fenni yn Sir Fynwy, heb roi gofal dilynol priodol i Glaf A, ar ôl rhagnodi testosteron.

Ni ddyfarnodd y panel bod testosteron yn anaddas i blant o'r oedran hwnnw - adeg yr honiadau roedd gofal iechyd ar gyfer unigolion trawsryweddol "yn esblygu" ac roedd y farn yn gymysg ymhlith arbenigwyr.

Mae "amharodrwydd" rhai cyrff iechyd "i arddel agweddau goleuedig at drawsryweddiaeth yn symptomatig o'r duedd ymhob proffesiwn i fod yn araf i symud gyda'r oes", yn ôl cadeirydd y tribiwnlys, Angus Macpherson.

Dywedodd bod Dr Webberley, o bosib, wedi cael ei gweld fel un oedd ar flaen y gad o ras esblygiad gofal iechyd traws.

Adeg yr honiadau, roedd "pwysau anferthol" ar wasanaeth GIDS (Gender Identity Development Service) GIG Lloegr a rhai cleifion "mewn cyfyng gyngor", felly "doedd dim syndod" bod rhai wedi troi at Dr Webberley.

Fe welodd y tribiwnlys e-byst gan fam Claf A wedi i'r presgripsiwn testosteron ddod i ben, yn dweud ei bod wedi ceisio cysylltu gyda Dr Webberley a heb gael ateb.

Mewn e-byst dilynol dywedodd bod y claf yn dioddef iselder cronig.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai cyrff iechyd wedi bod "yn araf i symud gyda'r oes", medd cadeirydd y tribiwnlys

Daeth y tribiwnlys i'r casgliad bod yr ohebiaeth yn dangos fod Dr Webberley "heb ddarparu gofal dilynol i Glaf A o ran monitro seicogymdeithasol... monitro corfforol a phrofion labordy".

Dywedodd petai wedi trefnu i adolygu'r claf o'r dechrau, "ni fyddai wedi bod yn dibynnu ar Glaf A na'i fam i ofyn am adolygiad".

Ychwanegodd: "Os nad oedd am ei drefnu ei hun, roedd dyletswydd arni i drefnu rhywun arall i'w ddarparu."

Dyfarnodd y panel hefyd fod Dr Webberley wedi torri dyletswydd i drefnu apwyntiadau adolygu yn achos Claf B, 17, ar ôl rhagnodi testosteron.

Cafodd Dr Webberley ddirwy yn 2018 am redeg clinig preifat yn Y Fenni heb fod wedi cofrestru.

Mae disgwyl dyfarniad pellach a yw'r dyfarniad hwnnw'n amharu ar ei haddasrwydd i ymarfer, a bydd y gwrandawiad yn ailddechrau ym Mehefin.

Pynciau cysylltiedig