Llofruddiaeth Rhyd-wyn: Teyrnged i'r 'fam, nain a chwaer orau'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dynes 48 oed wedi rhoi teyrnged iddi, ar ôl i'w chorff gael ei ddarganfod mewn tŷ ar Ynys Môn ddydd Gwener.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod marwolaeth Buddug Jones yn cael ei drin fel achos o lofruddiaeth.
Cafodd swyddogion eu galw i'r eiddo ym Maes Gwelfor ym mhentref gogleddol Rhyd-wyn.
Mae person gafodd ei arestio ar ôl y digwyddiad wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol yr heddlu.
Mae'r ymchwiliad yn parhau.
'Wedi cael ei chymryd yn greulon'
Mewn datganiad dywedodd teulu Buddug Jones "na fydd eu bywydau byth yr un peth" hebddi.
"Buddug oedd y fam, nain a'r chwaer orau y gallai unrhyw un ofyn amdani.
"Roedd ganddi wên ar ei hwyneb bob amser ac roedd bob amser yn ofalgar, yn gariadus ac yn barod i helpu unrhyw un, yn enwedig ei theulu yr oedd yn ei charu.
"Mae hi wedi cael ei chymryd yn greulon oddi wrthym yn llawer rhy gynnar a bydd ei meibion, ei hwyrion a'i brodyr a chwiorydd i gyd yn gweld ei heisiau bob dydd.
"Gallwn ddweud yn onest na fydd ein bywydau hebddi byth yr un peth eto."
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Gareth Evans: "Yn amlwg mae hwn yn amser ofnadwy i aelodau'r teulu a ffrindiau.
"Rydym yn meddwl amdanynt ac mae'r teulu'n cael cefnogaeth gan swyddogion arbennig.
"Hoffwn ddiolch i aelodau'r gymuned leol a'r cyhoedd yn gyffredinol am yr wybodaeth yr ydym wedi'i dderbyn hyd yma.
"Bydd swyddogion lleol a ditectifs yn parhau gyda'u hymholiadau yn yr ardal drwy gydol yr wythnos.
"Ar hyn o bryd rydym yn credu mai digwyddiad ar ei ben ei hun yw hwn ac nid oes bygythiad parhaol i'r gymuned ehangach.
"Rydym yn arbennig o awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn teithio mewn cerbyd yng ngogledd orllewin Môn ac a allai fod a lluniau dashcam wedi ei recordio rhwng oriau mân fore Gwener 22 Ebrill a'r prynhawn cynnar."