Cyngor yn cyhoeddi canlyniadau ffug mewn camgymeriad
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mae Cyngor Sir Benfro wedi cyfaddef bod canlyniadau ffug ar gyfer etholiadau'r Cyngor Sir ar 5 Mai wedi eu cyhoeddi drwy gamgymeriad ar eu gwefan.
Dyw hi ddim yn glir am ba mor hir roedd modd gweld canlyniadau'r 59 ward, ond fe ddefnyddiwyd enwau ymgeiswyr a phleidiau go iawn fel rhan o'r hyn a ddisgrifiwyd fel tudalen brawf ar gyfer defnydd mewnol yn unig.
Mae'r Cyngor wedi cyfaddef bod modd darganfod y dudalen ar-lein am gyfnod, cyn iddyn nhw sylwi ar y camgymeriad.
Dyw hi ddim yn bosib gweld y canlyniadau erbyn hyn.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi pwysleisio mai canlyniadau ffug yn unig a gyhoeddwyd ac fe fydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar ddydd Gwener 6 Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2022