Ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn 66 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru'n cynnal ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 66 oed mewn tŷ yng Nghastell-nedd.
Cafodd corff y dyn ei ddarganfod yn yr eiddo ar Heol Catwg yn ardal Caewern ddydd Mercher.
Mae dyn 38 oed yn y ddalfa ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Dydy'r dyn a fu farw heb gael ei adnabod yn swyddogol eto.
Mae arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Uwcharolygydd Darren George yn apelio ar gymuned "glos" Heol Catwg i gysylltu â gorsaf heddlu'r Cocyd os oes gyda nhw wybodaeth ynghylch yr achos.
"Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un all fod wedi clywed neu weld unrhyw beth amheus yn yr ardal rhwng 08:00 ddydd Llun, Ebrill 25 a 13:00 brynhawn ddoe, ddydd Mercher, Ebrill 27," meddai.
"Mae cordon yr heddlu'n dal yn ei le tra bod archwilwyr safleoedd troseddol a swyddogion chwilio arbenigol yn y lleoliad.
"Bydd yna hefyd bresenoldeb heddlu amlycach yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i swyddogion barhau â'u hymholiadau."