Ymestyn oriau diwrnod ysgol fel rhan o gynllun peilot

  • Cyhoeddwyd
Dosbarth ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae undeb NEU Cymru wedi codi pryderon am oblygiadau'r cynllun peilot ar staff ysgolion

Bydd oriau'r diwrnod ysgol yn cael eu hymestyn fel rhan o gynllun peilot i aildrefnu addysg i gyd-fynd â phatrymau gwaith a bywyd teuluol.

Bydd 14 o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun prawf fydd yn ychwanegu pum awr i wythnos rhai disgyblion.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am drafod hyd tymhorau ysgol gan gynnwys gwyliau haf byrrach.

Dywedodd undeb NEU Cymru ei bod yn poeni am bwysau ychwanegol ar staff.

Bydd y cynllun peilot 10 wythnos o hyd yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Penaethiaid fydd yn penderfynu pa ddarpariaeth fydd yn cael ei chynnig yn ystod yr oriau ychwanegol ond gallai gynnwys celf, cerddoriaeth neu chwaraeon yn ogystal â gwaith academaidd.

Mae £2m yn cael ei glustnodi i ariannu'r cynllun arbrofol a gall ysgolion dalu grwpiau allanol neu addasu clybiau ar ôl ysgol sy'n bodoli eisoes.

Disgrifiad o’r llun,

Gethin Richards ydy pennaeth Ysgol y Bedol

Mae Gethin Richards, pennaeth Ysgol y Bedol yn Sir Gaerfyrddin yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru'n peilota'r cynllun ond mae heriau, meddai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd bod dau brif ffactor oedd angen eu hystyried, sef staffio'r cynllun a thrafnidiaeth.

Dywedodd: "Un o'r bwriadau dwi'n tybio tu ôl hyn yw adfer ein safonau llythrennedd a rhifedd yn dilyn y cyfnod anodd diweddar hyn.

"Beth sydd angen ei ystyried yw os ydyn ni'n datblygu safonau llythrennedd a safonau rhifedd - fydd 'na ddisgwyl bod staff dysgu ynghlwm â'r ddarpariaeth hynny," ychwanegodd.

"Mae'n athrawon ni yn yr ysgol yn barod tan 17:00, 18:00 yn cynllunio, yn paratoi - felly er mwyn bod hwn yn llwyddo mi fydd angen staffio ychwanegol."

Pryderon am gludiant gyda'r hwyr

Fe gododd Mr Richards bryderon am drafnidiaeth hefyd.

Dywedodd: "Ni'n byw mewn ardal wledig - ydyn ni'n disgwyl bod y bysiau ysgol yn mynd i barhau tan 17:30, 18:00 yn ogystal â chludo'r plant fydd yn cwpla am 15:30?"

Dywedodd Mr Richards y byddai'n croesawu trafodaeth am hyd tymhorau.

Awgrymodd y byddai cwtogi gwyliau'r haf ac ymestyn gwyliau eraill gan gynnwys cyfnod y Nadolig a'r Sulgwyn yn opsiwn.

Ychwanegodd bod bwlch rhwng profiadau rhai o'r disgyblion llai breintiedig dros gyfnod hir yr haf o gymharu â'r disgyblion eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Oakleigh, 9, Ysgol y Bedol

Mae Oakleigh, 9 oed, yn hoffi patrwm presennol Ysgol y Bedol.

"Byddai'n well gen i orffen ysgol am 15:30 oherwydd mae cael amser gyda teulu'n bwysig," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Ffion, 11, Ysgol y Bedol

Ond byddai Ffion, 11, yn fodlon cael diwrnod hirach yn yr ysgol.

"Bydden i'n hapus i dreulio mwy o amser yn yr ysgol oherwydd byddai'n gallu gweld fy ffrindiau ac yn gallu dysgu am fwy o amser."

Dywedodd y llywodraeth mai'r brif nod oedd cefnogi disgyblion ac ysgolion difreintiedig sydd wedi eu taro waethaf gan y pandemig.

Dywedodd undebau bod hefyd angen ystyried effeithiau'r newidiadau ar staff.

'Baich gwaith ychwanegol yn bryderus'

"Tra bo ni'n croesawu'r ffaith bod y llywodraeth yn ariannu y gweithgareddau allgyrsiol 'dan ni'n bryderus efo'r newidiadau arfaethedig ar gyfer y diwrnod ysgol," meddai Stuart Williams o undeb NEU Cymru.

Ychwanegodd: "Mae'r ffaith bod ysgolion wedi gwirfoddoli [i fod yn rhan o'r peilot] yn dangos bod angen yr arian ar ysgolion a da ni'n gwybod bod aelodau o dan bwysau mawr ar hyn o bryd ac mae goblygiadau baich gwaith ychwanegol yn sgil y peilot hwn yn bryderus i ni hefyd."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles

Mae diwygio tymhorau a dyddiau ysgol yn rhan o'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur yn y Senedd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, y byddai rhoi mwy o arian i ysgolion i ddarparu gweithgareddau ychwanegol yn "helpu i ddatblygu sgiliau personol a meithrin gwydnwch, a fydd hefyd yn effeithio ar gyrhaeddiad".

"Rwy'n benderfynol ein bod ni'n edrych ar strwythur y diwrnod a'r flwyddyn ysgol er mwyn sicrhau eu bod er budd gorau llesiant y dysgwyr a'r staff, yn lleihau anghydraddoldebau addysgol, ac yn sicrhau'r canlyniadau gorau i bob dysgwr," ychwanegodd.

Yn ôl Mr Miles byddai trafodaethau'n cael eu cynnal gyda phobl ifanc a'u teuluoedd, staff ysgolion a busnesau ynghylch diwygio posib dyddiadau tymor ysgol.

Mae rhai arbenigwyr wedi dadlau y dylai'r gwyliau haf chwe wythnos fod yn fyrrach oherwydd gall plant, yn enwedig y rhai o gefndiroedd difreintiedig, golli tir gyda'u dysgu.

Pam newid hyd dyddiau ysgol a gwyliau?

Mae'r rhai sydd am weld newidiadau yn dweud bod y patrymau presennol yn seiliedig ar gymdeithas y 19eg ganrif.

Roedd yn gyfnod pan oedd ysgolion yn gosod eu patrymau eu hunain ac roedd mynd i'r ysgol yn wirfoddol.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r llun yma o Ysgol Maestir, Llanbedr Pont Steffan o tua 1892, cyfnod pan fyddai oriau ysgol wedi bod yn rhan o ffordd wahanol iawn o fyw

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd disgyblion Ysgol y Bedol wers arbennig yn Ysgol Maestir, sydd bellach yn Amgueddfa Sain Ffagan

Dywedodd yr hanesydd Martin Johnes bod yn rhaid i ysgolion bryd hynny "gyd-fynd â gofynion cymunedau lleol os oedden nhw am i blant fynychu'r ysgol ac i athrawon gael eu talu".

"Roedd angen i blant helpu gydag amrywiaeth o dasgau amaethyddol fel hau, cynaeafu a chasglu gwair. Fe greodd hynny y norm o gael gwyliau haf hir."

Ar y pryd, athrawon hefyd oedd yn penderfynu oriau ysgol.

"Gyda phlant yn gorfod cerdded i'r ysgol, ac yn aml yn gwneud tasgau wedi hynny, roedd diwrnod cymharol fyr yn gwneud synnwyr i rieni, yn enwedig yn y gaeaf pan allai plant fod yn cerdded adref yn y tywyllwch," ychwanegodd Mr Johnes.

'Dim ymgynghoriad ar gynllun chwyldroadol'

Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Sion Amlyn, Swyddog Polisi ac Achos Undeb NASUWT Cymru bod y cynllun peilot "wedi ca'l ei landio ar bawb heb unrhyw fath o ymgynghoriad".

Awgrymodd hefyd mai dyma'r "adeg anghywir i gychwyn ar rywbeth mod chwyldroadol" gydag ysgolion "yn stryglo" i gadw disgyblion a staff yn y dosbarth oherwydd y pandemig.

"Abwyd", meddai, yw'r cynllun peilot i ddenu cefnogaeth i newidiadau ehangach i oriau a thymhorau ysgolion sy'n golygu "lot mwy na cynnig gwasanaethau gwerthfawr i ddisgyblion ar ddiwedd y dydd am ryw awran".

Ychwanegodd: "Rhaid i ni gofio na ddim gwasanaeth gofal ydi ysgolion a ddylsan nhw ddim ystyried newid rhediad diwrnod fel bod yna wasanaeth ar gyfer y cyhoedd i warchod."

Cytunodd Bronwen Hughes, pennaeth Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug bod angen ymgynghoriad "sylweddol... gyda holl randdeiliaid yr ysgol, boed yn athrawon, disgyblion, rhieni, y gymuned ehangach".

Dywedodd ei bod o blaid "unrhyw weithgaredde sydd yn rhoi gwerth ychwanegol i'n disgyblion" wedi 18 mis heriol.

"Os ydi o'n gynllun sydd yn eu helpu nhw i adfer eu sgiliau cymdeithasol, eu hyder, eu hiechyd meddwl mi fyswn i'n croesawu hynny," meddai. "Wrth gwrs, mae isio mynd i'r glo mân o ran y cyllid, y trefniadau."

"Fyswn i ddim isio gweld y diwrnod ysgol yn cael ei ehangu er mwyn rhoi mwy o wersi ar gyfer llythrennedd a rhifedd ac yn y blaen... mae 'na elfenne eraill o roi addysg a phrofiade i ddisgyblion dwi'n teimlo [fydde'n mwy buddiol] o gael eu ariannu'n ddoeth, o gael ei gynllunio."

Mewn ymateb i'r sylwadau, dywedodd Jeremy Miles y bydd y cynllun peilot yn "sicrhau fod ni'n gallu gweld sut galle hyn ddigwydd ar lawr gwlad," a bod y llywodraeth "wedi bod yn trafod hyn gyda'r partneriaid fel yr undebau dros yr wythnosau diwetha".

Ychwanegodd y bydd yr arbrawf yn darparu tystiolaeth a gwybodaeth a fydd "yn caniatáu i ni gael trafodaeth ar sail gwybodaeth".