Oes angen newid oriau a thymhorau ysgol i helpu rhieni?

  • Cyhoeddwyd
A primary school pupil learningFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae arbenigwyr eisoes wedi awgrymu y dylid newid y tymor ysgol

"Rhaid i strwythur y diwrnod ysgol ac amserau tymhorau gwrdd â gofynion yr 21ain ganrif er mwyn helpu rhieni", medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Fel rhan o'r cytundeb cydweithredu rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, bydd y pleidiau yn edrych ar ddyddiadau tymhorau ac yn archwilio'r posibilrwydd o newid "rhythm" y diwrnod ysgol.

Mewn cyfweliad â rhaglen Wales Live dywed Mr Drakeford mai Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y DU i wneud newidiadau o'r fath, er nad oes manylion pellach ar hyn o bryd.

"Mae'r ffordd ry'n ni'n byw ein bywydau, y ffordd mae pobl yn cael eu cyflogi a'r ffordd y mae'n rhaid i rieni gwrdd â gofynion cynyddol bob dydd yn golygu bod yn rhaid i ni edrych ar sut mae'r flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol yn cael eu trefnu yng Nghymru," meddai.

Dywed Mr Drakeford bod angen "newid polisi radical" a bod y flwyddyn ysgol bresennol yn "adlewyrchu bywyd diwedd y 19eg ganrif pan roedd Cymru yn genedl amaethyddol".

'Nid darparwyr gofal plant yw ysgol'

Yn y gorffennol mae arbenigwyr wedi awgrymu y gallai gwyliau haf byrrach helpu disgyblion o gefndiroedd llai breintiedig.

Ond mae undebau addysg wedi dweud bod yn rhaid i unrhyw newidiadau fod er budd y dysgwr, ac nid er mwyn gwneud bywydau rhieni yn haws o ran gofal plant.

"Ry'n ni'n awyddus i drafod unrhyw newid i'r flwyddyn ysgol gyda Llywodraeth Cymru a gweld beth y gellid ei wneud i wella addysg ar gyfer disgyblion," meddai Laura Doel, cyfarwyddwr NAHT Cymru.

"Yn aml mae tymor yr hydref, er enghraifft, yn cael ei nodi fel un anodd gan fod dysgwyr wedi bod allan o'r ysgol am gyfnod hir ac fe fydden yn awyddus i ymgynghori ar dystiolaeth ar gyfer unrhyw newid gyda'n haelodau."

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid i unrhyw newid fod er budd y plant a'u hathrawon, medd undeb addysg NAHT

"Ond mae NAHT Cymru yn credu'n gryf bod yn rhaid i unrhyw newid gael ei seilio er budd addysgol dysgwyr ac na ddylai gael unrhyw effaith niweidiol ar weithlu ysgol.

"Pan yn sôn am rythm y diwrnod ysgol, ry'n ni'n bryderus am gymhelliad y llywodraeth gan nad oes tystiolaeth bendant i gefnogi hyn.

"Prif bwrpas ysgolion yw addysgu a dysgu ac er ein bod am gefnogi teuluoedd, nid darparu gofal plant yw bwriad ysgolion.

"Ry'n ni'n gwybod nad yw cadw plant am gyfnod hirach yn yr ysgol yn gwella eu gallu i ddysgu ac fe ddylai'r ffocws fod ar ddarparu addysg o ansawdd da yn ystod oriau ysgol.

"Mae hynny yn golygu buddsoddi yn y proffesiwn a rhoi iddynt yr adnoddau angenrheidiol - fel hyfforddiant a chefnogaeth i ganolbwyntio ar eu prif waith.

"Mae unrhyw ddyhead gan Lywodraeth Cymru i ehangu gweithgareddau allgyrsiol disgyblion i'w gymeradwyo, ond nid ysgolion ddylai fod yn gwneud hynny."

Pynciau cysylltiedig