Dod o hyd i wrthrych ar dir ger mynwent ger Casnewydd
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi dod o hyd i wrthrych, nad oes modd ei adnabod, mewn tir cyfagos i fynwent yng Nghasnewydd.
O ganlyniad i'r gwaith chwilio cychwynnol ym Mynwent Christchurch, dywedont ei bod yn amhosib cadarnhau natur y gwrthrych ac felly eu bod yn dechrau cloddio'r ardal.
Nos Fercher dywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio'n "ddefnydd heb awdurdod" o dir ger y fynwent yng Nghasnewydd wedi iddynt gael eu galw i'r ardal am 09:48 ar 27 Ebrill.
Mae ffensys metel wedi cael eu gosod o amgylch y safle ger Mynwent Christchurch.
Mae Heddlu Gwent yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chyngor Casnewydd i ymchwilio i'r mater ar ddarn o dir heb ei ddatblygu.