Mesur glawiad Cadair Idris unwaith y mis am 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Phil Thomas wedi bod yn mesur a chofnodi glawiad Cadair Idris unwaith y mis am 20 mlynedd.
Roedd dydd Sadwrn, 30 o Ebrill yn ddiwedd cyfnod i Phil sy'n un o wirfoddolwyr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, wrth iddo fesur y glawiad islaw copa Cadair Idris am y tro olaf.
Ac yntau bron yn 80 oed ac wedi mentro i'r mynydd dros 200 o weithiau boed yn law neu'n hindda, mae Phil wedi penderfynu rhoi'r gorau i swydd wirfoddol mae wedi ei "gyfrif yn fraint ac yn fendith."
Phil, cyn athro daearyddiaeth yn Ysgol y Gader, Dolgellau sy'n esbonio wrth Cymru Fyw bwysigrwydd cofnodi tywydd ar lethrau mynydd uchaf de Eryri, sy'n esgyn i 2,930 troedfedd o lefel y môr.
Y swydd: mesur glawiad
Ar ddiwrnod olaf neu ddiwrnod cyntaf bob mis byddai Phil yn gwneud y daith i'r un ardal o Gadair Idris sef Cwm Nant y Gadair er mwyn cofnodi faint o law a ddisgynnodd yn y mis a aeth heibio.
Eglura Phil: "Pan dwi'n deud wrth bobl 'mod i'n mynd fyny Cadair Idris dydw i ddim yn mynd i fyny i'r copa, dwi ddim yn mynd i fyny i Gwm Cau hyd yn oed ond mae yna fan lle mae 'na glosydd a mae 'na fesurydd glaw ynghanol ryw gors.
"Yno, mae yna beth maen nhw'n ei alw yn Snowdon standard raingauge, wedi ei wneud allan o gopr. Wedyn dwi'n mynd i fyny, dwi'n twallt y glaw i ryw jwg ac yn ei fesur mewn modfeddi dim milimetrau. Dwi'n falch iawn o hynny, mae'n rhaid i chi ddeall 'mod i o'r to hŷn ac mae modfeddi yn llawer pwysicach i fi!
"Mi fydda i'n gneud cofnod o agweddau eraill o'r tywydd hefyd nid jest y glaw. I mi, mae o'n rhywbeth pwysig i fedru ei 'neud. O'n i'n arfer ei 'neud o pan o'n i'n fachgen ysgol i ddweud y gwir, ac mae tywydd wedi bod yn rhan hanfodol o 'mywyd i. Dwi 'di bod yn dysgu tywydd drwy fod yn athro daearyddiaeth."
Mesur ymhob tywydd
Er i Phil deimlo'n ffodus iawn o gael crwydro llethrau ei hoff fynydd yn fisol, mae'n cyfaddef na fu ymroi i fesur y glawiad bob mis wastad yn hawdd.
Meddai: "Mae'n rhaid i mi fod yn gwbl onest bod yna adegau lle dwi wedi teimlo dydw i ddim isio mynd i fyny. Dwi'n cofio Rhagfyr y cyntaf flwyddyn diwetha, glaw trwm drwy'r dydd a chenllysg; o'n i'm yn gwybod lle o'n i'n mynd ar adege oherwydd gwelededd sâl a dwi erioed wedi dod ar draws gwynt fel yna; o'n i bron ddim yn medru sefyll i fyny oherwydd y gwynt."
Un peth fu'n gysur i Phil mewn tywydd garw oedd y llecyn a'r garreg lle byddai'n mwynhau ei ginio bob tro.
Eglura Phil: "Ro'n i'n eistedd ar yr un garreg bob tro i gael fy nghinio. Does dim angen i Cyfoeth Naturiol Cymru nac unrhyw gorff arall roi plac fan'na.
"Ond i fi, mae hwnna yn lle i amcanu amdano fo. Ar ôl dod o'r mynydd, ar ôl mesur y glaw, dwi'n edrych ymlaen at gael tamed o fwyd a chael coffi a dwi wrth fy modd yn ista fan'na ac edrych o gwmpas."
Pam bod mesur glawiad Cadair Idris yn bwysig?
Ar ôl dychwelyd o lethrau Cadair Idris byddai Phil yn trosglwyddo'r mesuriad glaw i Paul Williams o Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae glawiad cymhedrig Cadair Idris yn 116 modfedd mewn blwyddyn. Mewn cymhariaeth, dim ond 32 modfedd yw glawiad cymhedrig blynyddol Wrecsam felly mae Cadair Idris yn ardal wlyb iawn!
Meddai Paul, sy'n rheoli Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris: "Mae'r gwaith o fonitro'r llystyfiant a'r tywydd a hinsawdd ac yn y blaen yn allweddol er mwyn i ni reoli un o warchodfeydd natur cenedlaethol ein cenedl ni.
"Mae Phil wedi dangos llafur cariad go iawn dros gyfnod fel'na, a fasan ni ddim wedi medru 'neud o'n fisol heb ymroddiad Phil, yn enwedig fel mae adnoddau'n mynd yn brinnach. Dwi wedi dibynnu ar Phil bron iawn bob mis am ugain mlynedd cyfan, diolch iddo fo."
Gosodwyd y mesurydd glaw yng Nghadair Idris yn 1980 a phryder Paul yw bod diddordeb Y Swyddfa Dywydd mewn cofnodion o'r fath wedi gwanhau.
Eglura Paul: "Pan osodwyd yr offer yn 1980 mi oedd Y Swyddfa Dywydd ynghlwm a'r peth. Mae'n debyg fod diddordeb Y Swyddfa Dywydd wedi gwanhau yn y 90au ac felly tydi'r data ddim i gael llawer helaethach na'r tîm dwi'n weithio efo a manylion y warchodfa ei hun.
"Mi fasa'n chwith garw wrth gwrs tynnu plwg ar gyfres mor hir o wybodaeth, a gyda Phil rŵan yn gorffen ar ei waith o, mi fydda i a fy nghyd-weithiwr, Gareth, yn edrych i weld sut allwn ni gomitio i'r diwrnod yna bob mis er mwyn mesur glawiad."
Y daith olaf
Ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill, aeth Phil, ei feibion Matt a Glyn, a'i ŵyr Jack i fesur y glawiad misol am y tro olaf, gan fwynhau cinio a seibiant hir ger hoff garreg Phil.
"Roedd hi'n braf iawn cael y bechgyn a fy ŵyr efo fi, maen nhw wedi bod yn help mawr i mi pan dwi wedi ei chael hi'n anodd. Mae o wedi bod yn fraint ac yn fendith dros y blynyddoedd; dwi'n 80 y flwyddyn yma a gobeithio fydda i'n medru mynd cryn dipyn eto, ond mi fydd yna amser pan fydd hynny ddim yn bosib."
Y glawiad olaf i Phil ei fesur yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris ar gyfer mis Ebrill 2022 yw 3.34 o fodfeddi, sy'n "fesuriad uchel i Ebrill," eglura Phil.
Hefyd o ddiddordeb: