Etholiadau: Y Ceidwadwyr yn colli eu hunig gyngor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cyfri pleidleisiau yng Nghaernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Prysurdeb cyfrif pleidleisiau etholwyr Gwynedd yng nghanolfan hamdden Caernarfon

Mae'r Ceidwadwyr wedi colli seddi mewn sawl rhan o Gymru a cholli'r unig awdurdod roedden nhw'n ei reoli - Sir Fynwy.

Llafur bellach yw'r blaid fwyaf Sir Fynwy, gyda'r blaid hefyd yn adennill Blaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr, gan ddal Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd a Thorfaen.

Mae Plaid Cymru wedi cadw Gwynedd a sicrhau rheolaeth lawn ar gynghorau Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Ond mae Llafur wedi colli eu mwyafrif yng Nghastell-nedd Port Talbot, wedi iddyn nhw ennill 25 o'r 60 sedd - ar ôl ennill 37 sedd yn 2017.

Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddeg sedd ym Mhowys, gan ddod y grŵp mwyaf gyda 24 o gynghorwyr. Mae'r blaid yn dweud mai dyma'r nifer fwyaf o gynghorwyr y mae'r blaid erioed wedi eu cael.

Yn y cyfamser mae'r Gwyrddion wedi ennill saith sedd hyd yn hyn - eu canlyniad gorau erioed yng Nghymru.

Llafur bellach yw'r blaid fwyaf yn Sir Fynwy, ond mae'r Ceidwadwr Richard John, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, wedi cadw ei sedd.

Disgrifiad o’r llun,

Y cyfrif yn Neuadd Brangwyn, Abertawe

Plaid Cymru fydd yn parhau i reoli Cyngor Gwynedd. Fe wnaethant sicrhau 44 o'r 69 aelod ar yr awdurdod newydd.

Mae'r blaid hefyd wedi cipio rheolaeth lawn o Gyngor Ynys Môn, ble roeddent yn arwain clymblaid gyda charfan o Annibynwyr yn flaenorol.

Yn Sir Gaerfyrddin fe enillodd Plaid Cymru fwyafrif er i arweinydd Plaid Cymru yn y sir, Emlyn Dole, golli ei sedd yn ward Llannon.

Yng Ngheredigion fe gafodd Plaid Cymru 20 sedd, yr Annibynwyr 10, Y Democratiaid Rhyddfrydol 7 a Llafur 1.

Disgrifiad o’r llun,

Etholwyd un cynghorydd Llafur ac un Plaid Cymru yn ward Llannon - ond nid Emlyn Dole.

Etholiadau lleol: Y Ceidwadwyr yn colli eu hunig gyngor

Mae Llafur wedi cipio rheolaeth o Gyngor Blaenau Gwent o afael yr Annibynwyr, gan hefyd gadw cynghorau Casnewydd, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Hefyd cadwyd gafael ar Gyngor Caerdydd.

Ond does yr un blaid wedi llwyddo i sicrhau mwyafrif ar gynghorau Conwy, Penfro na Sir Ddinbych.

Does yr un plaid wedi sicrhau mwyafrif ym Merthyr Tudful chwaith, gyda Llafur ac aelodau Annibynnol ac eraill yn sicrhau 15 sedd yr un. Roedd yn cael ei redeg gan Annibynwyr yn y weinyddiaeth ddiwethaf.

Yn y canolbarth, mae arweinydd annibynnol Cyngor Powys, Rosemary Harris wedi colli ei sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Y nhw fydd y blaid mwyaf ym Mhowys ond llwyddodd neb i sicrhau mwyafrif yno.

Colli hefyd fu hanes Philippa Marsden, arweinydd Llafur Cyngor Caerffili. Fe gollodd hi ei sedd i ddau gynghorydd Annibynnol wrth i Lafur ddal eu gafael ar y cyngor.

Yn y gogledd ddwyrain, roedd yna lwyddiant i'r Gwyrddion yn Sir Ddinbych, gyda dwy sedd. Rhain oedd seddi cyntaf y blaid ar y cyngor.

1,160 o seddi

Mae cyfanswm y seddi yn 1,160 ac roedd gan tua 2.2 miliwn o bobl bleidlais, gan gynnwys pobl 16 a 17 oed am y tro cyntaf mewn etholiadau cyngor.

Mae yna etholiadau cyngor hefyd wedi digwydd yn Yr Alban ac mewn rhai ardaloedd yn Lloegr, ac mae etholiad ar gyfer Cynulliad Gogledd Iwerddon.

.

Disgrifiad,

James Williams fu'n cymryd golwg 'nôl ar beth ddigwyddodd yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2017

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Yn yr etholiadau diwethaf yn 2017 Llafur oedd y blaid fwyaf, gydag aelodau annibynnol yn ail, Plaid Cymru yn drydydd, y Ceidwadwyr yn bedwerydd a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bumed.

Bydd y sawl sy'n rhedeg yr awdurdodau yn gorfod mynd i'r afael â rhedeg ystod eang o wasanaethau, o ganolfannau hamdden i ofal i'r henoed, tra hefyd yn gosod lefel y dreth cyngor a rheoli cyllideb.

Canlyniadau anhygoel i Lafur yn Llundain

Dadansoddiad Elliw Gwawr, gohebydd Seneddol BBC Cymru

Pwy ddychmygai y bydden nhw'n rheoli Cyngor Westminster, ond y tu allan i'r brif ddinas mae'r darlun yn llawer mwy cymysg. Dydy o ddim yn drychinebus i'r Ceidwadwyr, ond does 'na ddim brwdfrydedd mawr 'chwaith am Keir Starmer.

Rhaid cofio does 'na ddim etholiadau ymhob rhan o Loegr a 'da ni heb weld canlyniadau Cymru a Lloegr eto ond mae 'na bwysau ar Boris Johnson. Does 'na ddim panig yn y blaid eto ond 'da ni eisoes 'di clywed beirniadaeth a rhybuddion bod rhaid i'r blaid wrando ar yr etholwyr.

Dydy o ddim yn mynd i hawlio'r penawdau ond mae'n ddiddorol bod y Ceidwadwyr wedi colli tair sedd yn Hillingdon - etholaeth y Prif Weinidog ei hun - er bod y blaid yn dal gafael ar y cyngor.

Disgrifiad o’r llun,

Pleidleisiau Ynys Môn yn cael eu cyfri yn Llangefni

Pynciau cysylltiedig