Breuddwyd Wrecsam o ddyrchafiad yn dal yn fyw

  • Cyhoeddwyd
Ollie PalmerFfynhonnell y llun, Lloyd Jones/Wrexham AFC
Disgrifiad o’r llun,

Ollie Palmer sgoriodd y gôl agoriadol i'r Dreigiau

Mae Wrecsam yn parhau yn y ras am y bencampwriaeth ar ôl dringo i frig y tabl.

Llwyddodd y Dreigiau i drechu Stockport ar y Cae Ras gan sicrhau bod y freuddwyd yn parhau o ddyrchafiad heb fod angen bod yn rhan o'r gemau ail gyfle.

O flaen torf o dros 10,000 roedd yn fuddugoliaeth anrhydeddus yn erbyn y clwb sy'n sefyll rhwng Wrecsam a'r bencampwriaeth.

Agorwyd y sgorio wedi 34 munud diolch i beniad Ollie Palmer.

Paul Mullin sgoriodd ail gôl y Dreigiau ar ddiwedd yr hanner, gyda'i ergyd gywir yn hyrddio pasio Ben Hinchcliffe yn y gôl.

Roedd gwell i ddod ar gychwyn yr ail hanner gyda pheniad arall gan Palmer yn canfod cefn y rhwyd yn dilyn cic rydd Jordan Davies.

Roedd yn fuddugoliaeth gwbl haeddiannol sy'n golygu bod y Dreigiau a Stockport ill dau gyda 88 o bwyntiau, gyda Wrecsam ar y brig oherwydd gwahaniaeth goliau.

Ond gydag ond un tîm yn cael dyrchafiad awtomatig, a'r clwb o Loegr wedi chwarae un gêm yn llai, bydd Wrecsam yn parhau i ddibynnu ar ganlyniadau gemau eraill er mwyn osgoi loteri'r gemau ail gyfle.