Chwalu'r tabŵ am 'broblem enfawr' i athletwyr benywaidd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

"Dechrau'r sgwrs" ynghylch cael gwared ar y stigma am broblemau dal dŵr

"Blynydde'n ôl, odd tabŵ mawr o ran iechyd meddwl, ond ma' pobl yn trafod y peth lot fwy, a dyna beth sy' angen digwydd gyda phroblemau dŵr a phroblemau llawr y pelfis."

I rai menywod fe all ddigwydd wrth ymarfer corff, i eraill wrth chwarae gyda'r plant, ond i lawer mae'r stigma o fethu a dal eich dŵr oherwydd pwysau ar y bledren yn golygu nad yw'n cael ei drafod.

Nawr mae'n bryd i hynny newid, yn ôl aelodau o dîm hyfforddi rygbi Cymru.

Mae Dr Gwennan Williams yn feddyg i dîm rygbi merched Cymru ac mae'n cefnogi'r chwaraewyr ar, ac oddi ar, y cae.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Gwennan Williams (ail o'r chwith) ei fod yn gyffredin ymysg menywod o bob oed

"Os oes rhywun yn colli dŵr, chi'n gallu gweld bo' nhw wedi colli dŵr yn enwedig os ydyn nhw'n gwisgo rhywbeth tynn neu rhywbeth lliw - bydd e'n dangos", meddai.

"Fi'n credu falle bod e'n bach fwy o tabŵ achos bo' chi'n gallu gweld y broblem."

Yn ôl Gwennan, sydd hefyd yn feddyg teulu yn Nantgaredig, mae'n broblem eang i fenywod o bob oed.

Dywedodd bod canran o athletwyr yn gallu dioddef oherwydd bod llawr y pelfis wastad ar waith, ac felly'n gorflino.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y garfan gyda sesiynau ac ymarferiadau penodol.

Mae un arall o dîm yr undeb wedi bod yn gweithio ar faterion iechyd sy'n effeithio menywod yn benodol.

Dywedodd Jo Perkins ei fod yn "broblem enfawr" i fenywod sydd angen ei drin fel unrhyw broblem arall gyda'r corff.

Pan nad yw cyhyrau llawr y pelfis yn gweithio'n gywir, mae'n gallu arwain at bob math o effeithiau, gan gynnwys problemau dal dŵr, meddai.

"Mae'n gyhyr. Ac mae'n rhywbeth allwn ni wneud rhywbeth yn ei gylch."

Dywedodd Gwennan bod yr hyfforddwyr oedd wedi gweithio mwy gyda dynion wedi eu cynnwys yn y sgyrsiau hefyd.

"Mae'n broblem sy'n gallu bod yn embarrassing yn enwedig nawr bod lot o'r gemau ar y teledu," meddai.

Ychwanegodd bod aelodau o'r garfan yn gallu poeni hefyd am chwarae tra eu bod yn cael misglwyf, yn enwedig gan bod nifer o'r gemau'n cael eu darlledu.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid "chwalu cywilydd" ymysg merched o bob oed, meddai Cerys Hale

Mae Cerys Hale, 29, wedi chwarae i Gymru ers 2016, ac mae hi hefyd yn hyfforddi tîm merched dan-18 y Dreigiau.

Mae gwaith yr undeb yn werthfawr meddai, gan bod angen chwalu unrhyw gywilydd sy'n gysylltiedig â phroblemau llawr y pelfis ymhlith y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.

"Dwi'n credu bod e'n bwysig bod merched ifanc yn gwybod bod e'n rhywbeth sy'n digwydd i bobl.

"Fi'n meddwl mae'n bwysig bo' ni'n 'neud pethau sydd yn helpu ni ar y cae ond hefyd bant o'r cae oherwydd mae'r pethau yma yn mynd i helpu ni am flynyddoedd ar ôl i ni chwarae," ychwanegodd.

Er bod athletwyr amatur a phroffesiynol yn cael y problemau hyn, maen nhw'n cael eu cysylltu'n draddodiadol â menywod sydd wedi rhoi genedigaeth neu wedi mynd trwy'r menopos.

Mewn gwirionedd maen nhw'n effeithio ar hanner menywod y Deyrnas Unedig, er y gallai fod yn uwch fyth meddai Christine Harrison, uwch-ffisiotherapydd yn Ysbyty Singleton, Abertawe.

"Mae e'n broblem ble ma' menywod yn meddwl bod e'n rhan arferol o fywyd, ella ar ôl cael plant, yn enwedig ar ôl geni plant, heneiddio, mynd trwy'r menopos," meddai Christine.

"Maen nhw'n meddwl bod e'n rhan o fywyd, rhaid delio hefo fo'n ddistaw heb chwilio am gyngor, ond ma' 'na driniaeth ar gael."