Senedd fwy: 'Nid er mwyn cau allan y pleidiau llai'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog wedi gwadu bod cynigion i ehangu'r Senedd yn gynllun gan Lafur a Phlaid Cymru i gau allan pleidiau llai.
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, wedi rhybuddio y gallai'r system bleidleisio arfaethedig frifo ei phlaid ac eraill.
Dywedodd y dirprwy weinidog trafnidiaeth Lee Waters ei fod yn deall y pryder ond "dydw i ddim yn meddwl ei fod yn cael ei gadarnhau gan y modelu a'r dystiolaeth".
Cytunodd fod angen egluro i bleidleiswyr pam mai dyma'r "peth iawn i'w wneud".
"Rydym wedi dod at ein gilydd ar set o gynigion y mae'r ddwy blaid wedi gorfod cyfaddawdu arnynt," meddai wrth BBC Cymru.
"Does neb yn cael yr hyn maen nhw ei eisiau 100% allan o hyn, ond y darlun mawr yw cynnydd."
Cytunodd Llafur a Phlaid Cymru ar gynllun ar gyfer Senedd 96 sedd - 36 yn fwy na nawr, gyda chwotâu rhyw gorfodol.
Ond mae 'na bryderon na fydd y system yn adlewyrchu'n llawn sut mae pobl yn pleidleisio.
O dan y cynlluniau byddai'r cyhoedd yn pleidleisio dros bleidiau, yn hytrach nag ymgeiswyr, gyda 96 o Aelodau o'r Senedd wedi'u gwasgaru dros 16 etholaeth.
Byddai'n defnyddio'r hyn a elwir yn "system rhestr gaeedig" - tebyg i sut roedd etholiadau Senedd Ewrop yn gweithio ym Mhrydain cyn Brexit - lle mae pleidleiswyr yn cefnogi rhestr plaid yn hytrach nag ymgeisydd, ac ni allant wrthod unrhyw ymgeiswyr unigol a enwebwyd.
Byddai pleidiau'n cael eu gorfodi i enwebu rhestrau sy'n cynnwys dynion a merched yn gyfartal, gyda rhestrau ymgeiswyr yn cael eu gosod am yn ail rhwng dynion a merched.
Ar hyn o bryd mae'r Senedd yn cael ei hethol drwy gymysgedd o'r cyntaf i'r felin ar gyfer 40 o etholaethau, a rhestrau plaid ar gyfer yr 20 Aelod o'r Senedd sy'n weddill.
'Fe fydd anghytundeb'
Dywedodd Mr Waters: "Rydyn ni'n cael 96 o aelodau o dan y cynnig hwn. mae gennym ni system bleidleisio o leiaf mor gymesur ac rwy'n meddwl bod hynny'n gam enfawr ymlaen.
"Nawr, o ran y manylion, fe fydd anghytundeb.
"Mae gan bawb eu hoff system etholiadol eu hunain, a does dim un system etholiadol heb ei anfanteision, ond o'i gymryd yn ei gyfanrwydd, mae hwn yn gam gwirioneddol ymlaen."
Roedd y cynigion yn "gytundeb a luniwyd yn ofalus o gonsensws oedolion aeddfed", meddai.
"Mae'r ddwy blaid wedi gorfod cyfaddawdu. Ni chafodd Mark Drakeford bopeth yr oedd ei eisiau, ni chafodd Adam Price bopeth yr oedd ei eisiau.
"Ond maen nhw wedi dweud yn aeddfed 'dyma beth allwn ni gytuno arno, a dyma beth rydyn ni'n meddwl sydd orau i Gymru'.
"Ac mae'n rhoi Senedd sy'n medru codi trethi a deddfu, sydd yn gallu cyflawni'r dasg o graffu ar y llywodraeth a symud Cymru ymlaen."
Cytunodd Mr Waters fod angen egluro pam fod angen y cynlluniau gan nad yw pobl "yn hoffi'r syniad o ragor o wleidyddion".
"Mae Senedd fwy, mwy pwerus yn gyson yn y polau piniwn yn boblogaidd, mae pobl Cymru yn gwerthfawrogi ein sefydliad ac maen nhw am iddo fod yn effeithiol," meddai.
"Unwaith i ni egluro y bydd llai o ASau [San Steffan] yn dod o Gymru, does dim pedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd gyda ni fel pan oedden ni'n rhan o'r UE, ac mae'r costau cyffredinol yn rhesymol o fewn y math o gyllideb rydyn ni'n sôn amdani."
Dywedodd y gweinidog fod gan y Senedd "rôl hanfodol wrth ddwyn gweinidogion a llywodraethau i gyfrif a gyda'r 60 aelod, ni all wneud y gwaith.
Mae angen ei diwygio ac mae "consensws trawsbleidiol i gyflawni'r diwygiad hwnnw", meddai
"Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni egluro hynny a dweud wrth bobl pam mai dyna'r peth iawn i'w wneud," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2022
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2021