Wrecsam yn y gemau ail gyfle ar ôl colli i Dagenham
- Cyhoeddwyd
Methodd Wrecsam â gorffen y tymor ar frig y Gynghrair Genedlaethol a sicrhau dyrchafiad awtomatig ar ôl colli oddi cartref, o dair gôl i ddim, i Dagenham a Redbridge.
Mae'r Dreigiau'n dal eu gafael ar yr ail safle yn tabl gyda 88 o bwyntiau, ac felly'n gorfod brwydro am ddyrchafiad i Adran Dau trwy'r gemau ail gyfle.
Ond hyd yn oed petasai tîm Phil Parkinson wedi ennill y gêm, ni fyddai'r triphwynt wedi bod yn ddigon i godi uwch ben y pencampwyr Stockport, a sicrhaodd fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Halifax.
Roedd perfformiad Wrecsam yn siomedig ac roedd Dagenham yn haeddu ennill wedi goliau Junior Morias (55), Paul McCallum (80) a Matt Robinson (90).
Notts County neu Grimsby fydd gwrthwynebwyr nesaf Wrecsam yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.
Wrth orffen yn yr ail safle, bydd Wrecsam â'r fantais o gael chwarae gartref ar y Cae Ras, pan fydd y gêm yn cael ei chynnal ddiwedd Mai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022