Wrecsam yn anelu at sicrhau dyrchafiad awtomatig
- Cyhoeddwyd
Bydd cefnogwyr Wrecsam yn gobeithio am ffafr fawr gan Halifax brynhawn Sul, os am sicrhau dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Bêl-Droed.
Mae Stockport driphwynt ar y blaen o'r Dreigiau gydag ond un gêm ar ôl o'r tymor.
Ond er bod lle Wrecsam yn y gemau ail-gyfle wedi'i sicrhau yn barod, breuddwyd tîm Phil Parkinson yw osgoi'r loteri honno drwy guro Dagenham oddi cartref, a gobeithio bod Stockport yn colli yn Halifax.
Byddai hynny'n ddigon i sicrhau'r bencampwriaeth ar wahaniaeth goliau, gan ddod â rhediad 14 mlynedd Wrecsam yn y Gynghrair Genedlaethol i ben.
Ymdopi â'r pwysau
Ond er yr holl siarad am ddyrchafiad yn ôl i glwb y 92, dywedodd rheolwr Wrecsam bydd ei dîm yn canolbwyntio ar sialens Dagenham & Redbridge yn hytrach na'r hyn sy'n mynd ymlaen yn Stockport.
Er hynny, mae Phil Parkinson yn argyhoeddedig y gall ei chwaraewyr ymdopi â'r pwysau.
"Fy mhrofiad i o fod yn y gemau hyn yw ceisio peidio â gadael i'r achlysur a'r hype effeithio ar y ffordd rydych chi am baratoi a'r ffordd rydych chi'n perfformio drwy gydol y 90 munud," dywedodd.
"Mae canolbwyntio ar broses y perfformiad mor bwysig.
"Os ewch chi i mewn i'r gêm yn meddwl fod rhaid ennill yna fe all greu anobaith.
"Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y ffactorau allweddol a'r blychau y mae'n rhaid i ni eu ticio er mwyn chwarae'r gêm hon rydyn ni bob amser yn ei wneud."
'Nerfus ond mae yna siawns'
Wrth siarad gyda rhaglen Dros Frecwast ddydd Sadwrn, dywedodd Cledwyn Ashford, sy'n sgowt gyda'r clwb, ei fod yn nerfus wedi i Stockport ennill ganol wythnos.
Fe fyddai gêm gyfartal "'di helpu", meddai ond pwysleisiodd bod yna bwysau ar y ddau dîm brynhawn Sul.
"Weles i nhw [Wrecsam] yn train-io ddoe ac oedden nhw'n sydyn, oedd nhw'n chwarae'n dda ddoe ac felly dwi'n meddwl bydd yne siawns da i ni guro Dagenham ond dwi'm yn gwybod be fydd yn digwydd," dywedodd.
Mae un o gefnogwyr ffyddlon y Dreigiau, Dafydd Jones, hefyd yn ffyddiog, er yn derbyn nad yw ffawd Wrecsam yn eu dwylo'i hunain.
Ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener dywedodd: "Dwi'm yn gweld dim rheswm pan dylien ni ddim credu.
"Braidd yn naïve falle, ond dwi wir yn credu bod ni'n mynd i gael dyrchafiad penwythnos 'ma.
"Y peth pwysicaf, wrth gwrs, ydi'n bod ni'n curo Dagenham.
"Ond mae Halifax di bod yn fantastic drwy'r tymor, mae nhw'n mynd i beri problemau i Stockport.
"Dwi heb fod yn impressed efo Stockport, do'n i'm yn meddwl cymaint ohonyn nhw'n erbyn ni ar y Cae Ras wythnos diwethaf felly dwi wir yn credu Dydd Sul gallen ni wneud o."
Aeth ymlaen i ddweud: "Dwi heb gael y profiad o weld Wrecsam yn y Football League, lle dylien nhw fod, a fysa'n meddwl gymaint i ni fel cefnogwyr i gyd tase ni'n gallu cael dyrchafiad i League Two o'r diwedd."
Bydd sylwebaeth fyw o gêm Dagenham & Redbridge yn erbyn Wrecsam ar BBC Radio Cymru 2, gyda'r gic gyntaf am 15:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2022
- Cyhoeddwyd8 Mai 2022