Chwe mis ers COP26 - lle rydyn ni arni?
- Cyhoeddwyd
Chwe mis ers i wledydd y byd ddod at ei gilydd yn Glasgow i gytuno ar gamau i daclo'r argyfwng hinsawdd fe ofynnon ni i ddwy arbenigwr yn y maes yng Nghymru ble rydyn ni arni o ran gweithredu arnyn nhw?
Yn ôl Haf Elgar o Gyfeillion y Ddaear mae rhai addewidion wedi cymryd "cam mawr yn ôl" ers uwch-gynhadledd COP26 fis Tachwedd 2021 gyda sôn am ffracio a meysydd olew a nwy newydd yn Môr y Gogledd.
Dywed Dr Jennifer Allan o Brifysgol Caerdydd bod Cymru wedi bod yn flaengar drwy ymuno â chynghrair newydd i roi'r gorau i ddefnyddio olew a nwy, ond mae'r sôn am agor pyllau glo eto yn siom sy'n mynd yn groes i gytundeb y gynhadledd i leihau'r defnydd o lo yn fyd-eang.
Dyma sut maen nhw'n pwyso a mesur y cynnydd hyd yma:
Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru
"Er nad oedd canlyniad y gynhadledd ei hun yn foddhaol roedd ymdeimlad fod y rhod yn troi, a phŵer y cyhoedd a chymunedau yn gryf tu ôl i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a dros gyfiawnder hinsawdd. Roedd y byd wedi deffro," meddai Haf.
"Ond wrth gwrs nid y 'Bla bla bla' o Glasgow oedd yn bwysig ond beth fyddai'n digwydd wedyn. Ar ddiwedd y gynhadledd datganodd Llywydd COP26 Alok Sharma mai'r unig ffordd i osgoi cynhesu uwch na 1.5C oedd 'cadw ein haddewidion a throsi ymrwymiadau yn weithredu brys.'
"Chwe mis ymlaen ac rydyn ni mewn sefyllfa go wahanol, gyda sylw'r wasg a gwleidyddion rhyngwladol yn ddealladwy yn canolbwyntio ar ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin a chanlyniadau echrydus hyn i bobl y wlad."
Argyfwng costau byw
Mae'r argyfwng costau byw hefyd yn hawlio'r sylw gyda chynnydd mewn prisiau tanwydd a bwyd yn gwneud bywyd yn gynyddol anodd, yn enwedig i grwpiau a chymunedau bregus.
Yn ôl Haf, er fod llywodraeth y DU yn parhau i fod yn llywyddion COP mae'n "anodd gweld unrhyw effaith o ran eu polisïau, gwariant na rhethreg hyd yn oed."
"Gwnaeth y Canghellor fawr ddim cyfeiriad at yr argyfwng hinsawdd na'r angen i ddadgarboneiddio yn natganiad ariannol y gwanwyn," meddai.
Ffracio, nwy a niwclear
"Ac er fod y strategaeth ynni a gyhoeddwyd ddechrau Ebrill yn sôn am gynyddu ynni adnewyddadwy doedd dim cefnogaeth pellach i arbed ynni ac insiwleiddio tai; roedd cefnogaeth gryf i niwclear, sy'n rhy araf a pheryglus, a chodwyd posibilrwydd meysydd nwy ac olew newydd yn Môr y Gogledd, a hyd yn oed yn adolygu ffracio yn Lloegr.
"Ni fydd hyn yn unrhyw help i bobl sy'n wynebu biliau uchel ac yn cael eu gorfodi i fyw mewn cartrefi oer, nac yn darparu sicrwydd ynni i'r dyfodol.
"Mae hyn yn gam mawr yn ôl o'r lle roeddem ni hanner blwyddyn yn ôl. Dyna pam mae Cyfeillion y Ddaear yn cymryd achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth y DU am fethu a cyflwyno cynllun clir i dorri allyriadau.
Beth am Gymru?
"Diolch byth fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddatganiad rhyngwladol Tu Hwnt i Olew a Nwy (Beyond Oil and Gas Alliance, dolen allanol) yn Glasgow, mae mwyafrif llethol y pwerau wedi eu datganoli ac mae ganddi bolisi ynni yn erbyn tanwyddau ffosil newydd."
Mae Haf yn nodi camau gan Lywodraeth Cymru fel cynllun Cymru Sero Net, symud tuag at ynni adnewyddadwy, newid y system bysiau i symud tuag at drafnidiaeth cynaliadwy ac ymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2035 yn eu Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru fel enghreifftiau o newyddion da.
"Ond," meddai "mae bygythiad cloddio rhagor o lo yng Nghymru gyda safle Aberpergwm wedi derbyn trwydded gan yr Awdurdod Glo - penderfyniad sy'n cael ei herio gan Coal Action Network.
"Ac mae angen i ni symud llawer cynt, a sicrhau fod pob penderfyniad polisi a gwariant yng Nghymru yn gam tuag at ddatgarboneiddio - gan gynnwys peidio buddsoddi cronfeydd pensiwn mewn tanwyddau ffosil. Rhaid i ni flaenoriaethu atebion sy'n dda i'r blaned ac i bobl - gan ddileu tlodi tanwydd a gwella ansawdd yr aer.
"Mae adroddiadau diweddaraf arbenigwyr gwyddonol y byd - yr IPCC - yn frawychus, ac yn glir fod pethau'n fwy argyfyngus nac yr ofnwyd.
"Mae pob mis yn cyfrif, ac ni all y byd fforddio colli chwe mis arall o weithredu."
Dr Jennifer Allan, uwch ddarlithydd, Prifysgol Caerdydd
"Dywed yr IPCC, gwyddonwyr hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, fod hon yn ddegawd hollbwysig," meddai Dr Jennifer Allan, sy'n arbenigwr mewn gwleidyddiaeth amgylcheddol ryngwladol yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Caerdydd.
"Felly er nad yw chwe mis yn amser hir, dim ond 16 o chwe misoedd sydd ganddon ni i fynd, felly mae'n werth cael diweddariad."
Beth oedd y prif benderfyniadau?
"Roedd yna ymrwymiad cryf iawn tuag at gadw'r byd o dan 1.5C. Yn ôl Cytundeb Paris yn 2015 fe allai fod yn 2C neu 1.5C ond roedd yna gytuno cryf ar 1.5C yn Glasgow, sy'n bwysig oherwydd gallai wneud y gwahaniaeth rhwng miliynau o bobl yn gorfod symud, difodiant rhywogaethau neu lifogydd a thywydd eithafol. Mae hanner gradd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr iawn.
"Roedd yna gytundeb i gynyddu ariannu tuag at hinsawdd - 'dyw'r gwledydd datblygiedig ddim wedi gwireddu eu haddewid ar hyn sy'n fwy na 10 mlynedd oed.
"Roedd yna gytundeb rhwng y gwledydd i gyd i ddiddymu'n raddol y defnydd o lo ac mae hwn yn un rydyn ni wedi gweld ychydig o fflyrtio yn ei gylch yn sgil y rhyfel yn Wcrain. Hyd yn oed yma yng Nghymru, awgrymodd llywodraeth y DU y gallen ni ail-agor pwll glo. Mae hynny'n rhywbeth y dywedodd y gwledydd 'Na' iddo."
Ond mae gweld sut mae'r gwledydd yn gwneud o ran cadw at yr addewidion yma ar ôl y gynhadledd yn anodd, meddai.
"Un o'r problemau ydy ein bod ni ddim ond yn clywed bob blwyddyn, weithiau bob dwy flynedd, sut mae gwledydd yn gwneud pan maen nhw'n cyflwyno adroddiadau ac mae'n anodd cadw trac yn y cyfamser.
"Mae'n anodd iawn cael darlun global."
Serch hynny, mae rhai arwyddion pryderus yn barod o ran yr ymrwymiad i roi'r gorau i ffynonellau ynni anadnewyddadwy fel tanwydd ffosil, meddai Dr Allan
Glo yn ôl?
"Fe roddodd y DU ei hymrwymiad i'r gynghrair Powering Past Coal ac mae Cymru yn rhan o'r Gynghrair Tu Hwnt i Olew a Nwy. Mae pawb yn cytuno bod hwn yn danwydd ffosil arbennig o ddrwg am lygru ac mae'n rhaid inni roi'r gorau iddo.
"Felly mae ychydig yn bryderus wrth inni ddechrau chwilio am ffynonellau ynni eraill bod yna awgrym bach bob hyn a hyn fod rhai yn mynd nôl i edrych ar lo," meddai Dr Allan.
Gydag ynni glân fel gwynt yn "rhatach na ffurfiau eraill o drydan ar hyn o bryd" mae'n "siom clywed am fynd nôl at lo neu roi buddsoddiad enfawr mewn i bethau sydd heb eu profi neu sy'n llai tebygol, fel niwclear," meddai Dr Allan.
"Mae niwclear yn anodd iawn i'w sefydlu, mae Cymru wedi gweld hynny dro ar ôl tro, mae angen llawer o wahanol fuddsoddwyr, mae'n rhaid iddyn nhw i gyd aros yn ymrwymedig ac mae'n fuddsoddiad hirdymor enfawr.
"Felly fyddwn ni ddim yn gweld niwclear ar y gorwel neu yn y grid trydan am amser hir iawn, felly 'dyw hynny ddim yn ein helpu ni heddiw."
Cam mawr i Gymru
O safbwynt Cymru, mae Dr Allan yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi cael cynhadledd wych drwy ymuno gyda gwledydd a thaleithiau fel Denmarc, Ffrainc, Yr Ynys Las (Greenland), Iwerddon, Quebec, Califfornia a Seland Newydd i symud at ynni adnewyddadwy.
"Fe wnaeth Cymru job dda a dangos ei bod yn gallu sefyll ar ei thraed ei hun o safbwynt newid hinsawdd a sefyll ar lwyfan fyd-eang, felly roedd ymuno â'r gynghrair newydd sbon Tu Hwnt i Olew a Nwy yn gam mawr. Wnaeth y DU ddim ymuno, ond fe wnaeth Cymru."
Mae chwe mis yn gyfnod byr i asesu ei lwyddiant, meddai, ond maen nhw'n dechrau denu sylw fel fforwm defnyddiol i drafod sut i weithredu dan wahanol haenau o lywodraeth a cheisio datrys sut i osgoi trwyddedu rhagor o olew a nwy.
Insiwleiddio tai
Daw Dr Allan o Ganada yn wreiddiol a phan ddaeth i fyw yma gyntaf roedd yn synnu bod ffenestri dwbl yn nodwedd byddai rhywun yn ei grybwyll wrth werthu tŷ yn hytrach na'i fod yn beth normal, safonol mewn tŷ, fel y mae yng Nghanada.
Mae tai wedi eu hinsiwleiddio yn well yn un o'r newidiadau bach sydd angen eu gwneud, meddai, er lles yr amgylchedd ac i daclo tlodi costau byw.
"Fedrwn ni ddim datrys yr argyfwng ynni os ydyn ni'n pwmpio mwy o ynni i mewn i dai drafftiog," meddai.
"Fe fyddai yn y pen draw yn well i'r blaned ac yn helpu i leddfu tlodi tanwydd hefyd drwy ddod a chostau cynhesu tai i lawr.
Oes gobaith cyfyngu i godiad o 1.5C?
"Ar un llaw rydw i'n obeithiol, mae'r holl syniadau da yma allan yno a'r holl dechnoleg.
"Mae'r cyhoedd yn agored i newid, mae pobl yn bwyta llai o gig, yn edrych ar ffyrdd eraill o deithio fel trafnidiaeth gyhoeddus a beicio.
"Mae 'na gymaint o arwyddion da, ond ar yr un pryd yn 2021 roedd ganddon ni'r allyriadau mwyaf ar record.
"Felly mae 'na ddatgysylltiad rhwng beth mae pobl eisiau, yn barod amdano ac sy'n bosib ac, ar yr un pryd, yr allyriadau diwydiannol mawr yma gan lond llaw o gwmnïau sy'n dal i fynd i fyny ac i fyny - felly mae'r ddau beth yna yn arwain at optimistiaeth a rhwystredigaeth yr un pryd."