Cefnogi cwyn ar ôl rhybudd am gyflenwi cyffur i AS

  • Cyhoeddwyd
Stephen DoughtyFfynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stephen Doughty ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dde Caerdydd a Phenarth ym mis Tachwedd 2012

Mae Heddlu De Cymru wedi cael cais i ailedrych ar pam eu bod wedi trin dyn gafodd ei rybuddio am gyflenwi diazepam i AS yn wahanol i'r gwleidydd ei hun.

Mae corff gwarchod yr heddlu wedi cefnogi yn rhannol gwyn gan etholwr a gafodd y rhybudd am gyflenwi y cyffur y mae modd ei gael drwy bresgripsiwn yn unig i'w AS Llafur lleol.

Cyfaddefodd Stephen Doughty, AS De Caerdydd a Phenarth, y llynedd ei fod ar un achlysur wedi gofyn i Byron Long am dabledi diazepam.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu eu bod wedi ategu cwyn yn rhannol gan Mr Long.

Gofynnodd y corff gwarchod i Heddlu De Cymru ailedrych ar pam eu bod yn trin Mr Long a Mr Doughty yn wahanol.

'Angen ymchwiliad pellach'

Mewn datganiad, dywedodd y corff: "Gallwn gadarnhau ein bod yn rhannol wedi ategu adolygiad o'r modd yr ymdriniwyd â chwyn gan Heddlu De Cymru.

"Rydym wedi penderfynu bod angen ymchwiliad pellach gan yr heddlu i agweddau o'r gŵyn, gan gynnwys mynd i'r afael â gwahaniaeth yn y canlyniadau i'r unigolion dan sylw.

"Er ein bod wedi cynghori y dylai Heddlu De Cymru adolygu ei broses o wneud penderfyniadau, ni allwn ac nid ydym wedi gofyn i'r heddlu gynnal ymchwiliad troseddol."

Gwadodd Mr Doughty honiad Mr Long iddo roi tabledi iddo mewn hyd at 20 cyfarfod mewn siop goffi yng Nghaerdydd, gan ddweud mai dim ond unwaith y digwyddodd hynny.

Ymddiheuro

Fis Mai diwethaf, ymddiheurodd yr AS "yn ddiamod am unrhyw gamgymeriad a wnaeth".

Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Mr Doughty bod yr AS wedi gofyn i "ffrind personol" am rai tabledi i'w cymryd cyn hediad hir mewn awyren.

Ychwanegodd y llefarydd bryd hynny: "Roedd e mewn panig ar y pryd ac wedi methu trefnu apwyntiad gyda'i feddyg teulu.

"Felly fe wnaeth e ofyn i ffrind - rhywun yr oedd wedi bod yn siarad ag ef am ei broblemau iechyd meddwl - am rai tabledi diazepam - tabledi yr oedd wedi arfer eu cymryd.

"Mae Stephen yn ymddiheuro am unrhyw gam gwag - ond gwneud cais i ffrind yr oedd wedi ymddiried ynddo ar hyd y blynyddoedd wnaeth ef.

"Yn y pendraw aeth Stephen ddim ar y trip - a doedd e ddim angen y tabledi."

Gwadu

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Llafur De Cymru, Alun Michael, hefyd wedi gwadu unrhyw ran yn yr achos.

Mae'n dilyn adroddiadau bod Mr Long, yn ei gŵyn, wedi gofyn ai'r rheswm na chafodd unrhyw gamau eu cymryd yn erbyn Mr Doughty oedd oherwydd ei gysylltiadau â Mr Michael.

Mewn datganiad, dywedodd y Comisiynydd: "Mae tad Stephen Doughty wedi bod yn ffrind ac yn gydweithiwr ers blynyddoedd lawer.

"Cafodd Stephen ei ddewis gan aelodau'r blaid Lafur leol, nid gennyf fi, a'i ethol gan etholwyr De Caerdydd a Phenarth.

"Gallaf ddweud yn bendant nad wyf wedi cael unrhyw ran o gwbl yn y modd y deliodd yr heddlu â'r achos."

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Mae'r mater wedi'i gyfeirio'n ôl at Heddlu De Cymru a thra ei fod yn parhau byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur nad oedd gan Mr Doughty unrhyw beth i'w ychwanegu at ddatganiadau blaenorol.

Mae bod ym meddiant diazepam, cyffur dosbarth C heb bresgripsiwn, yn drosedd ac yn gallu golygu dedfryd o hyd at ddwy flynedd o garchar.

Mae'n cael ei ddefnyddio yn feddygol ar gyfer pryder, ffitiau a sbasm o'r cyhyrau.